Skip to main content

HAWL I GAEL GWYBOD

 Pa hawliau sydd gen i?

Mae'r hawl yma'n amlinellu pa wybodaeth y dylai'r Cyngor ei rhannu â chi pan fyddwn ni'n casglu'ch gwybodaeth bersonol ac yn ei defnyddio.

Pa wybodaeth ddylai'r Cyngor ei rhannu â mi?

Mae'r gyfraith yn nodi y dylai'r Cyngor rannu'r manylion canlynol â chi:

  • Enw'r rheolwr data sy'n prosesu eich gwybodaeth bersonol (h.y. y Cyngor) a manylion cyswllt Swyddog Diogelu Data'r Cyngor
  • Y rheswm/rhesymau dros ddefnyddio eich gwybodaeth
  • Pa wybodaeth bersonol amdanoch chi a gaiff ei defnyddio
  • O ble rydyn ni'n cael gwybodaeth amdanoch chi
  • Pwy fyddwn ni'n rhannu eich gwybodaeth â nhw a pham
  • P'un a chaiff unrhyw wybodaeth amdanoch chi ei phrosesi dramor (h.y. y tu allan i Ardal Economaidd Ewrop)
  • Sut rydyn ni'n cadw eich gwybodaeth yn ddiogel
  • Am ba hyd y byddwn ni'n cadw eich gwybodaeth
  • Eich hawliau o ran gwybodaeth
  • Eich hawl i wneud cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth

Sut bydd y Cyngor yn gwneud hyn?

Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i fod yn agored ac yn onest gyda chi ynglŷn â sut rydyn ni'n defnyddio eich gwybodaeth bersonol. Rydyn ni o'r farn y byddwch chi'n fwy hyderus bod eich preifatrwydd wedi'i ddiogelu os byddwch chi'n gwybod o'r dechrau pa wybodaeth sydd gyda ni amdanoch chi, sut y byddwn ni'n ei defnyddio, at ba ddiben, a gyda phwy y byddwn ni'n ei rhannu. Dylai hyn atal unrhyw achosion o bryder annisgwyl.

 Prif ddull y Cyngor o rannu'r wybodaeth uchod â chi fydd y tudalennau Diogelu Data ar y wefan yma. Mae'r tudalennau yma wedi'u rhannu yn nifer o adrannau allweddol fel a ganlyn:

  •  Sut rydyn ni'n defnyddio eich gwybodaeth bersonol - Trosolwg
  •  Sut rydyn ni'n defnyddio eich gwybodaeth bersonol - Cwestiynau cyffredin
  •  Sut rydyn ni'n defnyddio eich gwybodaeth bersonol - Hysbysiadau preifatrwydd gwasanaeth
  •  Eich gwybodaeth, eich hawliau
  •  Pryderon neu gwynion am y ffordd y mae'r Cyngor yn trin eich gwybodaeth bersonol 

 Yn ystod eich cyswllt â ni, byddwch chi hefyd yn gweld y byddwn ni'n cyfathrebu'r wybodaeth yma mewn ffyrdd gwahanol. Mae hyn yn dibynnu ar sut rydych chi'n cysylltu â ni, y gwasanaethau rydych chi'n eu derbyn a sut y caiff y gwasanaethau yma eu darparu. Mae modd i hyn gynnwys:

  •  Gwybodaeth ar lafar - pan fyddwch chi'n siarad â staff wyneb yn wyneb neu dros y ffôn.
  •  Gwybodaeth ysgrifenedig - ar ffurflenni cais/asesu a llythyrau ac ati.
  •  Arwyddion - yn swyddfeydd ac adeiladau'r Cyngor mewn perthynas â defnyddio Teledu Cylch Cyfyng.
  •  Taflenni gwybodaeth - os does dim modd i chi fynd ar y rhyngrwyd, efallai y bydd rhai gwasanaethau yn darparu taflenni.

Rydyn ni'n eich annog chi'n gryf i ddarllen yr wybodaeth a gaiff ei darparu fel eich bodd chi'n gwbl effro i'r ffordd y mae'r Cyngor yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol. Os bydd angen rhagor o wybodaeth arnoch chi ar ôl darllen yr wybodaeth yma, neu os bydd unrhyw bryderon gyda chi ynglŷn â'r ffordd rydyn ni'n defnyddio eich gwybodaeth bersonol, mae croeso i chi gysylltu ag aelod o staff.