Skip to main content

Cymeradwyaeth Deddf Aer Glân

Gwahardd Mwg Tywyll

Ddylai simnai adeilad ddim cynhyrchu mwg tywyll pan mae hi'n gweithio'n iawn.  Yn ogystal â hyn, ddylai eiddo diwydiannol neu fasnachol (gan gynnwys clirio, dymchwel neu adeiladu safle) ddim cynhyrchu mwg tywyll.

Dylai trigolion osgoi llosgi gwastraff. Yn ogystal â gwasanaeth casglu deunydd ailgylchu a gwastraff, mae'r Cyngor hefyd yn darparu gwasanaeth casglu gwastraff gwyrdd (gwastraff o'r ardd).

Os ydych chi'n cynnal gweithgaredd annomestig ac yn bwriadu llosgi gwastraff a reolir, dylech chi gysylltu â Cyfoeth Naturiol Cymru yn gyntaf. 

Os ydych chi wedi cael caniatâd ac yn bwriadu llosgi deunydd, dylech chi sicrhau eich bod chi'n gwneud hynny'n ddiogel a heb beryglon (gan gynnwys unrhyw berygl i draffig ffyrdd wedi'i achosi gan fwg). Ddylai'r llosgi ddim peri perygl i'r amgylchedd nac aflonyddu ar eraill.

Cymeradwyaeth ar gyfer 'Ffwrneisiau' a 'Simneiau' penodol

Mae'n bosibl y bydd angen cymeradwyaeth yr Awdurdod Lleol ar gyfer mathau penodol o Ffwrneisiau (gall ystyr hyn fod yn eang a chynnwys boeleri penodol) a Simneiau cyn bo modd eu gosod neu'u defnyddio.

Os ydych chi am gael ffwrnais annomestig wedi'i gosod yn eich eiddo, mae'n bosibl y bydd angen i chi roi gwybod i'r Cyngor yn gyntaf.  Cewch chi gysylltu trwy ddefnyddio'r cyfeiriad e-bost ar waelod y dudalen yma neu, fel arall, ysgrifennu i Adran Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd y Cyngor.  Dylech chi gynnwys yr wybodaeth ganlynol:

  • Natur y ffwrnais arfaethedig
  • Y tanwydd y bydd y ffwrnais arfaethedig yn ei ddefnyddio, ac
    • A yw'r tanwydd yn danwydd maluriedig
    • Os yw'n danwydd solet, cyfradd losgi'r ffwrnais arfaethedig (mewn cilogram yr awr (kgHr-1)) o'r tanwydd
    • Os yw'n danwydd hylifol neu nwyol, cyfradd y ffwrnais arfaethedig (cilowat-awr (kW))
    • Bydd esboniad cryno o sut bydd y ffwrnais arfaethedig yn gallu cael ei defnyddio'n ymarferol heb gynhyrchu mwg

Mae'n bosibl y bydd gofyn i chi roi manylion ychwanegol, gan gynnwys manylion sy'n berthnasol i'r simnai y mae'r ffwrnais arfaethedig yn ei defnyddio, a hynny'n ddibynnol ar yr wybodaeth wedi'i darparu.  Mae'n bosibl y bydd hi'n angenrheidiol cyflwyno cais i'r Cyngor ei gymeradwyo ymlaen llaw o dan Ddeddf Aer Glân, a hynny'n ddibynnol ar y cynnig.  Mae unrhyw hysbysiad neu ofynion cais, neu gymeradwyaeth ddilynol wedi'i rhoi o dan Ddeddf Aer Glân, yn wahanol i'r broses rheoli datblygu. Bydd gofyn ceisio'r cydsyniad cynllunio perthnasol ar gyfer unrhyw gynnig, lle bo angen.

Mae'n bosibl y byddai angen Trwydded Amgylcheddol ymlaen llaw er mwyn defnyddio mathau penodol o unedau hylosgi. Dylech chi ofyn i'r Awdurdod Rheoleiddio perthnasol rhag ofn bod Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) yn berthnasol i'ch cais.

Ardaloedd Rheoli Mwg

Mae Ardal Rheoli Mwg yn ardal ddynodedig o dan y gyfraith lle mae'n bosibl nad oes hawl rhyddhau mwg o leoliadau penodol a bod modd defnyddio tanwydd awdurdodedig yn unig.  Ar hyn o bryd, does dim Ardaloedd Rheoli Mwg wedi'u datgan yn ardal Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf.  Serch hynny, dylid dilyn mesurau call i osgoi cynhyrchu mwg gweladwy a ddylai mwg ddim achosi perygl nac aflonyddu ar eraill.

Llosgi Ceblau

Wrth geisio adfer y metel, ddylech chi ddim llosgi'r cebl wedi ei orchuddio oni bai bod gyda chi awdurdod gan Awdurdod Rheoleiddio.

Ffôn: 01443 425001

E-bost: LlygreddyrAmgylchedd@rhondda-cynon-taf.gov.uk