Skip to main content

HAWL I DDILEU GWYBODAETH

Pa hawliau sydd gen i?

Caiff yr hawl i ddileu gwybodaeth hefyd ei galw yn 'hawl i gael eich anghofio'. Mae'r hawl yma yn eich caniatáu chi i ofyn i ni ddileu rhywfaint o'ch gwybodaeth bersonol, neu'ch holl wybodaeth bersonol, os does dim rheswm digonol dros barhau i'w defnyddio.

Pryd mae'r hawl yma yn gymwys?

Dydy'r hawl i ddileu gwybodaeth ddim yn hawl diamod, ac mae hi ond yn gymwys o dan yr amgylchiadau canlynol:

Caniatâd

Rydych chi wedi caniatáu i ni ddefnyddio eich gwybodaeth bersonol ac rydych chi'n awyddus i dynnu'r caniatád hwnnw yn ôl.

Mae'r adran cwestiynau cyffredin yn egluro bod dim angen i'r Cyngor ofyn am eich caniatâd i brosesu'ch gwybodaeth bersonol ar gyfer y rhan fwyaf o wasanaethau rydyn ni'n eu darparu. Mae hyn am fod gyda ni ddyletswydd gyfreithiol neu statudol i ddarparu'r gwasanaethau yma a chadw cofnodion cyhoeddus ohonyn nhw.

Ddim yn berthnasol mwyach/cyfnod cadw'r wybodaeth wedi dod i ben

Os does dim angen yr wybodaeth bersonol ar gyfer y diben y cafodd hi ei chasglu'n wreiddiol mwyach, ac os yw'r terfyn amser o ran cadw'r wybodaeth wedi dod i ben

Anghyfreithlon

Os rydyn ni'n prosesu eich gwybodaeth bersonol mewn modd anghyfreithlon, e.e. at ddiben does gyda ni ddim hawl cyfreithlon iddo.

Cywiro gwybodaeth

Os byddwch chi wedi llwyddo i weithredu eich hawl i gywiro gwybodaeth anghywir, h.y. mae angen dileu gwybodaeth anghywir sy'n gysylltiedig â chi. 

Dyletswydd gyfreithiol

Os bydd angen dileu'r wybodaeth er mwyn cydymffurfio â 

dyletswydd gyfreithiol e.e. pan fo'r llys wedi gorchymyn i ni ddileu'r wybodaeth.

Sut ydw i'n gwneud cais i'r Cyngor gael gwared ar fy ngwybodaeth bersonol?

Pe hoffech chi wneud cais i'r Cyngor ddileu eich gwybodaeth bersonol, dylech chi wneud hynny drwy gysylltu â'r Garfan Rheoli Gwybodaeth:

 Email icon    rheoli.gwybodaeth@rctcbc.gov.uk                                                                                       

Wrth wneud cais, pa wybodaeth mae angen i mi ei darparu?

Bydd angen yr wybodaeth ganlynol arnon ni er mwyn eich adnabod chi:

  •  Enw llawn (gan gynnwys unrhyw enwau blaenorol)
  • Cyfeiriad (eich cyfeiriad blaenorol os ydych chi wedi symud yn ddiweddar neu os yw'r cofnod sydd angen ei ddileu yn ymwneud â chyfeiriad arall)
  • Dyddiad geni

Bydd angen yr wybodaeth ganlynol arnon ni er mwyn canfod yr wybodaeth yr hoffech chi i ni ei dileu:

  •  Gwasanaeth y Cyngor a/neu'r adran y mae'r wybodaeth yn ymwneud â hi.
  • Unrhyw rifau cyfeirnod perthnasol
  • Enwau unrhyw swyddogion sy'n gysylltiedig â'r achos
  • Dyfyniad neu ddisgrifiad o'r wybodaeth yr hoffech chi i ni ei dileu 
  • Eich rheswm dros ofyn i ni ddileu'r wybodaeth - rhowch gymaint o fanylion â phosibl.

 A fydd y Cyngor yn cydnabod fy nghais?

 Bydd y Garfan Rheoli Gwybodaeth yn cydnabod eich cais yn ffurfiol o fewn 5 diwrnod gwaith. Byddwn ni hefyd yn dweud wrthych chi erbyn pa ddyddiad y bydd angen i'r Cyngor ymateb i'ch cais.

 Faint o amser sydd gan y Cyngor i gydymffurfio â fy nghais?

 Rhaid i'r Cyngor ymateb i'ch cais cyn gynted â phosibl, a ddim hwyrach na mis ar ôl i'r cais ddod i law. Os bydd y cais yn gymhleth neu'n niferus, efallai y caiff estyniad o ddeufis ei ganiatáu. Os bydd angen caniatáu estyniad, byddwn ni'n rhoi gwybod i chi cyn gynted â phosibl ac yn egluro pam fod angen gwneud hynny.

 Os bydd y Cyngor wedi rhannu gwybodaeth amdanaf fi gyda sefydliad arall, a bod yr wybodaeth honno am gael ei dileu, oes rhaid i'r Cyngor ddweud wrth y sefydliad hwnnw bod yr wybodaeth am gael ei dileu?

 Oes. Os bydd y Cyngor yn caniatâu eich cais ac yn penderfynu dileu'r wybodaeth sydd wedi'i rhannu â sefydliad arall, rhaid i'r Cyngor roi gwybod i'r sefydliad hwnnw ei fod am ddileu'r wybodaeth, oni bai fod hynny'n amhosibl neu'n peri trafferth sylweddol.

Wrth ymateb i'ch cais, bydd y Cyngor yn rhoi gwybod i chi am unrhyw sefydliad trydydd parti sydd wedi cael gwybod bod yr wybodaeth wedi'i dileu.