Skip to main content

Cyngor i landlordiaid

Oes gyda chi eiddo i'w osod yn Rhondda Cynon Taf?
Ydych chi'n archwilio pa opsiynau sydd gyda chi o ran gosod llety yn Rhondda Cynon Taf?
A fyddai diddordeb gyda chi mewn buddsoddi a datblygu llety i'w rentu yn RhCT?
Os ydych chi wedi ateb 'ydw' neu 'byddai' i unrhyw un o'r cwestiynau uchod, bydd yr wybodaeth ganlynol o ddiddordeb i chi.

Gwasanaeth Datrysiadau Tai'r Cyngor - Mae'r gwasanaeth yma'n darparu cymorth a chyngor i aelwydydd dan fygythiad neu sy'n profi digartrefedd. Mae'r Gwasanaeth Datrysiadau Tai yn ceisio cyfleoedd rhentu o bob math ac ym mhob ardal. 

Mae modd i'r Gwasanaeth Dod o hyd i Denant Am Ddim wella'ch siawns o ddod i hyd i ddarpar denantiaid.  Caiff tenantiaid eu paru yn ôl eu gallu i fodloni goblygiadau ariannol mewn perthynas â thalu rhent o lefel penodol. Dydy landlordiaid ddim o dan unrhyw oblygiadau i dderbyn aelwydydd sydd wedi cael eu henwebu gan Wasanaeth Datrysiadau Tai'r Cyngor ac mae modd iddyn nhw barhau i hysbysebu'r eiddo yn breifat.

Mae modd trafod cymhelliannau ychwanegol i sicrhau eiddo mewn ardaloedd lle mae galw mawr. I gael rhagor o wybodaeth ac i gofrestru'ch eiddo, cysylltwch â Swyddog Datblygu'r Sector Rhentu'n Breifat y Cyngor trwy e-bostio gosodtaicymdeithasol@rctcbc.gov.uk  neu ffonio 01443 281490

Mae gwybodaeth ychwanegol ar gael mewn perthynas â'r materion canlynol.

 Cyflenwad a Galw - Yn y mwyafrif o ardaloedd, bydd lefel y galw a'r gallu i rentu eiddo yn gyflym a chadw tenantiaid am gyfnod hir yn dibynnu ar ansawdd y llety a lefel y rhent. Mae gan RhCT farchnad dai amrywiol ac ardaloedd sydd â galw mawr iawn ac isel. 

Mae Gogledd RhCT, sy'n cynnwys mwyafrif yr ardaloedd yng Nghwm Cynon a Chwm Rhondda yn cynnwys rhai o'r ardaloedd lle mae'r galw isaf, yn enwedig ar gyfer teuluoedd mwy.  Yn yr ardaloedd yma, mae'r rhent meincnod yn cael ei bennu gan Gyfraddau Lwfans Tai Lleol ac mae'n adlewyrchu gwerth rhent isel yr eiddo. Mewn rhai enghreifftiau eithriadol, caiff eiddo eu gosod yn is na'r Lwfans Tai Lleol er mwyn denu a chadw tenantiaid arfaethedig.

 Mae De RhCT yn cyflwyno'r galw mwyaf am lety fforddiadwy i'w rentu o bob math a maint ac mae rhent y farchnad fel arfer llawer yn uwch na chyfraddau'r Lwfans Tai Lleol. Mae hyn yn adlewyrchu gwerth rhent uchel yr eiddo.

Y math o lety sydd â'r mwyaf o alw yw eiddo 1 ystafell wely pwrpasol ac mae disgwyl i hyn barhau yn y dyfodol agos. Mae yna alw cynyddol am lety hygyrch er mwyn bodloni anghenion aelwydydd ag anawsterau symud o ganlyniad i newidiadau demograffig a'r cynnydd yn nifer yr aelwydydd sy'n cyrraedd oedran hŷn. 

I gael rhagor o wybodaeth mewn perthynas â ffactorau cyflenwad a galw yn RhCT, e-bostiwch y Swyddog Datblygu'r Sector Rhentu'n Breifat james.evans@rctcbc.gov.uk

 Fforwm Landlordiaid RhCT

Mae'r Cylch Trafod hefyd wedi cael ei sefydlu i ddarparu cyfle i landlordiaid rwydweithio a datblygu arferion proffesiynol ym mhob rhan o'r sector rhentu preifat. Mae aelodaeth am ddim ac mae'r cyfarfodydd ar agor i bawb.

Am ragor o wybodaeth, e-bostiwch: rctlandlordsforum@rctbc.gov.uk

Cylchlythyr Landlordiaid

Tanysgrifiwch i Gylchlythyr Landlordiaid i dderbyn y newyddion diweddaraf mewn perthynas â gwasanaethau, mentrau a chyfleoedd newydd.

Cyfeirlyfr Gwasanaethau'r Awdurdod Lleol ar gyfer y Sector Rhentu Preifat yng Nghymru

 Dogfennau defnyddiol y mae modd eu lawrlwytho:

 Safonau Cartrefi Gydol Oes

Cefnogi Tenantiaid sy'n agored i Niwed

Cynllun Achredu Eiddo Trefforest

Canllawiau Safonau Tystysgrif Perfformiad Ynni

Credyd Cynhwysol i Landlordiaid

Cyfraddau'r Lwfans Tai Lleol

Canllawiau Diogelwch Nwy ar gyfer Landlordiaid

Canllawiau System Mesur Iechyd a Diogelwch ar gyfer Tai (HHSRS) ar gyfer Landlordiaid

Taflen Ffeithiau Llysiau'r Dial (Canclwm Japan)