Skip to main content

Hysbysiad Preifatrwydd Cynllun Trwydded Barcio Bathodyn Glas

Sut rydyn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth bersonol at ddibenion Cynllun Trwydded Barcio Bathodyn Glas

Mae'r Cyngor yn darparu gwasanaethau ar gyfer cymunedau lleol a'r bobl sy'n byw ynddyn nhw.  Mae'r gwaith yma'n golygu bod rhaid i ni gasglu a defnyddio gwybodaeth am y bobl rydyn ni'n darparu gwasanaethau ar eu cyfer nhw a chadw cofnod o'r gwasanaethau yma. O ganlyniad i gasglu a defnyddio gwybodaeth bersonol am unigolion, mae rhaid i ni sicrhau eu bod nhw'n gwybod beth yw ein bwriad o ran defnyddio a rhannu eu gwybodaeth. 

Rydyn ni wedi crynhoi yn yr hysbysiad preifatrwydd yma rai o'r ffyrdd allweddol rydyn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth bersonol at ddibenion [y Cynllun Trwydded Barcio Bathodyn Glas]. Dylech chi ddarllen yr wybodaeth yma yn ogystal â hysbysiad preifatrwydd corfforaethol y Cyngor.

1. Pwy ydyn ni? Beth ydyn ni'n ei wneud?

Mae'r Cynllun Parcio Bathodyn Glas yn cael ei reoli gan ein hadran Gwasanaethau i Gwsmeriaid. Nod y cynllun yw helpu pobl ag anableddau neu gyflyrau iechyd sy'n effeithio ar eu symudedd i barcio'n agosach at le maen nhw'n mynd, a hynny wrth arddangos eu Trwydded Barcio Bathodyn Glas. 

Gallwch chi wneud cais am Drwydded Barcio Bathodyn Glas ar-lein drwy wefan gov.uk, drwy drefnu apwyntiad mewn Canolfan IBobUn, neu drwy ffonio ein Canolfan Gymorth ar 01443 425003.

2. Pa fath o wybodaeth bersonol rydyn ni'n ei chadw ac am bwy?

Os ydych chi'n penderfynu gwneud eich cais drwy'r Ganolfan Gymorth neu Ganolfan IBobUn, mae'n bosibl bydd eich data personol yn cael ei rhannu â gwasanaethau eraill y Cyngor neu sefydliadau partner er mwyn prosesu'ch cais. 

Gall y math o wybodaeth amrywio o gais i gais ond fel rheol bydd yn cynnwys: 

  • Manylion cyswllt, e.e. enw, cyfeiriad, rhif ffôn a chyfeiriad e-bost.
  • Eich dyddiad geni a'ch rhif yswiriant gwladol.
  • Prawf o'ch hunaniaeth, e.e. tystysgrif geni, pasbort neu drwydded yrru.
  • Gwybodaeth ariannol, gan gynnwys unrhyw fudd-daliadau rydych chi'n eu derbyn.
  • Gwybodaeth am eich iechyd a'ch manylion meddygol.
  • Manylion eich Bathodyn Glas cyfredol os ydych chi'n gwneud cais eto.

3. O ble mae'r gwasanaeth yn cael fy ngwybodaeth? 

Bydd yn cael yr wybodaeth gan: 

  • Chi, yr ymgeisydd.
  • Rhywun sy'n cwblhau'r cais ar eich rhan, e.e. perthynas neu ffrind.
  • Gwybodaeth wedi'i darparu gan Gynghorydd Etholedig os ydyn nhw'n eich cynorthwyo chi gyda'ch cais.
  • Adrannau eraill y Cyngor, yn rhan o'r asesiad o'ch cais.
  • Gwybodaeth wedi'i darparu gan sefydliadau eraill, e.e. Yr Adran Gwaith a Phensiynau, y Bwrdd Iechyd.

4. Beth fyddwn ni'n ei wneud gyda'ch gwybodaeth bersonol?

Byddwn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth er mwyn: 

  • Prosesu'ch cais drwy asesu'ch cymhwysedd. Byddwn ni'n gwirio'r wybodaeth rydych chi wedi'i darparu yn erbyn yr hyn sydd gan adrannau eraill y Cyngor.
  • Adolygu unrhyw dystiolaeth wedi'i darparu gan eich meddyg teulu/gweithiwr proffesiynol i gefnogi'ch cais.
  • Yn achos ceisiadau llwyddiannus, byddwn ni'n rhoi trwydded barcio i chi.

5. Beth yw'r sail gyfreithiol o ran defnyddio'r wybodaeth yma?

Ein sail gyfreithiol ar gyfer prosesu'r wybodaeth yma yw cyflawni ein dyletswyddau swyddogol a bodloni ein rhwymedigaethau cyfreithiol o dan y deddfau canlynol: 

  • Deddf Bathodynnau Parcio Personau Anabl 2013
  • Deddf Cleifion Cronig a Phersonau Anabl 1970, Adran 21
  • Rheoliadau Personau Anabl (Bathodynnau ar gyfer Cerbydau Modur)(Cymru) 2000

6. Ydy'r gwasanaeth yn rhannu fy ngwybodaeth bersonol ag unrhyw sefydliad arall?

Ydy. O bryd i'w gilydd byddwn ni'n rhannu'ch gwybodaeth bersonol ag adrannau eraill y Cyngor neu sefydliadau allanol i helpu i brosesu'ch cais fel a ganlyn: 

  • Gwasanaethau eraill y Cyngor er mwyn gwirio'ch bod chi'n gymwys.
  • Sefydliadau eraill er mwyn gwirio tystiolaeth, e.e. eich meddyg teulu.
  • Ein partner Valtec Ltd a fydd yn argraffu'r bathodynnau glas.
  • Able2 at ddibenion dyfarnu bathodynnau lle dydy'r ymgeisydd ddim yn gymwys yn uniongyrchol drwy'r Cyngor. 
  • Yr Adran Gwaith a Phensiynau i gadarnhau'r hawl i dderbyn budd-dal.

7. Am ba mor hir caiff fy ngwybodaeth ei chadw? 

Bydd gwybodaeth yn cael ei chadw am 3 blynedd ar ôl i'ch cais ddod i law.

8. Eich gwybodaeth, eich hawliau

Mae'r Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol yn rhoi hawliau pwysig i chi, gan gynnwys yr hawl i gael gweld yr wybodaeth bersonol mae'r gwasanaethau yn ei chadw amdanoch chi. 

Cliciwch yma am ragor o wybodaeth am eich hawliau gwybodaeth a sut i'w defnyddio nhw.

9. Cysylltu â ni 

Os oes gyda chi unrhyw bryderon neu os ydych chi eisiau rhagor o wybodaeth am sut mae'r gwasanaeth yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol, cysylltwch â ni gan ddefnyddio un o'r dulliau isod: 

Drwy e-bostio: CarfanYmatebArUnwaith@rctcbc.gov.uk 

Drwy ffonio: 01443 425003 

Drwy lythyr: Carfan Ymateb ar Unwaith, Tŷ Elai, Trewiliam, RhCT, CF40 1NY