Skip to main content

Ymchwiliad Atal Twyll

Yn ôl y gyfraith, mae’n ofynnol bod Cyngor Rhondda Cynon Taf yn diogelu’r arian cyhoeddus mae’n ei ddarparu. Mae modd i’r Cyngor rannu gwybodaeth gyda chyrff eraill sy’n gyfrifol am archwilio a darparu arian cyhoeddus er mwyn atal ac adnabod twyll.

Mae Archwilydd Cyffredinol Cymru yn penodi archwilydd i archwilio cyfrifau’r Cyngor. Mae e hefyd yn gyfrifol am gynnal ymarferion paru data.

Mae paru data yn cynnwys cymharu cofnodion cyfrifiadurol un corff yn erbyn un ai’r un corff neu gorff arall. Mae’r cofnodion yn cynnwys manylion personol fel arfer.  Mae paru data yn galluogi hawliadau a thaliadau twyllodrus i gael eu hadnabod. Mae pâr yn nodi anghysondeb ac mae hwn yn gofyn am ymchwiliad pellach. Cyn cynnal ymchwiliad dyw hi ddim yn bosib penderfynu beth yw’r anghysondeb, p’un ai twyll, gwall neu rywbeth arall.

Yn ôl ei Fenter Twyll Cenedlaethol 2010, mae’r Archwilydd Cyffredinol yn mynnu ein bod ni’n cynnal ymarferion paru data er mwyn cyfrannu at atal ac adnabod twyll. Am y rheswm yma, mae gofyn i’r Cyngor ddarparu’r wybodaeth mae’n ei ddal. Mae gofyn i ni gyflwyno setiau penodol o ddata i’r Archwilydd Cyffredinol ar gyfer paru. Mae’r ymarferion wedi’u gosod yn llawlyfrau’r Archwilydd. Ewch i’r wefan i’w gweld www.archwilio.cymru.

Mae Archwilydd Cyffredinol yn defnyddio data’r ymarferion paru gydag awdurdod statudol, yn ôl Rhan 3A o’r Gorchymyn Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004. Does dim gofyn am ganiatâd yr unigolion dan sylw yn ôl y Ddeddf Diogelu Data 1998.

Mae paru data gan yr Archwilydd Cyffredinol yn amodol ar God Ymarfer. Mae hwn i’w weld hefyd ar ei wefan www.archwilio.cymru

I gael rhagor o wybodaeth am bwerau cyfreithiol yr Archwilydd Cyffredinol a’r rhesymau pam mae e'n paru gwybodaeth benodol, ewch i www.archwilio.cymru neu gysylltu â Katrina Febry, Cydlynydd Menter Twyll Genedlaethol, Swyddfa Archwilio Cymru, 24 Heol y Gadeirlan, Caerdydd CF11 9LJ (ffôn 02920 320616 neu e-bost swyddog.gwybodaeth@archwilio.cymru)