Skip to main content

Hysbysiad preifatrwydd Cyfleoedd Cyflogaeth Tîm Cyflogaeth, Addysg a Hyfforddiant

Y modd mae'r Cyngor yn defnyddio'ch gwybodaeth bersonol at ddibenion Cyfleoedd Gwaith y Garfan Cyflogaeth, Addysg a Hyfforddiant.

Mae'r Cyngor yn darparu gwasanaethau ar gyfer cymunedau lleol a'r bobl sy'n byw ynddyn nhw.  Wrth wneud y gwaith yma, rhaid i ni gasglu gwybodaeth am y bobl rydyn ni'n darparu gwasanaethau ar eu cyfer nhw, defnyddio'r wybodaeth yma, a chadw cofnod o'r gwasanaethau yma. O ganlyniad i gasglu gwybodaeth bersonol am unigolion, a'i defnyddio, rhaid i ni sicrhau eu bod nhw'n gwybod beth rydyn ni am ei wneud gyda'r wybodaeth yna, a gyda phwy y mae hawl gyda ni i'w rhannu. 

Rydyn ni wedi crynhoi yn yr hysbysiad preifatrwydd yma rai o'r ffyrdd allweddol rydyn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth bersonol at ddibenion profiad gwaith ac interniaethau. Dylech chi ddarllen yr wybodaeth yma yn ogystal â hysbysiad preifatrwydd gweithlu'r Cyngor a'r hysbysiad preifatrwydd corfforaethol

1. Pwy ydyn ni? Beth ydyn ni'n ei wneud?

Mae'r Garfan Cyflogaeth, Addysg a Hyfforddiant yn ymrwymo i wella cyfleoedd gyrfa a gwaith ar gyfer pobl ifainc sydd mewn gofal ac sydd wedi gadael gofal, yn ogystal â'r rheini sydd ddim mewn addysg, gwaith na hyfforddiant. Yn hynny o beth, rydyn ni'n darparu cymorth a chyngor ac ystod o raglenni i wella cyflogadwyedd a'r posibilrwydd o gael swydd.

Rydyn ni'n cynnig lleoliadau gwaith o fewn Cyngor RhCT ar gyfer myfyrwyr ac aelodau'r cyhoedd. Mae'r rhain yn cynnwys hunan-atgyfeiriadau ac atgyfeiriadau gan sefydliadau eraill, fel lleoliadau profiad gwaith y Ganolfan Byd Gwaith (JCP) ac Interniaethau Prifysgol.

Rydyn ni'n gweinyddu'r Cynllun Prentisiaeth hefyd gan ddarparu gwybodaeth a sgiliau sy'n benodol i'r swydd.

2. Pa fath o wybodaeth bersonol rydyn ni'n ei chadw ac am bwy?

Bydd y mathau o wybodaeth rydyn ni'n eu cadw a'u prosesu fel arfer yn cynnwys:

  • Manylion cyswllt, gan gynnwys enw, cyfeiriad, rhifau ffôn, cyfeiriad e-bost, hanes cyflogaeth ac addysg.
  • Manylion personol, gan gynnwys dyddiad geni a Rhif Yswiriant Gwladol
  • Ffurflen Cyfleoedd Cyfartal, sy'n cynnwys manylion eich rhyw, tarddiad ethnig ac anabledd.

3. O ble mae'r gwasanaeth yn cael fy ngwybodaeth?

Rydyn ni'n cael yr wybodaeth bersonol yma gennych chi'n uniongyrchol. Fodd bynnag, o bryd i'w gilydd mae'n bosibl y byddwn ni'n derbyn yr wybodaeth yma gan eich coleg, prifysgol ac ymgynghorydd y Ganolfan Byd Gwaith os ydyn nhw'n gwneud yr atgyfeiriad ar eich rhan.

4. Beth fyddwn ni'n ei wneud gyda'ch gwybodaeth bersonol?

Byddwn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth bersonol er mwyn:

  • Sicrhau ein bod ni'n dod o hyd i'r lleoliad gorau i chi
  • Eich recriwtio chi'n brentis
  • Rhoi'r hyfforddiant perthnasol i chi i wella'ch sgiliau cyflogaeth

5. Beth yw'r sail gyfreithiol o ran defnyddio'r wybodaeth yma?

Y sail gyfreithiol o ran ein defnydd o'ch gwybodaeth bersonol fel arfer fydd un neu ragor o'r canlynol:

a)    mae angen i ni brosesu'ch gwybodaeth bersonol i gyflawni tasg er budd y cyhoedd neu wrth arfer awdurdod swyddogol yn rhinwedd ein swyddogaeth fel corff cyhoeddus;

6. Ydy'r gwasanaeth yn rhannu fy ngwybodaeth bersonol ag unrhyw sefydliad arall?

Caiff data personol ei rannu'n fewnol er mwyn dod o hyd i leoliad gwaith, prentisiaeth neu interniaeth i chi. Os ydych chi eisoes wedi trefnu interniaeth neu leoliad trwy sefydliad arall e.e. y Ganolfan Gwaith, byddwn ni'n cysylltu â nhw i ddweud os ydych chi wedi cael lleoliad. 

Os na fydd eich cais i fod yn brentis yn llwyddiannus, byddwn ni'n rhannu'ch gwybodaeth gyda Chymunedau am Waith. Mae Cymunedau am Waith yn wasanaeth cymunedol sy'n cynnig cyngor a gwasanaeth mentora i chi ynghyd â chymorth i'ch helpu chi i ennyn sgiliau cyflogaeth.

7. Am ba mor hir gaiff fy ngwybodaeth ei chadw?

Byddwn ni ond yn cadw eich gwybodaeth bersonol cyhyd ag y bydd arnom ei hangen. Fyddwn ni ddim yn cadw'ch gwybodaeth am gyfnod hirach nag sydd ei hangen. Mae hyn yn dibynnu ar natur yr wybodaeth.

8. Eich gwybodaeth, eich hawliau

Mae'r Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol yn rhoi hawliau pwysig i chi, gan gynnwys yr hawl i gael gweld yr wybodaeth bersonol mae'r gwasanaethau yn ei chadw amdanoch chi.

Cliciwch yma am ragor o wybodaeth am eich hawliau gwybodaeth a sut i'w defnyddio nhw. 

9. Cysylltu â ni

Os oes unrhyw bryderon gyda chi neu os ydych chi eisiau gwybod rhagor am sut rydyn ni'n trin eich gwybodaeth bersonol, mae modd i chi gysylltu â ni gan ddefnyddio'r dulliau isod:

E-bost: CarfanCyflogaethAddysgHyfforddiant@rctcbc.gov.uk

Drwy ffonio: 01443 570034

Drwy anfon llythyr: Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, Carfan Cyflogaeth, Addysg a Hyfforddiant, Tŷ Elái, Ystad Ddiwydiannol Dinas Isaf, Trewiliam, Tonypandy CF40 1NY