Cafodd Cronfa Adfywio Cymunedol y DU ei chyhoeddi gan y Canghellor Rishi Sunak yn rhan o'r Gyllideb ar 3 Mawrth 2021, a chafodd manylion pellach eu darparu i Awdurdodau Lleol ar 18 Mawrth. Mae Gwybodaeth Gyfredol gan Lywodraeth y DU am y Gronfa ar gael yma:
www.gov.uk.
Mae'r gronfa'n cael ei gweinyddu ar lefel genedlaethol gan y Weinyddiaeth Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol (y Weinyddiaeth), ac ar lefel leol gan Awdurdodau Lleol. Bydd modd i ystod o ymgeiswyr prosiect gyflwyno cynigion am brosiectau i'r Cyngor, gan gynnwys darparwyr addysg, sefydliadau'r trydydd sector, a sefydliadau gwirfoddol a chymunedol (ond heb ei chyfyngu i'r rhain).
Bydd y prosiectau hyn yn cael eu hasesu yn ôl eu gallu i ddiwallu anghenion lleol neu strategol a nodwyd, cyn cael eu hanfon at y Weinyddiaeth i'w hystyried a'u cymeradwyo. Mae hon yn broses gystadleuol ac ni fydd pob cais yn llwyddiannus. Byddwn ni'n dilyn meini prawf Llywodraeth y DU.
Rhaid i brosiectau ddarparu gweithgarwch sy'n unol â Phrosbectws Cronfa Adfywio Cymunedol y DU, ac sy'n gydnaws ag o leiaf un o'r blaenoriaethau buddsoddi canlynol:
- Buddsoddi mewn sgiliau
- Buddsoddi ar gyfer busnes lleol
- Buddsoddi mewn cymunedau a lleoedd
- Helpu pobl i ddod o hyd i swyddi
Sylwch - mae'r broses asesu ar gyfer ceisiadau yn cynnwys dangos bod y cais yn cyd-fynd â strategaethau a chynlluniau lleol. Mae modd gweld y ddolen i Flaenoriaethau Corfforaethol y Cyngor ar gyfer trigolion a chymunedau yn y Dolenni Defnyddiol isod. Cofiwch gyfeirio yn eich cais at sut mae'ch prosiect yn cysylltu â blaenoriaethau lleol. Er bod modd i'ch prosiect fod o unrhyw faint, mae Llywodraeth y DU yn annog ymgeiswyr i fanteisio i'r eithaf ar yr effaith a'r gallu i gyflawni trwy brosiectau mwy (dros £500,000) lle bo hynny'n bosibl. Mae’n bosibl yr hoffech chi ystyried gwneud cais mewn partneriaeth â grwpiau a sefydliadau sydd â nodau tebyg.
Mae’r dyddiad olaf ar gyfer cyflwyno cais wedi mynd heibio.
Cynigion Llwyddiannus
Dolenni a dogfennau defnyddiol
Blaenoriaethau Corfforaethol y Cyngor / Amcanion Lles y Cyngor | Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf
Prosbectws, Ffurflen Gais a Nodyn Technegol ar gyfer Ymgeisydd Prosiect - ar gael yn Gymraeg a Saesneg
Cronfa Adfywio Cymunedol y DU: prosbectws - GOV.UK (www.gov.uk)
Cronfa Adfywio Cymunedol y DU: cwestiynau cyffredin - GOV.UK (www.gov.uk)
UKCRF - Cwestiynau Cyffredin (publishing.service.gov.uk)