Skip to main content

Adnewyddu'ch Trwydded Tai Amlfeddiannaeth

Rhaid i chi adnewyddu'ch Trwydded Tai Amlfeddiannaeth ar-lein.

Pryd dylwn i adnewyddu fy Nhrwydded Tai Amlfeddiannaeth?

Dylech chi adnewyddu'ch trwydded cyn i'r drwydded gyfredol ddod i ben. Bydd cost eich trwydded newydd yn ddrytach os nad ydych chi'n gwneud hyn. Mae modd i drwydded bara hyd at 5 mlynedd; gwiriwch ddyddiad dod i ben eich trwydded.

Pwy ddylai wneud cais am Drwydded Tai Amlfeddiannaeth newydd?

Dim ond y deiliad trwydded cyfredol sydd â'r hawl i adnewyddu'i Drwydded Tai Amlfeddiannaeth.

Beth fydd y Cyngor yn ei asesu yn rhan o'r cais?

Mae'r broses ar gyfer Trwydded Tai Amlfeddiannaeth yn ystyried y Tŷ Amlfeddiannaeth ei hun, y perchennog ac unrhyw reolwr arfaethedig.

Bydd yr Awdurdod yn adnewyddu trwydded os yw'n fodlon: 

  • Bod y Tŷ Amlfeddiannaeth yn rhesymol addas ar gyfer nifer y bobl sy'n byw yno yn unol ag amodau'r drwydded
  • Bod y deiliad trwydded arfaethedig yn "berson addas a phriodol"
  • Mai’r deiliad trwydded arfaethedig yw'r person mwyaf addas i ddal y drwydded
  • Bod y rheolwr arfaethedig (os oes un) yn "berson addas a phriodol"
  • Bod y trefniadau ar gyfer rheoli'r eiddo yn foddhaol
  • Bod y person sydd ynghlwm â gwaith rheoli'r Tŷ Amlfeddiannaeth yn berson cymwys
  • Bod strwythur ariannol ar gyfer rheoli a chynnal yr eiddo yn addas

 

Beth fydd angen arna i cyn gwneud cais am Drwydded Tai Amlfeddiannaeth?

Cyn i chi wneud eich cais ar-lein, casglwch y dystiolaeth ganlynol:

  • Rhestr o'r holl bartïon â diddordeb (enwau, cyfeiriadau, disgrifiad o'u diddordeb nhw yn yr eiddo/cais a'r dyddiad cyflwyno). Bydd angen ichi roi gwybod i’r bobl yma am y cais. 
  • Cytundeb tenantiaeth / datganiad o delerau meddiannaeth ysgrifenedig
  • Cynllun llawr.  Does dim angen i'r cynllun yma fod i raddfa, ond dylai nodi defnydd pob ystafell a phresenoldeb offer rhagofalon tân. Mae modd i chi dynnu llun o hyn â llaw, ond bydd angen i chi lwytho'r llun yma i gyd-fynd â'ch cais.
  • Tystysgrif diogelwch nwy gyfredol y landlord (os yw'n berthnasol)
  • Adroddiad Cyflwr Gosodiadau Trydanol (dydy cyflwyno tystysgrifau â chod nam 1 neu nam 2 ddim yn dderbyniol.)
  • Adroddiad gosod/archwilio a gwasanaethu'r larwm tân.
  • Tystysgrif archwilio a phrofi goleuadau argyfwng (os yw'n berthnasol).

Bydd angen cerdyn credyd neu ddebyd er mwyn talu ar-lein ar gyfer eich cais.

Adnewyddu’ch Trwydded Tai