Skip to main content

Rhyddhad Ardrethi (2021 – 2022) – Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch

Mae Llywodraeth Cymru (LlC) wedi cyflwyno cynllun rhyddhad ardrethi ar gyfer y sector Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch i drethdalwyr cymwys ar gyfer 2021/22. Bydd y cynllun yn darparu cymorth ar ffurf gostyngiad o 100% o'r tâl ardrethol annomestig ar gyfer eiddo cymwys sydd â gwerth ardrethol o hyd at £500,000.

Bydd eiddo a fydd yn elwa o'r rhyddhad yn fusnesau manwerthu, hamdden neu letygarwch fel siopau, tafarndai a bwytai, campfeydd, lleoliadau perfformio a gwestai ledled Cymru, gyda gwerth ardrethol o £500,000 neu lai.

Caiff y rhyddhad ei gyflwyno i fusnesau ar sail meddiant rhwng 1 Ebrill 2021 a 31 Mawrth 2022.

Mae modd i chi weld canllawiau Llywodraeth Cymru isod sy'n rhoi manylion o'r mathau o fusnesau a allai fod yn gymwys ar gyfer y cynllun.

Darllen y Canllawiau

Heb dderbyn unrhyw fanylion am y cynllun yma ac o'r farn eich bod o bosibl yn gymwys? Llenwch y ffurflen 'Rhyddhad Ardrethi – Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch' isod.

Gwneud cais am Ryddhad Ardrethi - Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch.