Skip to main content

HAWL I GYFYNGU PROSESU

Pa hawliau sydd gen i?

Mae gyda chi hawl i ofyn i'r Cyngor roi'r gorau i ddefnyddio eich gwybodaeth bersonol, neu gyfyngu ar y defnydd ohono, o dan rai amgylchiadau. Mae'r hawl yn caniatáu i'r Cyngor barhau i gadw eich gwybodaeth ond peidio â'i ddefnyddio.

Pryd mae'r hawl yma'n gymwys, a beth y mae'n rhaid i'r Cyngor ei wneud?

Mae'r hawl i gyfyngu prosesu yn gymwys yn yr amgylchiadau canlynol:

Lle rydych chi'n herio'r cywirdeb

Os ydych chi wedi herio cywirdeb eich gwybodaeth, ac wedi arfer eich hawl i unioni gwybodaeth sy'n anghywir, dylai'r Cyngor gyfyngu'r mynediad i'r wybodaeth dan sylw nes bod y cywirdeb wedi'i wirio.

Lle rydych chi wedi gwneud gwrthwynebiad

Os byddwch chi wedi gwrthwynebu'r syniad o gael y Cyngor yn prosesu'ch gwybodaeth bersonol, ac wedi gweithredu eich 'hawl i wrthwynebu', dylai'r Cyngor gyfyngu'r mynediad i'r wybodaeth wrth iddo ef ystyried eich gwrthwynebiad.

Pan rydyn ni'n prosesu gwybodaeth amdanoch chi yn anghyfreithlon

Os yw'r Cyngor yn prosesu gwybodaeth amdanoch chi yn anghyfreithlon, h.y. at ddiben does gyda ni ddim hawl cyfreithiol iddo, a'ch bod chi ddim am i ni ddileu'r wybodaeth yn barhaol, yna dylen ni roi'r gorau i ddefnyddio'r wybodaeth ar unwaith.

Pan rydych chi'n amddiffyn cais cyfreithiol

Efallai y bydd achlysuron yn codi pan fydd ddim angen eich gwybodaeth ar y Cyngor mwyach, a bydd modd ei dileu'n gyfan gwbl. Serch hynny, os bydd angen yr wybodaeth arnoch chi fel sail i gais cyfreithiol, neu er mwyn arfer neu amddiffyn cais cyfreithiol, ddylen ni beidio â dileu'r wybodaeth nes bod y mater hwnnw wedi'i ddatrys.

Sut mae modd i mi wneud cais i gyfyngu ar fy ngwybodaeth bersonol?

Pe hoffech chi i'r Cyngor gyfyngu ar eich gwybodaeth bersonol, cysylltwch â'r Garfan Rheoli Gwybodaeth:

 Email icon rheoli.gwybodaeth@rctcbc.gov.uk                                                                                           

Wrth wneud cais, pa wybodaeth mae angen i mi ei darparu? 

Bydd angen yr wybodaeth ganlynol arnon ni er mwyn eich adnabod chi:

  • Enw llawn (gan gynnwys unrhyw enwau blaenorol)
  • Cyfeiriad (nodwch eich cyfeiriad blaenorol os ydych chi wedi symud yn ddiweddar neu mae'r wybodaeth yr hoffech chi i ni beidio â'i phrosesu yn ymwneud â chyfeiriad gwahanol)
  • Dyddiad geni

Bydd angen yr wybodaeth ganlynol arnon ni er mwyn canfod yr wybodaeth yr hoffech chi i ni roi'r gorau i'w phrosesu neu gyfyngu arni:

  •  Gwasanaeth y Cyngor a/neu'r adran y mae'r wybodaeth yn ymwneud â hi
  • Unrhyw rifau cyfeirnod perthnasol
  • Enwau unrhyw swyddogion sy'n gysylltiedig â'r achos
  • Copi neu ddisgrifiad o'r wybodaeth yr hoffech chi i'r cyngor roi'r gorau i'w phrosesu 
  • Y rheswm pam yr hoffech chi i'r Cyngor roi'r gorau i brosesu'r wybodaeth

A fydd y Cyngor yn cydnabod fy nghais?

Bydd y Garfan Rheoli Gwybodaeth yn cydnabod eich cais yn ffurfiol o fewn 5 diwrnod gwaith. Byddwn ni hefyd yn dweud wrthych chi erbyn pa ddyddiad y bydd angen i'r Cyngor ymateb i'ch cais.

Faint o amser sydd gan y Cyngor i gydymffurfio â fy nghais?

Rhaid i'r Cyngor ymateb i'ch cais cyn gynted â phosibl, a ddim hwyrach na mis ar ôl i'r cais ddod i law.  Os bydd y cais yn gymhleth neu'n niferus, efallai y caiff estyniad o ddeufis ei ganiatáu. Os bydd angen caniatáu estyniad, byddwn ni'n rhoi gwybod i chi cyn gynted â phosibl ac yn egluro pam fod angen gwneud hynny.

Os bydd y Cyngor wedi rhannu gwybodaeth gyfyngedig gyda sefydliad arall, oes rhaid i'r Cyngor ddweud wrth y sefydliad hwnnw am y cyfyngiad?

Os bydd y Cyngor yn caniatáu eich cais, a bod yr wybodaeth sydd ddim am gael ei phrosesu mwyach wedi'i rhannu â sefydliad arall, rhaid i'r Cyngor roi gwybod i'r sefydliad hwnnw am y cyfyngiad, oni bai fod hynny'n amhosibl neu'n peri trafferth sylweddol.

Wrth ymateb i'ch cais, bydd y Cyngor yn rhoi gwybod i chi am unrhyw sefydliad trydydd parti sydd wedi cael gwybod am y cyfyngiad. 

Oes modd i'r Cyngor gael gwared ar y cyfyngiad?

Oes. Efallai bydd y Cyngor yn cael gwared ar y cyfyngiad os oes ganddo sail gyfreithlon dros wneud hynny, er enghraifft os bydd amgylchiadau'n newid neu os daw gwybodaeth newydd i'r amlwg. Bydd y Cyngor yn rhoi gwybod i chi am unrhyw benderfyniad i gael gwared ar gyfyngiad a'r rhesymau dros wneud hynny.