Skip to main content

Gwneud cais am Drwydded Tai Amlfeddiannaeth newydd Licence

Rhaid i chi wneud cais am drwydded Tŷ Amlfeddiannaeth ar-lein.

Pwy ddylai gyflwyno'r cais am Drwydded Tai Amlfeddiannaeth?

Dylai perchennog yr eiddo wneud cais am y drwydded.

Beth fydd y Cyngor yn ei asesu yn rhan o'r cais?

Bydd broses drwyddedu Tai Amlfeddiannaeth yn cynnwys edrych ar y Tŷ Amlfeddiannaeth ei hun, y perchennog ac unrhyw reolwyr arfaethedig.

Bydd yr Awdurdod yn cyflwyno trwydded os yw'n fodlon: 

  • Bod yTŷ Amlfeddiannaeth yn rhesymol addas ar gyfer nifer y bobl sy'n byw yno yn unol ag amodau'r drwydded
  • Bod y deiliad trwydded arfaethedig yn "berson addas a phriodol"
  • Mai’r deiliad trwydded arfaethedig yw'r person mwyaf addas i ddal y drwydded
  • Bod y rheolwr arfaethedig (os oes un) yn "berson addas a phriodol"
  • Bod y trefniadau ar gyfer rheoli'r eiddo yn foddhaol
  • Bod y person sydd ynghlwm â gwaith rheoli'r Tŷ Amlfeddiannaeth yn berson cymwys
  • Bod strwythur ariannol ar gyfer rheoli a chynnal yr eiddo yn addas

Beth fydd angen arna i cyn gwneud cais am Drwydded Tai Amlfeddiannaeth?

Cyn i chi wneud eich cais ar-lein, casglwch y dystiolaeth ganlynol:

  • Rhestr o'r holl bartïon â diddordeb (enwau, cyfeiriadau, disgrifiad o'u diddordeb nhw yn yr eiddo/cais a'r dyddiad cyflwyno).  Bydd angen i chi roi gwybod i'r bobl yma am y cais.
  • Cytundeb tenantiaeth / datganiad o delerau meddiannaeth ysgrifenedig
  • Cynllun llawr.  Does dim angen i'r cynllun yma fod i raddfa, ond dylai nodi defnydd pob ystafell a phresenoldeb offer rhagofalon tân. Mae modd i chi dynnu llun o hyn â llaw, ond bydd angen i chi lwytho'r llun yma i gyd-fynd â'ch cais.
  • Tystysgrif diogelwch nwy gyfredol y landlord (os yw'n berthnasol)
  • Adroddiad Cyflwr Gosodiadau Trydanol (dydy cyflwyno tystysgrifau â chod nam 1 neu nam 2 ddim yn dderbyniol.)
  • Adroddiad gosod/archwilio a gwasanaethu'r larwm tân
  • Tystysgrif archwilio a phrofi goleuadau argyfwng (os yw'n berthnasol)

Bydd angen cerdyn credyd neu ddebyd er mwyn talu ar-lein ar gyfer eich cais.

GWIRIO A YW EICH EIDDO YN DŶ AMLFEDDIANNAETH A GWNEUD CAIS AR-LEIN

Gwneud Cais am Drwydded Tai Amlfeddiannaeth ar-lein