Skip to main content

Hysbysiad Preifatrwydd Adfywio, Cynllunio a Thai

Sut rydyn ni'n defnyddio eich gwybodaeth bersonol at ddibenion Adfywio, Cynllunio a Thai 

Mae'r Cyngor yn darparu gwasanaethau ar gyfer cymunedau lleol a'r bobl sy'n byw ynddyn nhw.  Mae cynnal y gwaith yma yn golygu bod rhaid i ni gasglu a defnyddio gwybodaeth am y bobl rydyn ni'n darparu gwasanaethau ar eu cyfer nhw a chadw cofnod o'r gwasanaethau yma. O ganlyniad i gasglu a defnyddio gwybodaeth bersonol am unigolion, mae rhaid i ni sicrhau eu bod nhw'n gwybod beth yw ein bwriad o ran defnyddio a rhannu eu gwybodaeth. 

Rydyn ni wedi crynhoi yn yr hysbysiad preifatrwydd yma rai o'r ffyrdd allweddol rydyn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth bersonol at ddibenion Adfywio, Cynllunio a Thai. Dylech chi ddarllen yr wybodaeth yma yn ogystal â hysbysiad preifatrwydd corfforaethol y Cyngor

1. Pwy ydyn ni, beth ydyn ni'n ei wneud. 

Mae'r hysbysiad preifatrwydd yma yn esbonio pa ddata personol sy'n cael ei gasglu gan Uwchadran Adfywio, Cynllunio a Thai RhCT trwy ein gweithgareddau a sut a pham yr ydyn ni defnyddio'r data yma.

Mae'r Gwasanaeth yn gweithio'n effeithiol gyda phartneriaid yn rhanbarthol er mwyn sicrhau bod twf yn cael ei greu yn Ne Ddwyrain Cymru y mae cymunedau Rhondda Cynon Taf yn elwa arno, trwy   fuddsoddiad a chyfleoedd ar draws De Ddwyrain Cymru. Mae hyn yn golygu cefnogi gwaith y Fargen Ddinesig, arwain ar ddatblygu ymyriadau (gan gynnwys cyllid grant) a phrosiectau; a dylanwadu ar drefniadau gwasanaethau rhanbarthol yn y dyfodol.

Mae'r Gwasanaeth yn cymryd rhan mewn cynllunio strategol rhanbarthol, a datblygu fframweithiau polisïau cynllunio lleol priodol. Rydyn ni'n gwneud hyn ynghyd â'n swyddogaethau cynllunio, rheoli adeiladu a gorfodi statudol.

Rydyn ni'n cynorthwyo datblygu cyflogaeth a thai, trwy weithio mewn partneriaeth, i ddarparu'r nifer fwyaf o gartrefi a swyddi ag sy'n bosibl, gan gefnogi'r economi a sicrhau bod ystod o gartrefi (cartrefi fforddiadwy, cartrefi marchnad, cartrefi wedi'u haddasu, ailddefnyddio cartrefi gwag a chartrefi arloesol) yn cael eu datblygu. Rydyn ni hefyd yn sicrhau bod modd i'r tirfeddianwyr perthnasol (gan gynnwys Llywodraeth Cymru) hyrwyddo datblygiad ar eu safleoedd.

Hefyd rydyn ni'n cefnogi a lle bo'n briodol darparu cynlluniau adfywio sydd eisoes wedi'u hariannu neu'u hariannu'n rhannol.

2. Pa fath o wybodaeth bersonol ydyn ni'n ei chadw ac am bwy?

Rydyn ni'n dal gwybodaeth amdanoch chi. Os byddwch chi'n cysylltu â ni ar-lein, dros y ffôn, wyneb yn wyneb neu'n gwneud cais am Grant, Cynllunio (gan gynnwys Ardoll Seilwaith Cymunedol), Rheoli Adeiladu, Homestep neu fesur Ynni, byddwn ni'n casglu data personol amdanoch chi a phobl eraill sy'n gysylltiedig â chi.

Bydd y mathau o wybodaeth rydyn ni'n eu cadw a'u prosesu fel arfer yn cynnwys:

  • Enw a chyfeiriad
  • Teitl swydd ac enw'r cwmni
  • Gwybodaeth gyswllt gan gynnwys rhif ffôn symudol neu rhif ffôn cartref a chyfeiriad e-bost
  • Dyddiad geni
  • Rhif Yswiriant Gwladol
  • Manylion y Cyfrif Banc
  • Tystiolaeth o berchen yr eiddo (gan gynnwys dogfennau Teitl y Gofrestrfa Tir), cyfrifon busnes a manylion Hunanasesu
  • Manylion am werth yr eiddo a manylion y morgais
  • Gwybodaeth am unrhyw anabledd / cyflwr meddygol
  • Gwybodaeth bersonol arall sy wedi'i chyflwyno fel tystiolaeth i gefnogi'ch Grant, gan gynnwys gwybodaeth Cynllunio  (gan gynnwys Ardoll Seilwaith Cymunedol a / neu Gytundeb S106), Rheoli Adeiladu, Homestep neu gais mesur Ynni. Mae modd i'r cais mesur ynni gynnwys rhai neu bob un o'r canlynol:
  • Manylion pobl eraill sy'n rhan o'ch cais am gymorth grant, eich partner ac aelodau eraill eich cartref, partneriaid   busnes a pherchenogion tŷ / eiddo 

Bydd yr wybodaeth yma'n cynnwys:

  • Manylion personol e.e. enw, cyfeiriad
  • Manylion cyswllt e.e. cyfeiriad e-bost
  • Dyddiad geni
  • Tystiolaeth o incwm a chynilion
  • Tystiolaeth o wariant/treuliau (yn ymwneud â chais am fenthyciad)
  • Hysbysiad Galw am Dalu Treth y Cyngor
  • Gweithredoedd eiddo
  • Bil cyfleustodau, cofrestriad ar y gofrestr etholiadol leol a chyfriflen banc
  • Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi o dan 'VAT431NB: Ad-daliadau TAW ar gyfer adeiladwyr tai DIY'
  • Prawf o forgais hunan-adeiladu neu forgais adeiladu ar ddewis sy wedi'i gymeradwyo gan fanc neu gymdeithas adeiladu
  • Prawf o warantî hunan-adeiladu arbenigol neu warantî adeiladu ar ddewis
  • Datganiad am y cymorth gwladwriaethol sy wedi'i dderbyn wrth asesu eithriad neu ryddhad o Ardoll Seilwaith Cymunedol
  • Affidafid ar gyfer tystysgrifau datblygu cyfreithlon neu dystiolaeth Seilwaith Cymunedol bod yr adeilad yn "cael ei ddefnyddio"
  • Cytundebau cyfreithiol S106 (gan gynnwys yr holl sbardunau sy'n ymwneud â chytundeb, fydd yn cynnwys gwybodaeth ariannol)
  • Grant y Gyfadran - caniatâd yr Eglwys yng Nghymru i wneud gwaith adeiladu ar eglwysi. Cytundeb cyflogaeth
  • Prydles y tŷ / eiddo
  • Arfarniadau datblygu i asesu hyfywedd ariannol

 Efallai byddwn ni'n derbyn / casglu'r wybodaeth ganlynol gan eraill i gefnogi'ch cais:

  • Enw, Cyfeiriad a Dyddiad Geni
  • Manylion cyswllt gan gynnwys cyfeiriad e-bost
  • Manylion banc
  • Cadarnhad o Berchenogaeth eich tŷ / eiddo (y tŷ / eiddo rydych chi'n gwneud cais am gymorth grant ar ei gyfer) 
  • Cadarnhad o faint o amser rydych chi wedi bod yn y tŷ / eiddo
  • Cadarnhad o'ch hawl i ostyngiad yn Nhreth y Cyngor
  • Cadarnhad eich bod wedi cofrestru i ddweud byddwch chi'n byw yn y tŷ / eiddo
  • Cadarnhad o'ch Rhif Yswiriant Gwladol
  • Manylion cymhorthion ac addasiadau sy angen eu gwneud i'ch tŷ / eiddo
  • Tystiolaeth o enillion
  • Tystiolaeth eich bod yn berchen ar y tŷ / yr eiddo, neu yn denant yn y tŷ / yr eiddo
  • Hanes Cynllunio
  • NNDR

Er mwyn i ni weinyddu cynllun Homestep y Cyngor, byddwn ni'n casglu data personol amdanoch chi a phobl eraill sy'n gysylltiedig â chi fel a ganlyn:

  • Tystiolaeth o bwy ydych chi 
  • Gwybodaeth ariannol

3. O ble mae'r gwasanaeth yn cael fy ngwybodaeth?

Mae'r gwasanaeth yn cael eich gwybodaeth o nifer o ffynonellau fel a ganlyn: 

  • Ffurflenni ceisiadau Cynllunio, Grant a Rheoli Adeiladu
  • Ffurflenni Ardoll Seilwaith Cymunedol
  • Ymholiadau dros y ffôn, e-bost, llythyr, neu ymholiad ar-lein
  • Gwybodaeth sy wedi'i chasglu oddi wrth aelodau'r cyhoedd yn ymwneud â chwynion ynghylch Cynllunio, Rheoli Adeiladu, Strwythurau Peryglus
  • Chwiliad Pridiannau Tir Lleol
  • Gwiriadau Adfywio
  • Ymatebion i ymgynghoriadau
  • Ffurflenni ymgynghori ffurfiol
  • Ymatebion gan gymdogion
  • Deisebau
  • Cyfryngau Cymdeithasol
  • Gwybodaeth sy wedi'i darparu gan y cyhoedd yn ymwneud â chŵyn / ymchwiliad gorfodi   cynllunio
  • Gan cofnodi eich presenoldeb mewn ymchwiliad / gwrandawiad (gall y gybodaeth hon for ar gael i aelodau o’r cyhoedd).

  • Hysbysiadau casglu gwybodaeth yn ymwneud ag achos posib o dorri rheolau cynllunio sy   wedi'u cyhoeddi
  • Chwiliadau Tŷ'r Cwmnïau
  • Chwiliadau ar y rhyngrwyd
  • Chwiliadau y Gofrestrfa Tir
  • Gwybodaeth sy wedi'i darparu gan sefydliadau eraill h.y. Cyfoeth Naturiol Cymru,   Asiantiaeth Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau (DVLA), Llywodraeth Cymru.
  • Gwybodaeth sy wedi'i darparu gan sefydliadau sector cyhoeddus eraill e.e. atgyfeiriadau gan y Gwasanaeth Iechyd, yr Adran Gwaith a Phensiynau
  • Gwybodaeth sy wedi'i darparu gan sefydliadau'r sector preifat e.e. cyfreithwyr pwnc y data, darparwyr morgais, asiantau neu gyflogwyr, landlordiaid preifat neu gymdeithasol
  • Gwybodaeth sy wedi'i darparu gan y trydydd sector e.e. Asiantaeth Gofal a Thrwsio
  • Meysydd gwasanaeth eraill o fewn y Cyngor e.e. Treth y Cyngor, Budd-daliadau Tai,   NNDR
  • Gwybodaeth sy wedi'i darparu gan awdurdodau lleol eraill e.e. Cyngor Merthyr Tudful a   Chyngor Pen-y-bont ar Ogwr.

4. Beth fyddwn ni'n ei wneud gyda'ch gwybodaeth bersonol?

  • Darparu cyngor cyn i chi gyflwyno cais
  • Darparu ein gwasanaeth cefnogi busnes
  • yn rhan o'n gwasanaethau Cyn-brynu a Thystysgrifau Cwblhau
  • Prosesu a gweinyddu swyddogaeth statudol Rheoli Adeiladu
  • Gweinyddu yr Ardoll Seilwaith Cymunedol (gan gynnwys asesu unrhyw hawliad i eithriad / rhyddhad)
  • Prosesu a gweinyddu cytundebau cyfreithiol Adran 106
  • Gwirio gydag adrannau eraill y Cyngor er mwyn asesu os ydy rhywun yn gymwys. Mae hyn yn cynnwys Adran Ardreth Annomestig Genedlaethol, Adran Treth y Cyngor, yr Adran Drwyddedu a'r Adran Gorfodi
  • Asesu a chymeradwyo a gwneud taliadau yn ymwneud â'ch cais am Grant Cyfleusterau Anabl Statudol a Chymorth Grant Dewisol
  • Hwyluso asesiad a chymeradwyaeth posibl eich cais am Fenthyciad Gwella Cartrefi gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf neu ddarparwr trydydd parti
  • Galluogi asesu ceisiadau am Grantiau Statudol, Grantiau Dewisol a Benthyciadau Gwella Cartrefi mae aelodau o'ch cartref / teulu yn eu gwneud
  • Darparu Mân Waith Addasu i chi
  • Galluogi cyfrifo cyfraniad prawf modd rhagarweiniol yn ymwneud â chais posibl ar gyfer Grant Cyfleusterau i'r Anabl
  • Galluogi cwblhau asesiad cyn-gyfeirio gwaith yn ymwneud â chais posibl ar gyfer Grant Cyfleusterau i'r Anabl
  • Pan gawn ni ein penodi'n asiant. cyflogi contractwyr preifat, cwmnïau cyfleustodau, peirianwyr arbenigol, darparwyr offer arbenigol i gynllunio a chynnal gwaith â chymorth grant.
  • Gwneud taliadau i drydydd parti yn ymwneud â chymeradwyo'ch grant
  • Gwneud taliadau i chi o ran y gwasanaethau a sy'n cael eu darparu
  • Fel rhan o'ch apwyntiad ar gyfer gwasanaethau caffael i'r Garfan Grantiau Tai
  • Fel rhan o'r broses o gofrestru Tâl Cyfreithiol yn ymwneud â'ch dyfarniad grant
  • Casglu gwybodaeth adborth gan gwsmeriaid yn ymwneud â Grantiau, Mân Waith Addasu a cheisiadau am fenthyciadau
  • Cysylltu â chi at ddibenion ymchwil fel bod modd i ni wella'r gwasanaethau rydyn ni'n eu cynnig
  • Cysylltu â chi at ddibenion marchnata fel bod modd i ni hyrwyddo'r gwasanaethau rydyn ni'n eu cynnig a gwasanaethau rydyn ni'n credu bydd efallai o ddiddordeb i chi
  • Gweinyddu cynllun Homestep y Cyngor
  • Cynnal rhestr o drigolion sydd â diddordeb mewn cynlluniau ynni domestig a defnyddio'r   rhestr yma i ddatblygu cynlluniau a mentrau ynni posibl a rhoi gwybod i'r trigolion hynny, pan fydd cynlluniau ar gael.
  • Gweinyddu safleoedd Teithwyr a thrigolion y safleoedd yma.

 5. Beth ydy'r sail gyfreithiol o ran defnyddio'r wybodaeth yma?

Mae gan y gwasanaeth rwymedigaeth statudol i ddefnyddio'ch gwybodaeth fel sy wedi'i nodi yn y ddeddfwriaeth ganlynol cyn belled ag y mae'n berthnasol i Gymru:

  •   Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990
  •   Deddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990
  •   Deddf Cynllunio 2008
  •   Deddf Lleoliaeth 2011
  •   Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Gweithdrefn Rheoli Datblygu) (Cymru) 2012
  •   Rheoliadau Ardoll Seilwaith Cymunedol 2010 (fel y'i diwygiwyd)
  •   Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004
  •   Deddf Cynllunio (Cymru) 2015
  •   Gweithdrefn Rheoli Datblygu (Cymru) (wedi'i ddiwygio) Gorchymyn 2016
  •   Rheoliadau Asesu Effaith Amgylcheddol (Cymru) 2017
  •   Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Rheoli Hysbysebion) 1992
  •   Deddf Tai Cymru 2014
  •   Deddf Adeiladu 1984
  •   Rheoliadau Adeiladu 2010
  •   Deddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996
  •   Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai
  •   Gorchymyn Diwygio Rheoleiddiol, Adnewyddu Tai Sector Preifat 2002
  •   Polisi Tai Sector Preifat Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf 2014
  •   Gorchymyn Trydan a Nwy (Rhwymedigaeth Cwmni Ynni) 2014
  •   Deddf Ynni 2016
  •   Deddf Newid Hinsawdd ac Ynni Cynaliadwy 2016
  •   Rheoliadau Cynlluniau Effeithlonrwydd Ynni Cartref (Cymru) (Diwygio) 2018
  •   Deddf Cynllunio ac Ynni 2008
  •   Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015;
  •   Deddf Cartrefi Cynnes ac Arbed Ynni 2000
  •   Strategaeth Twf Glân 2018 (BEIS)
  •   Strategaeth Tlodi Tanwydd 2010 (LlC)
  •   Strategaeth Defnyddwyr sy'n Agored i Niwed 2013
  • Rhwymedigaethau cytundebol lle mae gofyn i unigolion i ymrwymo i gytundeb neu ei        gyflawni

Fyddwn ni ddim yn casglu nac yn defnyddio data personol at ddibenion y tu hwnt i'n dyletswyddau statudol a chytundebol ac eithrio lle mae gyda ni eich caniatâd neu lle rydyn ni wedi rhoi gwybod i chi am y sail gyfreithiol berthnasol ar gyfer prosesu'r wybodaeth yn y modd yma.

6. Ydy'r gwasanaeth yn rhannu fy ngwybodaeth bersonol gydag unrhyw sefydliad arall?

Er mwyn i'r Gwasanaeth gyflawni ei ddyletswyddau yn ymwneud ag Adfywio, Cynllunio a Thai, mae rhaid i ni rannu gwybodaeth gyda'r canlynol:

Adrannau eraill y Cyngor:

  •   NNDR
  •   Adran Treth y Cyngor
  •   Adran Budd-daliadau Tai
  •   Adran Drwyddedu
  •   Adran Gorfodi
  •   Gwasanaethau Cyfreithiol
  •   Adran Gyllid
  •   GwasanaethTrafnidiaeth
  •   Gwasanaeth Addysg
  •   Gwasanaeth Parciau a Chefn Gwlad

Sefydliadau eraill:

  •   Yr Adran Gwaith a Phensiynau.
  •   Awdurdodau Lleol De-ddwyrain Cymru
  •   Cyfoeth Naturiol Cymru
  •   Asiantaeth Trwyddedu Gyrrwyr a Cherbydau DVLA
  •   Llywodraeth Cymru
  •   Y Gwasanaeth Tân
  •   Asiantaeth Gofal a Thrwsio

Unigolion eraill:

  •   Aelodau Lleol, Aelodau'r Cynulliad, Aelodau Seneddol
  •   Datblygwyr, Adeiladwyr, Penseiri
  •   Trigolion
  •   Landlordiaid preifat a chymdeithasol
  •   Eich cynrychiolwyr cyfreithiol
  •   Eich asiant / cynrychiolydd

7. Am faint o amser fydd y gwasanaeth yn cadw fy ngwybodaeth?

Byddwn ni dim ond yn cadw eich gwybodaeth bersonol cyhyd ag y bydd arnon ni ei hangen i ddarparu'r gwasanaeth perthnasol ac i ddelio ag unrhyw gwestiynau neu gwynion rydyn ni'n eu derbyn am hyn. Byddwn ni'n gweithredu fel hyn oni bai fod y gyfraith yn ei gwneud hi'n ofynnol i ni gadw'ch gwybodaeth am ragor o amser.

8. Eich gwybodaeth, eich hawliau

Mae'r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) yn rhoi hawliau pwysig i chi, gan gynnwys yr hawl i gael gweld yr wybodaeth bersonol mae'r gwasanaethau yn ei chadw amdanoch chi.

Edrychwch ar fanylion pellach am eich hawliau gwybodaeth a sut i'w defnyddio nhw

9. Cysylltu â ni

Os oes gyda chi unrhyw bryderon neu os ydych chi eisiau rhagor o wybodaeth am sut mae'r gwasanaeth yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol, cysylltwch â ni gan ddefnyddio un o'r dulliau isod:

E-bost: GwasanaethauCynllunio@rhondda-cynon-taf.gov.uk

Trwy lythyr: 

Gwasanaethau Adfywio, Cynllunio a Thai, Tŷ Sardis, Heol Sardis, Pontypridd, CF37 1DU