Skip to main content

Newidiadau i'r Budd-dal Tai i Landlordiaid o fis Ebrill 2011

O fis Ebrill 2011, bydd y Llywodraeth yn gwneud newidiadau i’r Budd-daliadau Tai, ar gyfer tenantiaid sy’n rhentu o landlord yn y sector breifat.

Fydd hyn yn effeithio arna i?

Bydd, os ydych chi’n landlord preifat sy’n rhentu eiddo i denant preifat sy’n derbyn y Budd-dal Tai a’u bod nhw wedi gwneud cais ar gyfer eu cyfeiriad presennol ar neu ar ôl y 7fed o Ebrill 2008.

Beth yw'r newidiadau?

  • Bydd yr uchafswm o £15 y mae rhai tenantiaid yn ei dderbyn yn ychwanegol bob wythnos yn y Budd-dal Tai yn dod i ben. Mae hyn yn golygu na fydd tenantiaid yn gallu derbyn mwy o arian o’r Budd-dal Tai na swm yr arian sy’n ddyledus ar gyfer y rhent. 

Bydd terfynau ariannol uchaf, felly fydd cyfraddau wythnosol Lwfans Tai Lleol mewn unrhyw ardal ddim mwy na:

  1. £250 yr wythnos ar gyfer cartrefi sydd ag un ystafell wely
  2. £290 yr wythnos ar gyfer cartrefi sydd â dwy ystafell wely
  3. £340 yr wythnos ar gyfer cartrefi sydd â thair ystafell wely
  4. £400 yr wythnos ar gyfer cartrefi sydd â phedair ystafell wely 

Mae’n siŵr y bydd y terfynau yma dim ond yn cael effaith ar eiddo yn Llundain.

  • Fydd dim Lwfans Tai Lleol ar gael mwyach ar gyfer cartrefi sydd â phum ystafell wely. Y lefel uchaf yw'r Lwfans ar gyfer eiddo sydd â phedair ystafell wely
  • Bydd y Llywodraeth yn lleihau cyfraddau’r Lwfans Tai Lleol, fel y bydd 3 o bob 10 eiddo sydd i’w rhentu yn yr ardal yn fforddiadwy i bobl sy’n derbyn y Budd-dal Tai.  Ar hyn o bryd, mae 5 o bob 10 eiddo yn yr ardal yn fforddiadwy i bobl sy’n derbyn y Budd-dal Tai
  • Bydd pobl anabl sy’n gwneud cais am y Budd-dal Tai yn gallu gwneud cais am ystafell wely ychwanegol os oes angen i gynhaliwr aros dros nos - cysylltwch â ni yn syth os ydych chi o'r farn eu bod nhw'n gymwys.

Sut bydd hyn yn effeithio arna i?

Mae’n bosibl y bydd cyfanswm y Budd-dal Tai sydd rhaid i’ch tenant ei dalu yn gostwng. Os ydy’r Budd-dal Tai yn cael ei dalu’n uniongyrchol i chi, gall y swm rydych chi’n ei dderbyn ostwng. Os ydych chi’n rhentu’ch eiddo i rywun sy’n hawlio’r Budd-dal Tai, bydd yn rhaid i chi ystyried y newidiadau yma cyn i chi adnewyddu’ch cytundeb neu cyn i chi greu cytundeb newydd.

Os ydy’ch tenant yn gymwys i dderbyn ystafell wely ychwanegol oherwydd bod anabledd gydag ef a bod angen i gynhaliwr aros dros nos, yna efallai bydd ei fudd-dal yn cynyddu.

Pryd bydd hyn yn effeithio arna i?

Os yw’r cais yn gais newydd am y Budd-dal Tai neu’n gais ar gyfer cyfeiriad newydd, bydd y newidiadau yma’n dod i rym o 1 Ebrill 2011.

  • Mae'r tenant yn derbyn y Budd-dal Tai ac yn symud tŷ.
  • Mae aelwyd y tenant yn newid, hynny yw, mae rhywun yn gadael neu mae rhywun yn symud i fyw gydag ef.
  • Mae'r tenant yn gymwys i dderbyn ystafell ychwanegol ar gyfer cynhaliwr.

Pryd bydd cais y tenant yn cael ei asesu nesaf?

Mae modd cael ateb i hyn drwy edrych ar y dyddiad y gwnaeth y tenant y cais gwreiddiol am y Budd-dal Tai, (neu'r dyddiad diwethaf i ni wneud asesiad), hynny yw, os gwnaeth y tenant y cais ar 5 Medi 2010, dyddiad yr adolygiad blynyddol fydd 5 Medi 2011. 

I unrhyw un sy’n cael eu heffeithio gan y newidiadau, bydd y Cyngor yn ysgrifennu eto at denantiaid a landlordiaid ymlaen llaw i roi gwybod am unrhyw newidiadau ac i hysbysu am y swm newydd sy’n daladwy.

Yn y cyfamser, os oes unrhyw newidiadau yn amgylchiadau'r tenant, rhaid iddo roi gwybod i'r Cyngor yn syth.