Skip to main content

Gwybodaeth a Chyngor i Landlordiaid Preifat

Mae Rhondda Cynon Taf wedi ymrwymo i gefnogi'r sector rhentu preifat trwy ddarparu ystod o wasanaethau arbenigol i landlordiaid.

Mae'r Cylchlythyr i Landlordiaid yn wasanaeth am ddim ac yn darparu'r newyddion diweddaraf mewn perthynas â gwasanaethau, mentrau, cyfleoedd ac arferion da i landlordiaid sy'n gweithredu yn Rhondda Cynon Taf.

Mae'r cylchlythyr hefyd yn rhoi cyfle i fusnesau hysbysebu a chodi'u proffiliau.

E-bostiwchRCTlandlord@rctcbc.gov.uk os ydych chi eisiau cael eich cynnwys yn y rhestr bostio neu i gael rhagor o wybodaeth ynghylch hysbysebu.

Fforwm Landlordiaid RhCT

Mae'r Cylch Trafod hefyd wedi cael ei sefydlu i ddarparu cyfle i landlordiaid rwydweithio a datblygu arferion proffesiynol ym mhob rhan o'r sector rhentu preifat. Mae aelodaeth am ddim ac mae'r cyfarfodydd ar agor i bawb.

Am ragor o wybodaeth, e-bostiwch: RCTlandlord@rctcbc.gov.uk

Cynllun Denu landlordiaid

Mae amrywiaeth o wasanaethau wedi cael eu datblygu i gefnogi landlordiaid ym mhob rhan o'r gwaith datblygu, gosod eiddo i'w rentu a rheoli'r broses.

Rhentu Doeth Cymru

Mae gofyn i landlordiaid sy'n gweithredu yng Nghymru gofrestru'u heiddo o dan Ddeddf Tai (Cymru) 2014 a chael trwydded os ydyn nhw'n gyfrifol am reoli'r denantiaeth. I gael rhagor o wybodaeth ac i gofrestru ewch i dudalen Rhentu Doeth Cymru.

Safonau Tai Amlfeddiannaeth

Mae’r Cyngor yn gyfrifol am weinyddu’r Cynllun Trwyddedu ar gyfer mathau arbennig o Dai Amlfeddiannaeth.  Eto mae’r pwyslais ar reolaeth dda gan landlordiaid da.  I gael rhagor o wybodaeth ewch i Safonau Tai Amlfeddiannaeth. 

Cynllun Achredu Eiddo Trefforest

Codi safonau ac ansawdd llety i'w rhentu yn ardal Ward Trefforest, RhCT. Mae modd i landlordiaid sydd ag eiddo yn ardal Trefforest wneud cais i ymuno â'r cynllun am ddim ac mae'n rhoi cyfle i asesu ansawdd a mwynder llety i'w rhentu. Caiff y cynllun ei gefnogi gan Gyngor RhCT a Phrifysgol De Cymru ac mae'n hyrwyddo llety o ansawdd da trwy ddarparu peiriant chwilio wedi'i neilltuo.

I gael rhagor o wybodaeth neu i wneud cais, ewch i dudalen we Achredu Eiddo Trefforest. 

Cyfeirlyfr Gwasanaethau'r Awdurdod Lleol ar gyfer y Sector Rhentu Preifat

Mae'r Cyfeirlyfr wedi cael ei lunio i ddarparu mewnwelediad i'r amrywiaeth o wasanaethau sy'n cael eu darparu gan gynghorau yng Nghymru i landlordiaid, datblygwyr a buddsoddwyr.

Cynllun Ynni ac Arbed

Mae'r cynllun yn darparu cyngor cynhwysfawr a chymorth ymarferol ym mhob rhan o'r farchnad ynni domestig, effeithlonrwydd, grantiau ac arfer gorau. Mae modd dod o hyd i ragor o wybodaeth ar

wefan Yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni

Tai Cymru

Ym mis Chwefror 2019, cyhoeddodd gynllun Tyfu Tai Cymru adroddiad yn dilyn ein gwaith ymchwil i gymorth iechyd meddwl ar gyfer tenantiaid a landlordiaid yn y sector rhentu preifat.Erbyn hyn rydyn ni eisiau siarad â landlordiaid am y gwasanaethau cymorth sydd bellach ar gael ac i ddysgu rhagor am eich profiadau o gefnogi tenantiaid sydd â phroblemau iechyd meddwl yn eich ardal chi.  Byddwn ni'n defnyddio'r wybodaeth i roi gwybod i wasanaethau am sut mae modd iddynt gefnogi landlordiaid a thenantiaid.

Roedd ein gwaith ymchwil wedi canfod bod:

  • Un sefydliad ym mhob tri yn teimlo bod 'byth' digon o gymorth iechyd meddwl ar gyfer tenantiaid sy'n rhentu gan y sector preifat.
  • Gan 62% o landlordiaid denant â phroblem iechyd meddwl, neu wedi cael tenant â phroblem iechyd meddwl yn y gorffennol
  • Bron i hanner landlordiaid y sector preifat yn teimlo eu bod nhw 'erioed' wedi cael digon o gymorth neu wybodaeth i gefnogi tenantiaid sydd â phroblemau iechyd meddwl.
  • Landlordiaid yn dymuno cael mynediad at ragor o wybodaeth a chymorth.
  • Ymyrraeth gynnar yn allweddol wrth helpu pobl i gynnal eu tenantiaeth.
  • Yna awgrymiadau bod pobl â phroblemau iechyd meddwl weithiau'n wynebu gwahaniaethu wrth geisio cael mynediad i dai'r sector rhentu preifat.

https://r1.dotmailer-surveys.com/d6yrx0e-cc45d0bd

 

Ffôn: 01443 281136
Ffacs: 01443 425301
Neges destun: 07781 489133