Skip to main content

Hysbysiad tyrau oeri

Mae tyrau oeri a chyddwysyddion anweddol wedi cael eu cysylltu â chlefyd y llengfilwyr (‘legionnaires' disease’). Yn unol â Rheoliadau Hysbysu am Dyrau Oeri a Chyddwysyddion Anweddol 1992 mae angen i bob safle sydd â thŵr oeri gwlyb, cyddwysydd anweddol, neu'r ddau, hysbysu awdurdodau lleol ar ffurflen gymeradwy.

Prif bwrpas y broses hysbysu yma yw nodi ffynonellau risg posibl. Bydd hynny'n fodd i'r awdurdodau eu monitro a'u harchwilio'n rhwydd.

Yn ôl y rheoliadau, cyfrifoldeb yr awdurdodau lleol yw cynnal a chadw cofnodion am systemau oeri gwlyb, ond mae'r cyfrifoldeb gorfodi mewn perthynas â safonau asesu a rheoli yn cael ei rannu gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (sef un o asiantaethau'r llywodraeth) ac awdurdodau lleol, yn dibynnu ar brif weithgaredd y safle.

Os ydych chi’n gweithredu'r cyfryw ddyfeisiau, cofiwch bydd yr Awdurdod Lleol a'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn ymweld â'ch safle i wneud yn siŵr eich bod chi'n bodloni'r safonau. Os oes angen, byddan nhw'n cymryd camau i orfodi'r gyfraith.

Crynodeb o'r rheoliadau

Yn ôl Rheoliadau Hysbysu am Dyrau Oeri a Chyddwysyddion Anweddol 1992, mae'n rhaid i bob safle yn Rhondda Cynon Taf sydd â thyrau oeri neu gyddwysyddion anweddol gofrestru gyda'r Awdurdod Lleol.

Yn unol â'r rheoliadau hyn, mae hefyd eisiau i'r awdurdod lleol gael gwybod am unrhyw fwriad i ddatgomisiynu tyrau oeri a chyddwysyddion anweddol.

Meini prawf

  • darpariaeth yn y ddeddfwriaeth.

Sut mae cyflwyno cais

Erbyn hyn, mae modd i chi gyflwyno cais ar-lein neu dderbyn ffurflen gais. Defnyddiwch y manylion isod.

Carfan Materion Bwyd ac Iechyd a Diogelwch

Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd

Tŷ Elái

Dinas Isaf
Trewiliam
Tonypandy
CF40 1NY

Ffon: 01443 425001 
Ffacs: 01443 425301 

Tyrau oeri yn Rhondda Cynon Taf

Sample Table
Enw a chyfeiriadNifer y tyrau
Allevard Springs Ltd
Uned 1
Parc Hen Lofa'r Cambrian
Cwm Clydach
CF40 2XX
1
Beatus Cartons Ltd
North Road
Y Porth
CF39 9SP
1
EFTEC Ltd
Rhigos Road
Y Rhigos
Aberdâr
CF44 9UE
1
PB Gelatins UK Ltd
Uned A21 Severn Road
Ystad Ddiwydiannol Trefforest
Trefforest
Pontypridd
CF37 5SQ
2
Prysmian Cables & Systems Cables Ltd
Trecynon
Aberdâr
CF44 07D
2
RPC Containers Ltd
Parc Busnes Llantrisant
Pont-y-clun
CF72 8LF
1
Sub Zero Ice Cream Ltd
Ystad Ddiwydiannol Elái
Trewiliam
Tonypandy
CF40 1RA
2
Sunlight Clinical Solutions
Parc Busnes Cwm Cynon
Aberpennar
CF45 4ER
1
Y Bathdy Brenhinol
Parc Busnes Llantrisant
Llantrisant
Pont-y-clun
CF72 8YT
2
United Plastics Group
Ystad Ddiwydiannol Cwm Cynon
Parc Busnes Cwm Cynon
Aberpennar
CF45 4ER
1

SPC Europe Ltd.
Maerdy,
Ferndale.
CF43 4FP.

1