Skip to main content

Lles anifeiliaid

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn gyfrifol am weithredu ystod o ddeddfwriaeth lles anifeiliaid, yn bennaf, Deddf Iechyd Anifeiliaid 1981, Deddf Diogelwch Bwyd 1990, Deddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972, Deddf Amaethyddiaeth (Darpariaethau Amrywiol) 1968, Deddf Lles Anifeiliaid 2006 ac is-ddeddfwriaeth.

Mae'r Cyngor yn awyddus i weithio gyda ffermwyr a phobl sy'n cadw da byw i ddiogelu busnesau ac iechyd y cyhoedd. Drwy ddarparu cyngor a gwybodaeth i'r rheiny sy'n gysylltiedig â chadw da byw, bydd hi'n bosibl lleddfu unrhyw faich a diogelu iechyd yr anifeiliaid a'r cyhoedd Mae'r Awdurdod yn gweithio'n agos gyda'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion ac mae'n dilyn dull arolygu sy'n seiliedig ar risg. Rydyn ni'n cyflawni ein gwaith yn y dull isod.

Dyma brif amcanion y ddeddfwriaeth:

  • Atal, rheoli a dileu clefydau ymysg anifeiliaid;
  • Diogelu lles anifeiliaid mewn daliadau amaethyddol, wrth eu cludo ac mewn marchnadoedd;
  • Diogelu iechyd dynol a'r gadwyn fwyd rhag clefydau trosglwyddadwy.
  • Mae swyddogion iechyd anifeiliaid yn gorfodi pob agwedd ar y ddeddfwriaeth uchod, ac mae eu dyletswyddau'n cynnwys:
  • Mynychu lladd-dai, marchnadoedd/cynulliadau ac arwerthiannau da byw, er mwyn sicrhau dogfennaeth gywir, iechyd corfforol y da byw, dulliau cywir o ran corlannu a thrafod;
  • Arolygu ffermydd er mwyn sicrhau eu bod nhw'n cydymffurfio â rheolau am gofnodion a lles;
  • Gwirio cerbydau ar ymyl y ffordd i sicrhau cywirdeb o ran dogfennaeth cludiant, trwyddedau, lles ac amlygu symudiadau anghyfreithlon;
  • Cyhoeddi trwyddedau ar gyfer symud da byw;
  • Ymchwilio i gwynion mewn perthynas â lles anifeiliaid;
  • Cymryd camau ffurfiol yn erbyn troseddwyr pan fydd camau eraill yn aflwyddiannus.

Trwydded symud gyffredinol

Yn dilyn yr achosion o Glwy'r Traed a'r Genau yn 2001, cafodd Gorchymyn Rheoli Clefydau (Cymru) 2003 ei sefydlu i reoli symud anifeiliaid ac, felly, atal yr achosion rhag codi eto.

Mae ffurflenni cais am Drwydded Symud Gyffredinol ar gael ar gyfer y canlynol:

  • Gwartheg
  • Defaid a geifr
  • Moch
  • Ceirw

Mae'r rheolau diweddaraf o ran symud anifeiliaid mewn grym ers 31 Mawrth 2011.

Dogfennau symud anifeiliaid

Rhaid anfon dogfen symud (AML2 ac AML2) wrth symud defaid, geifr a moch – ar ôl cyrraedd pen y daith, rhaid anfon y copi gwyn at yr Awdurdod Lleol yn y gyrchfan o fewn 3 diwrnod.

Mae'r ddogfen symud ar gael gan eich awdurdod lleol.

E-bost: publichealthanimalwelfare@rhondda-cynon-taf.gov.uk

Mae symud moch yn cael ei gofnodi'n electronig trwy sicrhau trwydded gan eAML2 cyn mynd ati i'w symud.

Cynllun Teithio i Anifeiliaid Anwes

Mae'r Cynllun Teithio i Anifeiliaid Anwes (Cynllun PETS) yn system sy'n caniatáu i anifeiliaid anwes o rai gwledydd ddod i mewn i'r Deyrnas Unedig heb orfod bod yn destun cyfnod o gwarantîn, ar yr amod bod gweithdrefnau penodedig yn cael eu dilyn.

Mae hefyd yn golygu y gall pobl yn y Deyrnas Unedig fynd â'u hanifeiliaid anwes i wledydd eraill yn yr Undeb Ewropeaidd, a dod â nhw yn ôl i'r Deyrnas Unedig.

Hefyd, ar ôl mynd â'u hanifeiliaid anwes i rai gwledydd sydd ddim yn rhan o'r Undeb Ewropeaidd, mae'n bosibl iddyn nhw ddod â nhw yn ôl i'r Deyrnas Unedig heb yr angen am gwarantîn.

I gael rhagor o wybodaeth am yr uchod, cliciwch ar y ddolen isod:

Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (‘DEFRA’): Cynllun Teithio i Anifeiliaid Anwes

Pasbortau ceffylau

Er mwyn cydymffurfio â Rheoliadau Adnabod Ceffylau (Cymru) 2009, mae'n rhaid i bawb sy'n berchen ar geffylau, neu'n eu cadw nhw – gan gynnwys merlod, asynnod a cheffylau eraill – sicrhau bod ganddyn nhw ddogfennau adnabod cywir.

Rhaid cael dogfennau adnabod a phasbortau gan Awdurdod Cyhoeddi Pasbortau cydnabyddedig.

  • Yn dechrau 1 Gorffennaf 2009, bydd angen i bob perchennog sy'n gwneud cais am y pasbort cyntaf i'w geffyl osod microsglodyn yn y ceffyl dan sylw.
  • Dim ond perchnogion sy'n cael gwneud cais am basportau.
  • Dim ond milfeddygon sy'n cael gosod microsglodion.
  • Rhaid i'r pasbort fynd gyda'r ceffyl dan sylw bob tro mae'n cael ei symud a bod ar gael i'w harchwilio ar bob adeg.
  • Pan fydd meddyginiaethau sydd heb eu hawdurdodi ar gyfer anifeiliaid y gadwyn fwyd (gan gynnwys phenylbutazone (“bute”)) yn cael eu rhagnodi ar gyfer ceffylau, bydd rhaid eithrio'r ceffylau hynny o'r gadwyn fwyd ddynol.
  • Pan fydd dim pasbort dilys ar gael, fydd milfeddygon yn cael rhoi/rhagnodi dim ond cyffuriau sydd wedi'u hawdurdodi ar gyfer anifeiliaid sy'n cynhyrchu bwyd.

Hefyd:-

  • Rhaid i berchnogion neu geidwaid sy'n gyfrifol am y ceffyl ddangos y pasbort ar unwaith pan fydd arolygiad.
  • Bydd ceffylau sy'n derbyn eu pasbort cyntaf y tu allan i'r dyddiadau terfyn yn cael eu heithrio o'r gadwyn fwyd.
  • Pan fydd ceffyl yn marw, bydd rhaid i'r perchennog ddychwelyd y pasbort i'r corff cyhoeddi o fewn 30 diwrnod ar ôl ei farwolaeth.

I gael rhagor o wybodaeth am yr uchod, cliciwch ar y ddolen isod:

Llywodraeth Cymru: Iechyd a lles anifeiliaid

Adnabod da byw

Rhaid adnabod pob anifail amaethyddol yn gywir cyn iddo adael ei ddaliad. I gael rhagor o wybodaeth am adnabod da byw a deddfwriaeth gysylltiedig, cliciwch ar y ddolen isod:

Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (‘DEFRA’): Da byw – symud, adnabod ac olrhain

Mae canllawiau ar gadw anifeiliaid fferm hefyd ar gael trwy glicio ar y ddolen isod:

Llywodraeth Cymru: Lles da byw – anifeiliaid fferm

Rhoi gwybod am glefydau hysbysadwy

Mae llawer o glefydau anifeiliaid yn arbennig o heintus ac mae'n rhaid rhoi gwybod amdanyn nhw cyn gynted ag y mae amheuaeth bod achosion yn bodoli.

Mae clefydau hysbysadwy o'r fath yn cynnwys:

  • Clwy'r Traed a'r Genau
  • Clwy'r Moch
  • Anthracs
  • Y Gynddaredd

Os ydych chi'n amau bod arwyddion o glefyd hysbysadwy, neu os oes achos yn cael ei gadarnhau, mae'n rhaid i chi roi gwybod i'r canlynol ar unwaith:

  • Yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion
  • Swyddog Iechyd Anifeiliaid yr Awdurdod Lleol
  • Yr Heddlu

I gael rhestr gynhwysfawr o glefydau hysbysadwy, cliciwch ar y ddolen isod:

Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (‘DEFRA’): Clefydau anifeiliaid

Deddf Lles Anifeiliaid 2006

Daeth Deddf Lles Anifeiliaid 2006 i rym yng Nghymru ar 27 Mawrth 2007.

Mae hi yn erbyn y gyfraith i fod yn greulon tuag at anifeiliaid, ac mae rhaid sicrhau eich bod chi'n diwallu holl anghenion lles eich anifeiliaid.

Beth ydy Deddf Lles Anifeiliaid yn ei wneud?

Mae'r ddeddf yn nodi bod perchnogion a cheidwaid yn gyfrifol am sicrhau eu bod nhw'n diwallu anghenion lles eu hanifeiliaid.

Mae'r rhain yn cynnwys yr anghenion canlynol:

  • amgylchedd addas (man byw) 
  • deiet addas
  • arddangos patrymau ymddwyn cyffredin
  • byw gydag anifeiliaid eraill, neu ar wahân i anifeiliaid eraill (os yw'n berthnasol)
  • eu diogelu rhag poen, anafiadau, dioddefaint a chlefyd

Mae'r gyfraith hefyd wedi cynyddu'r oedran prynu anifail i 16, ac yn gwahardd unrhyw un rhag rhoi anifeiliaid yn wobrau i blant dan yr oedran yma os ydyn nhw ar eu pennau eu hunain.

Gall unrhyw un sy'n ymddwyn yn greulon tuag at anifail, neu sydd ddim yn darparu ar gyfer ei anghenion lles, gael ei wahardd rhag bod yn berchen ar anifeiliaid, cael dirwy o £20,000 a/neu gael ei anfon i'r carchar.

Tan yn ddiweddar, roedd y ddeddfwriaeth lles anifeiliaid yn nodi bod dim ond modd erlyn os oedd creulondeb neu ddioddefaint yn bodoli. Mae Deddf Lles Anifeiliaid 2006 yn nodi cosbau mwy llym ar gyfer unrhyw un sy'n euog o drosedd sy'n ymwneud â lles anifeiliaid. Mae'r ddeddf hefyd yn rhoi grym i asiantaethau weithredu'r gyfraith i gymryd camau i atal dioddefaint anifeiliaid cyn iddo ddigwydd.

Am ragor o wybodaeth, a chopi o'r cod ymarfer ar gyfer lles cŵn, cathod neu geffylau, dilynwch y ddolen ganlynol.

Llywodraeth Cymru: Codau ymarfer ar gyfer lles cathod, cŵn, ceffylau a chwningod

Mae nifer o daflenni ynglŷn â materion lles anifeiliaid ar gael gan Gynllun Materion Iechyd Anifeiliaid.

Cysylltu â ni

Carfan Lles Anifeiliaid

Uwchadran Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd
Tŷ Elái
Dinas Isaf
Trewiliam
Tonypandy
CF40 1NY

Ffôn: 01443 425001
Ffacs: 01443 425304