Skip to main content

Hysbysiad Preifatrwydd – Gwasanaeth Twristiaeth

Sut rydyn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth bersonol at ddibenion Twristiaeth 

Mae'r Cyngor yn darparu gwasanaethau ar gyfer cymunedau lleol a'r bobl sy'n byw yno. Mae cynnal y gwaith yma yn golygu bod rhaid i ni gasglu a defnyddio gwybodaeth am y bobl rydyn ni'n darparu gwasanaethau ar eu cyfer nhw a chadw cofnod o'r gwasanaethau yma. O ganlyniad i gasglu a defnyddio gwybodaeth bersonol am unigolion, mae rhaid i ni sicrhau eu bod nhw'n gwybod beth yw ein bwriad o ran defnyddio a rhannu eu gwybodaeth. 

Rydyn ni wedi crynhoi yn yr hysbysiad preifatrwydd yma rai o'r ffyrdd allweddol rydyn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth bersonol at ddibenion Twristiaeth amrywiol. Dylech chi ddarllen yr wybodaeth yma yn ogystal â hysbysiad preifatrwydd corfforaethol y Cyngor.

1.    Pwy ydyn ni, beth ydyn ni'n ei wneud 

Swyddogaeth Adran Dwristiaeth RhCT yw marchnata a chodi proffil Rhondda Cynon Taf fel lleoliad deniadol i ymwelwyr. Rydyn ni hefyd yn rhoi cymorth i fusnesau lleol yn y sector twristiaeth, o ddatblygu nwyddau i ddod o hyd i gyllid.

2.    Pa fath o wybodaeth bersonol ydyn ni'n ei chadw ac am bwy? 

Rydyn ni'n cadw a defnyddio'ch gwybodaeth bersonol at sawl pwrpas fel sydd wedi'i nodi isod:

Ceisiadau am lyfrynnau:

  • Manylion personol e.e. enw, cyfeiriad  
  • Manylion cyswllt e.e. cyfeiriad e-bost

Ymgeiswyr i gystadlaethau:

  • Manylion personol e.e. enw, cyfeiriad
  • Manylion cyswllt e.e. rhif ffôn, cyfeiriad e-bost

Defnyddwyr Gŵyl Gerdded Cymoedd Cymru:   

  • Manylion personol e.e. enw, cyfeiriad
  • Manylion cyswllt e.e. rhif ffôn, cyfeiriad e-bost

Cronfeydd data Twristiaeth:  

  • Manylion personol e.e. enw'r perchennog/rheolwr, cyfeiriad
  • Manylion cyswllt e.e. rhif ffôn, cyfeiriad e-bost

Aelodau o Gymdeithas Dwristiaeth RhCT:  

  • Yn ogystal â'r gronfa ddata Twristiaeth, mae manylion wedi'u cadw ar ein cronfa ddata o aelodau o Gymdeithas Twristiaeth RhCT yn cynnwys yr un manylion â'r rheiny sy wedi'u nodi uchod, ynghyd â dewisiadau o ran cyfathrebu

3.    O ble mae'r gwasanaeth yn cael fy ngwybodaeth? 

Mae eich gwybodaeth yn cael ei chasglu o sawl ffynhonnell:

  • Gwybodaeth wedi'i rhoi yn uniongyrchol gan bwnc y data e.e. ffurflenni aelodaeth (aelodau o Gymdeithas Twristiaeth RhCT) a thrwy gadw llefydd ar-lein (Gŵyl Gerdded Cymoedd Cymru).
  • Gwybodaeth wedi'i rhoi gan sefydliadau eraill e.e. atgyfeiriadau gan adrannau'r Llywodraeth megis Croeso Cymru / Llywodraeth Cymru (mae hyn at ddibenion ein busnesau yn unig er mwyn ein galluogi ni i roi cymorth e.e. darparwr llety sydd newydd ei sefydlu).
  • Gwybodaeth wedi'i darparu gan y gwasanaeth e.e. mae hyn yn cynnwys ein hymchwil desg (gan ddefnyddio adnoddau fel Google, Facebook ac edrych trwy geisiadau cynllunio sydd ar gael yn gyhoeddus ar wefan y Cyngor) ac ymchwil maes (e.e. gyrru heibio eiddo newydd).

4.    Beth fyddwn ni'n ei wneud gyda'ch gwybodaeth bersonol? 

  • Ceisiadau am lyfrynnau: rydyn ni'n defnyddio'r wybodaeth at ddibenion cyflawni hyn yn unig. 
  • Ymgeiswyr i gystadlaethau: bydd gwybodaeth bersonol yn cael ei chadw at ddibenion cofnodi a byddwn ni ond yn cysylltu â chi os ydych chi wedi ennill.
  • Defnyddwyr Gŵyl Gerdded Cymoedd Cymru: mae gwybodaeth bersonol yn cael ei chadw at ddibenion gweinyddu'r sesiwn rydych chi wedi cadw lle arni a rhoi gwybod i chi am unrhyw newidiadau / manylion o ran canslo. Mae rhestr o bobl sy'n mynd i'r ŵyl yn cael ei rhoi i arweinydd y daith gerdded ar ddiwrnod yr achlysur at ddibenion iechyd a diogelwch. Mae cyfathrebu â chi yn y dyfodol (e.e. marchnata achlysuron yn y dyfodol)yn amodol ar eich caniatâd i ni gyfathrebu â chi.
  • Cronfeydd data Twristiaeth: er bod y cronfeydd yn cynnwys data masnachol yn bennaf, maen nhw'n cynnwys peth gwybodaeth bersonol. Mae hyn at ddibenion mewnol yn unig e.e. cysylltu â'ch busnes i gynnig cymorth a rhoi gwybod am gyfle ariannu. 
  • Aelodau o Gymdeithas Dwristiaeth RhCT: mae ein cronfa ddata o aelodau yn cynnwys gwybodaeth fasnachol yn bennaf (er ei bod hi'n bosibl bod gwybodaeth bersonol yn rhan o hyn). A chithau'n aelod, rydych chi'n rhoi eich dewisiadau o ran cyfathrebu i ni e.e. rhoi caniatâd i ni gysylltu â chi trwy e-bost, rhannu eich manylion ag aelodau eraill at ddibenion gweithio ar y cyd, argymhellion a rhwydweithio.

5.    Beth ydy'r sail gyfreithiol o ran defnyddio'r wybodaeth yma?  

Mae deddf Diogelu Data yn dweud ein bod ni ond yn cael defnyddio a rhannu gwybodaeth bersonol os oes gyda ni reswm priodol a chyfreithlon dros wneud hynny. Ein sail gyfreithiol ar gyfer defnyddio gwybodaeth bersonol at ddibenion Twristiaeth yw ei bod yn rhan o'n gorchwyl cyhoeddus. At ddibenion y sawl sy’n cystadlu mewn cystadlaethau, rydyn ni'n defnyddio caniatâd.

6.    Ydy'r gwasanaeth yn rhannu fy ngwybodaeth bersonol ag unrhyw sefydliad arall? 

Er mwyn i'r Gwasanaeth ymgymryd â'i ddyletswyddau mewn perthynas â Thwristiaeth, mae rhaid i ni rannu gwybodaeth â'r canlynol:

Adrannau eraill y Cyngor:

  • Adran Adfywio – er mwyn manteisio ar gyfleoedd ariannu

Sefydliadau eraill:  

  • Eventbrite – er mwyn cadw llefydd ar Wyliau Cerdded
  • Busnesau lleol eraill – gyda'ch caniatâd fel aelod o Gymdeithas Dwristiaeth RhCT

7.    Am faint o amser fydd y gwasanaeth yn cadw fy ngwybodaeth? 

  • Ceisiadau am lyfrynnau: rydyn ni'n dileu cofnodion annilys o wybodaeth bersonol unwaith i'r broses gyflawni gael ei chwblhau. Rydyn ni'n cadw cod post yn unig i'n galluogi ni i bennu'r ardaloedd rydych chi'n gwneud cais am ganllaw arnyn nhw.
  • Ymgeiswyr i gystadlaethau: bydd gwybodaeth yn cael ei chadw hyd at gyhoeddi enillydd y gystadleuaeth yn unig
  • Gŵyl Gerdded Cymoedd Cymru: byddwn ni'n dileu cofnodion annilys o wybodaeth bersonol ar ôl yr achlysur oni bai eich bod chi wedi rhoi caniatâd i ni gysylltu â chi ynghylch yr achlysur nesaf, (sy'n cael ei gynnal ym mis Medi) ac rydyn ni'n cadw'r cod post yn unig.
  • Cronfeydd data twristiaeth: rydyn ni'n diweddaru ein cronfeydd data yn rheolaidd i sicrhau eu bod nhw wedi'u diweddaru a dileu cofnodion annilys yn flynyddol i sicrhau bod yr holl fusnesau sy wedi cau yn cael eu dileu. Yn gyffredinol, bydd gwybodaeth yn cael ei chadw am gyfnod gweithredu'r busnes. 
  • Aelodau o Gymdeithas Dwristiaeth RhCT: yn unol â'r cronfeydd data twristiaeth, rydyn ni'n diweddaru'r gronfa ddata yn rheolaidd ac yn rhoi cyfle i aelodau newid eu dewisiadau o ran eu data. Yn gyffredinol, bydd gwybodaeth yn cael ei chadw am y cyfnod mae busnes wedi bod yn aelod.

8.    Eich gwybodaeth, eich hawliau

Mae'r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) yn rhoi hawliau pwysig i chi, gan gynnwys yr hawl i gael gweld yr wybodaeth bersonol mae'r gwasanaethau yn ei chadw amdanoch chi.

Edrychwch ar ragor o wybodaeth am eich hawliau gwybodaeth a sut i'w defnyddio nhw.

9.    Cysylltwch â ni

Os oes gyda chi unrhyw bryderon neu os ydych chi eisiau rhagor o wybodaeth am sut mae'r gwasanaeth yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol, cysylltwch â ni gan ddefnyddio un o'r dulliau isod:

E-bost : ymholiadtwristiaeth@rctcbc.gov.uk

Ffôn : 01443 424183

Trwy lythyr : Adran Twristiaeth, CBSRhCT, Y Pafiliynau, Cwm Clydach, CF40 2XX