Skip to main content

Diogelwch nwy mewn cartrefi sy'n cael eu rhentu'n breifat

Yn ôl y gyfraith, mae cyfrifoldebau penodol gan landlordiaid dros eu tenantiaid o ran materion diogelwch nwy.

Os ydych chi'n landlord, a'ch bod chi'n gosod eiddo sydd ag offer nwy, mae eisiau i chi ddeall y gyfraith ynglŷn â diogelwch nwy, a chydymffurfio â hi.

Os ydych chi'n gosod eiddo, mae eisiau i chi sicrhau bod y pibellau, yr offer a'r simneiau sy'n cael eu darparu ar gyfer y tenantiaid yn cael eu cynnal a'u cadw mewn cyflwr diogel. Mae eisiau i chi gael gwiriad diogelwch nwy bob blwyddyn. Mae eisiau i beiriannydd, sydd ar y Gofrestr Diogelwch Nwy, gyflawni'r gwiriad diogelwch mewn unrhyw eiddo sydd gennych chi yn y Deyrnas Unedig ac Ynys Manaw. Mae eisiau i chi roi copi o'r dystysgrif diogelwch nwy i'ch tenantiaid ymhen 28 diwrnod ar ôl i'r gwiriad gael ei gyflawni, neu cyn iddyn nhw symud i mewn. Mae hefyd eisiau i chi ddangos i'ch tenantiaid sut i gau'r cyflenwad nwy pe bai nwy yn gollwng.

Gwiriadau blynyddol

Yn ôl y gyfraith, mae cyfrifoldeb ar landlordiaid i sicrhau bod peiriannydd, sydd ar y Gofrestr Diogelwch Nwy, yn gwirio offer nwy bob 12 mis mewn eiddo sydd ar osod ac yn rhoi copïau o'r dystysgrif diogelwch nwy.

Tystysgrifau diogelwch nwy

Ar ôl i beiriannydd, sydd ar y Gofrestr Diogelwch Nwy, wirio offer nwy mewn eiddo sydd ar osod, bydd e/hi yn rhoi tystysgrif diogelwch nwy. Mae'r dystysgrif yma yn cadarnhau bod yr offer nwy wedi'u gwirio a'u bod nhw'n ddiogel.

Mae eisiau i chi roi copïau o'r tystysgrifau diogelwch nwy i'ch tenantiaid ymhen 28 diwrnod ar ôl i'r gwiriadau gael eu cynnal, neu roi copïau o'r tystysgrifau diogelwch nwy i denantiaid newydd cyn iddyn nhw symud i mewn.

Cofiwch fod eisiau i chi gadw cofnod o bob gwiriad diogelwch nwy am ddwy flynedd.

Am ragor o wybodaeth ynglŷn â Diogelwch Nwy, cliciwch yma (Saesneg)