Skip to main content

Hysbysiad Preifatrwydd rhaglen Gofal i Waith a rhaglen Camu i'r Cyfeiriad Cywir

Sut rydyn ni'n defnyddio eich gwybodaeth bersonol at ddibenion y rhaglenni Camu i'r Cyfeiriad Cywir a GofaliWaith sy'n cael eu cynnal gan y Garfan Cyflogaeth, Addysg a Hyfforddiant.

Mae'r Cyngor yn darparu gwasanaethau ar gyfer cymunedau lleol a'r bobl sy'n byw yno. Mae cynnal y gwaith yma yn golygu bod rhaid i ni gasglu a defnyddio gwybodaeth am y bobl rydyn ni'n darparu gwasanaethau ar eu cyfer nhw a chadw cofnod o'r gwasanaethau yma. O ganlyniad i gasglu a defnyddio gwybodaeth bersonol am unigolion, mae rhaid i ni sicrhau eu bod nhw'n gwybod beth yw ein bwriad o ran defnyddio a rhannu eu gwybodaeth. 

Yn yr hysbysiad preifatrwydd yma, rydyn ni wedi crynhoi rhai o'r ffyrdd allweddol rydyn ni'n defnyddio eich gwybodaeth bersonol at ddibenion cynlluniau ‘GofaliWaith’ a ‘Camu i'r Cyfeiriad Cywir’. Dylech chi ddarllen yr wybodaeth yma yn ogystal â hysbysiad preifatrwydd corfforaethol y Cyngor.

1.    Pwy ydyn ni, beth ydyn ni’n ei wneud

Mae'r garfan Cyflogaeth, Addysg a Hyfforddiant yn ymrwymo i wella cyfleoedd gyrfa, addysg a gwaith i ddisgyblion ysgol, pobl ifainc sydd mewn gofal ac yn gadael gofal, a phobl ddi-waith sydd ddim yn derbyn addysg, hyfforddiant na chyflogaeth. Yn rhan o hynny bydd yn darparu cymorth a chyngor ac ystod o raglenni i wella cyflogadwyedd a'r posibilrwydd o gael swydd.

Mae Rhaglen GofaliWaith yn cynnig cefnogaeth a chymorth i blant sy'n derbyn gofal, pobl ifanc sydd ag anghenion gofal a chymorth a phobl rhwng 16 a 25 oed sy'n gadael gofal. Mae'r rhaglen yn eu helpu i nodi amrywiaeth o gyfleoedd hyfforddi a chyflogaeth, a chael mynediad atyn nhw.

Mae GofaliWaith yn cydlynu cynllun arlwyo mewn partneriaeth ag adran 'ArlwyoiWaith' Gwasanaethau Arlwyo'r Cyngor yn un o gyfleusterau arlwyo'r Cyngor.  Dyma raglen profiad gwaith saith wythnos ar gyfer cyfranogwyr GofaliWaith, Hyfforddeion Camu i'r Cyfeiriad Cywir ac unigolion rhwng 16 a 25 sy'n rhan o raglenni cyflogadwyedd eraill Cyngor RhCT.  Yn ystod y saith wythnos mae'r bobl ifainc yn dysgu a datblygu sgiliau cyflogadwyedd a sgiliau bywyd gwerthfawr ac ennill cymwysterau perthnasol.

Mae “Camu i'r Cyfeiriad Cywir” yn rhaglen ddwy flynedd sy'n cynnig swyddi dan hyfforddiant â thâl i bobl ifanc 16–25 oed sydd mewn gofal, neu sy'n gadael gofal, yn Rhondda Cynon Taf. Caiff cymorth ei ddarparu er mwyn galluogi pobl ifainc i ennill profiad gwaith gwerthfawr a hyfforddiant er mwyn gwella sgiliau cyflogadwyedd a'u helpu nhw i ddod o hyd i waith llawn amser ar ddiwedd y rhaglen.

2.    Pa fath o wybodaeth bersonol ydyn ni'n ei chadw ac am bwy?

Rydyn ni'n cadw wybodaeth am bobl ifainc sy'n ymgysylltu â rhaglenni GofaliWaith, Camu i'r Cyfeiriad Cywir ac ArlwyoiWaith.

Fel arfer bydd y mathau o wybodaeth sy'n cael eu casglu a'u defnyddio yn cynnwys:

  • Manylion cyswllt, gan gynnwys enw, cyfeiriad, rhif ffôn, cyfeiriad e-bost, manylion cyswllt mewn argyfwng, gwybodaeth cyflogaeth ac addysg
  • Manylion i'ch adnabod, gan gynnwys dyddiad geni a rhif yswiriant gwladol 
  • Asesu Risg, mae hyn yn cynnwys amgylchiadau personol fel ymddygiad ac agwedd, euogfarnau troseddol, iechyd, gwrthdaro yn y teulu. 
  • Gwybodaeth sy'n cael ei chasglu yn ystod eich amser gyda'r cynllun, er enghraifft, hyfforddiant, y cymorth sy'n cael ei ddarparu, cyfleoedd gwirfoddoli a deilliannau gwaith. Rydyn ni hefyd yn casglu'r wybodaeth berthnasol ynghylch eich amgylchiadau personol, fel sy wedi'u nodi uchod.

3.    O ble mae'r gwasanaeth yn cael fy ngwybodaeth? 

Rydyn ni'n cael yr wybodaeth bersonol yma'n uniongyrchol gan y person ifanc yn ystod ei amser gyda'r cynllun. Er enghraifft, trwy ofyn i'r person ifanc lenwi ffurflen hunan-atgyfeirio neu ffurflen gais a thrwy gynnal cyfarfodydd cymorth un i un gyda gweithiwr achos sydd wedi'i ddyrannu.

Rydyn ni hefyd yn casglu gwybodaeth gan sefydliadau trydydd parti, er enghraifft, Gweithiwr Cymdeithasol neu Ymgynghorydd Personol, cyflogwr neu ddarparwr hyfforddiant neu gydlynydd gwirfoddoli. Rydyn ni'n gwneud hyn er mwyn dysgu sut mae modd i ni roi'r cymorth gorau i'r person sy'n cymryd rhan.

4.    Beth fyddwn ni'n ei wneud gyda'ch gwybodaeth bersonol? 

Byddwn ni'n defnyddio'r wybodaeth bersonol yma er mwyn sicrhau bod y cymorth cywir yn cael ei ddarparu a nodi unrhyw gymorth ychwanegol sydd ei angen. Byddwn ni'n defnyddio'r wybodaeth yma er mwyn:

  • Prosesu'r atgyfeiriad a'i drosglwyddo i'r cynllun cywir.
  • Darparu cyngor, cymorth a chyfarwyddyd. Mae modd i hyn gynnwys atgyfeirio i sefydliadau trydydd parti am gymorth a rhoi cymorth i'r unigolyn fel bod modd i chi gyflawni'ch amcanion.
  • Dod o hyd i hyfforddiant addas, cyfleoedd gwirfoddoli, lleoliadau gwaith a chyflogaeth yn unol â'ch cynllun gweithredu.
  • Darparu hyfforddiant a hwyluso achrediad ble bo angen.
  • Paratoi a darparu adroddiadau i Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru ac yn fewnol ar gyfer y Cyngor er mwyn arddangos bod y Cynllun yn cael ei gynnal yn gywir ac yn unol ag amodau'r cyllid.

Os yw'r cyfranogwyr yn cyflawni swydd dan hyfforddiant, byddwn ni'n defnyddio'i wybodaeth bersonol er mwyn talu lwfans hyfforddi wythnosol. 

5.    Beth ydy'r sail gyfreithiol o ran defnyddio'r wybodaeth yma?

Ein sail gyfreithiol ar gyfer defnyddio’ch gwybodaeth bersonol fel arfer fydd un neu ragor o'r canlynol:

a) mae angen i ni brosesu'ch gwybodaeth bersonol i gyflawni tasg er budd y cyhoedd neu wrth arfer awdurdod swyddogol yn rhinwedd ein swyddogaeth fel corff cyhoeddus;

b) mae angen i ni brosesu eich gwybodaeth bersonol i fodloni ein rhwymedigaethau cyfreithiol am sawl rheswm, gan gynnwys diogelu;

c) mae angen i ni gyflawni ein hymrwymiadau contract yn rhan o unrhyw gyllid rydyn ni'n ei derbyn er mwyn darparu'r gwasanaeth, er enghraifft, rydyn ni'n cael ein hariannu'n rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF).         

6.    Ydy'r gwasanaeth yn rhannu fy ngwybodaeth bersonol ag unrhyw sefydliad arall? 

Byddwn ni'n rhannu gwybodaeth berthnasol gyda sefydliadau mewnol, a sefydliadau allanol dibynadwy pan fo angen. Caiff yr wybodaeth yma'i rhannu er mwyn gwneud atgyfeiriadau a rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i sefydliadau a phobl allweddol. Ym mhob achos byddwn ni dim ond yn gwneud hyn i'r graddau rydyn ni o'r farn bod yr wybodaeth yn rhesymol ofynnol ar gyfer y diben yma.

Mae'n bosibl y byddwn ni'n rhannu gwybodaeth â rhai adrannau mewnol, gan gynnwys;

  • Yr Adran Gyllid  
  • Yr Adran Adnoddau Dynol
  • Recriwtio rheolwyr mewnol neu reolwyr eraill sy'n gweithio mewn maes sy'n berthnasol i'r lleoliad gwaith a'r hyfforddeiaeth.
  • Gweithwyr proffesiynol gan gynnwys eich Gweithiwr Cymdeithasol, Gwasanaeth Troseddau'r Ifainc neu'r person neu'r sefydliad a gyflwynodd yr atgyfeiriad am gymorth i chi.
  • Carfan Cynorthwyo i Ymgysylltu ag Addysg, Cyflogaeth a Hyfforddiant.
  • Cynllun Ysbrydoli i Weithio os ydych chi'n rhan o gynllun Cronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF). 
  • Gwasanaethau Arlwyo Rhondda Cynon Taf ar gyfer hyfforddiant ac er mwyn cynnal ein Cynllun ArlwyoiWaith

Mae'n bosibl y byddwn ni'n rhannu gwybodaeth gyda sefydliadau allanol, gan gynnwys:

  • Darparwr Hyfforddiant  a chyrff achredu gan gynnwys Agored Cymru
  • Yr Adran Gwaith a Phensiynau
  • Sefydliadau gwirfoddol;  
  • Gyrfa Cymru
  • Asiantaethau sy'n cynnig cymorth, fel Cyngor ar Bopeth.
  • Cais am eirda

Pe bai angen, bydden ni hefyd yn rhannu'r wybodaeth gyda Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru os caiff y cynllun rydych chi'n rhan ohono ei ariannu gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop (ESF). Mae'n bosibl y bydd gyda ni rhwymedigaeth gyfreithiol i rannu eich gwybodaeth gyda sefydliadau, er enghraifft os oes pryderon ynghylch materion diogelu.

Rydyn ni hefyd yn defnyddio system Capita gan Capita Business Services Ltd er mwyn prosesu'ch data.

7.    Am faint o amser fydd y gwasanaeth yn cadw fy ngwybodaeth?

Byddwn ni ond yn cadw eich gwybodaeth bersonol am ba bynnag hyd rydyn ni ei hangen, a fyddwn ni ddim yn cadw'ch gwybodaeth am gyfnod hwy nag sydd ei angen. Bydd hyd y cyfnod rydyn ni'n cadw eich gwybodaeth yn dibynnu ar natur yr wybodaeth. 

8.    Eich gwybodaeth, eich hawliau

Mae'r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) yn rhoi hawliau pwysig i chi, gan gynnwys yr hawl i gael gweld yr wybodaeth bersonol mae'r gwasanaethau yn ei chadw amdanoch chi.

Edrychwch ar ragor o wybodaeth am eich hawliau gwybodaeth a sut i’w defnyddio nhw.  

9.    Cysylltwch â ni

Os oes gyda chi unrhyw bryderon neu os ydych chi eisiau rhagor o wybodaeth am sut mae'r gwasanaeth yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol, cysylltwch â ni gan ddefnyddio un o'r dulliau isod:

E-bost : carfancyflogaethaddysghyfforddiant@rctcbc.gov.uk

Dros y ffôn : 01443 570034

Trwy lythyr : Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, Carfan Cyflogaeth, Addysg a Hyfforddiant, Tŷ Elái, Ystad Ddiwydiannol Dinas Isaf, Trewiliam, Tonypandy CF40 1NY