Skip to main content

Trwydded Gweithredwr Pont Bwyso

Mae pont bwyso yn beiriant pwyso mawr sydd wedi'i osod yn y llawr, sy'n galluogi i bwysau cerbyd gael ei ganfod. Mae pont bwyso gyhoeddus yn un sydd ar gael i aelodau'r cyhoedd; mae'n bosibl y caiff tâl ei godi am ei defnyddio.

Crynodeb o'r rheoliadau

Os oes pont bwyso gyda chi, ac rydych chi am ei gweithredu yn bont bwyso gyhoeddus, bydd gofyn i chi gysylltu â'ch Adran Safonau Masnach leol er mwyn cael y dystysgrif ofynnol. Bydd tystysgrif yn cael ei rhoi ar ôl i chi dalu'r ffi a llwyddo mewn arholiad cymhwysedd. Byddai gweithredu pont bwyso heb dystysgrif yn dramgwydd troseddol o dan Ddeddf Pwysau a Mesuriadau 1985.

Meini prawf

Mae rhaid bod gyda chi wybodaeth ddigonol ar gyfer cyflawni'ch dyletswyddau yn briodol.

Cyflwyno cais

Mae ffurflenni cais ar gael trwy gysylltu â ni, gan ddefnyddio'r manylion isod.

Noder: Er budd y cyhoedd, mae rhaid i'r Awdurdod brosesu'ch cais cyn iddo fe gael ei gymeradwyo. Os na fyddwch chi wedi clywed gan yr Awdurdod Lleol o fewn cyfnod rhesymol, rhowch wybod am hyn gan ddefnyddio'r manylion cysylltu isod.

Cost:

Ar hyn o bryd, y ffi ar gyfer ceisiadau trwydded yw £58.45 yn unol ag argymhelliad Cydgysylltwyr Gwasanaethau Rheoliadol yr Awdurdodau Lleol (CGRhALl).

Proses apelio

Cysylltwch â'r Awdurdod Lleol yn gyntaf. Fe gewch chi apelio i'r Swyddfa Fesur Wladol os yw'ch cais yn cael ei wrthod.

Cwyno / gwrthwynebu

Os ydych chi am wneud cwyn, rydyn ni'n eich cynghori chi i gysylltu â'r masnachwr yn y lle cyntaf - ar ffurf llythyr yn ddelfrydol (a chael prawf danfon / derbyn). Os nad yw hynny wedi gweithio ac os ydych yn y Deyrnas Unedig, bydd Cyswllt Defnyddwyr Cymru yn rhoi cyngor i chi. Os ydych chi y tu allan i'r Deyrnas Unedig, cysylltwch â Chanolfan Defnyddwyr Ewropeaidd y DU.

Safonau Masnach

Tŷ Elái
Dinas Isaf
Trewiliam
Tonypandy
CF40 1NY

Ffôn: 01443 425777
Ffacs: 
01443 425301