Skip to main content

Hysbysiad Preifatrwydd Trosglwyddiadau Asedau Cymunedol

Hysbysiad preifatrwydd mewn perthynas â phrosesu data personol gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf at ddibenion Trosglwyddo Asedau Cymunedol

Cyflwyniad

Bwriad yr hysbysiad preifatrwydd yma yw darparu gwybodaeth am sut y bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (cyfeirir ato fel 'Cyngor Rhondda Cynon Taf', 'y Cyngor', 'Awdurdod Lleol', 'ni') yn defnyddio (neu 'brosesu') data personol am unigolion at ddibenion Trosglwyddo Asedau Cymunedol.

Dylech chi ddarllen yr hysbysiad yma yn ogystal â:

Y Rheolwr Data

Y Cyngor yw'r rheolwr data ar gyfer y data personol a gaiff eu prosesu at ddibenion Trosglwyddo Asedau Cymunedol

Mae'r Cyngor wedi'i gofrestru gyda Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth fel rheolwr. Ei gyfeirnod yw Z4870100.

Ymholiadau yn ymwneud â'r hysbysiad preifatrwydd yma

Os oes gyda chi unrhyw gwestiynau neu ymholiadau yn ymwneud â’r hysbysiad preifatrwydd yma, cysylltwch â’r Garfan Trosglwyddo Asedau Cymunedol:

E-bost: Syd.b.dennis@rctcbc.gov.uk (Rheolwr y Gwasanaeth)

Ffôn: 01443 425368

Neu drwy lythyr i: Tŷ Elái, Dwyrain Dinas Isaf, Trewiliam, Tonypandy, CF40 1NY

Pwy ydyn ni a beth rydyn ni'n ei wneud

Mae RhCT Gyda'n Gilydd – Carfan Datblygu'r Gymuned, yn hwyluso'r broses o drosglwyddo Adeiladau a/neu dir y Cyngor i sefydliadau cymunedol nid er elw personol megis, ond heb fod yn gyfyngedig i; mentrau cymdeithasol neu Gynghorau Tref a Chymuned.

Nodau Trosglwyddiadau Asedau Cymunedol Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yw:

  • Annog cymunedau a grwpiau lleol (rhai newydd neu rai sy'n bodoli eisoes) i ddod yn ddinasyddion grymus a gweithredol trwy reoli adeiladau lleol neu ddarnau o dir yn eu hardal leol.
  • Datblygu gallu mewn cymunedau a hyrwyddo trefnau rhannu'r adeiladau cymunedol rhwng y sectorau cyhoeddus, preifat, gwirfoddol a chymunedol drwy ddefnyddio dull cyd-weithio.
  • Diogelu adeiladau a gwasanaethau at ddefnydd a budd y gymuned.

Data personol pwy ydyn ni'n eu prosesu?

Mae’n bosibl y byddwn ni'n prosesu data personol sy’n ymwneud â’r unigolion canlynol ar gyfer Trosglwyddo Asedau Cymunedol

  • Sefydliadau / grwpiau cymunedol
  • Aelodau Grŵp / Sefydliadau Cymunedol

Y mathau o ddata personol rydyn ni'n eu prosesu

Mae'n bosibl y byddwn ni'n prosesu'r categorïau canlynol o ddata personol ar gyfer Trosglwyddo Asedau Cymunedol:

  • Enw/Enwau
  • Swyddogaeth o fewn y Sefydliad/Grŵp sy'n gwneud cais am Drosglwyddo Asedau Cymunedol
  • Manylion Cyswllt: Cyfeiriad; rhif ffôn; cyfeiriad e-bost
  • Sgiliau a phrofiad
  • Dewis iaith

Pam rydyn ni'n prosesu data personol?

Rydyn ni'n prosesu'r data personol ar gyfer Trosglwyddo Asedau Cymunedol. Gall hyn gynnwys y gweithgareddau canlynol, ond heb fod yn gyfyngedig iddyn nhw;

  • Nodi cynigion cymunedol da ar gyfer gwneud defnydd cynaliadwy o adeiladau cyhoeddus, neu dir sy'n eiddo i Gyngor Rhondda Cynon Taf ar hyn o bryd
  • Ystyried trosglwyddo rheolaeth adeiladau neu'r tir i'ch sefydliad/grŵp
  • Prosesu Mynegiant o Ddiddordeb, Cynllun Busnes neu Gais am Gyllid
  • Cysylltu â chi i ddarparu gwybodaeth am drosglwyddo asedau neu i drafod unrhyw gamau gweithredu yn y dyfodol mewn perthynas â throsglwyddo asedau
  • Prosesu'r trosglwyddiad rhydd-ddaliadaeth neu brydlesol ar gyfer adeilad, neu dir sy'n eiddo i Gyngor Rhondda Cynon Taf ac yn cael ei reoli ganddo ar hyn o bryd.
  • Darparu cymorth i helpu i gynnal Trosglwyddiad Ased Cymunedol presennol lle gallai’r grŵp, yr adeilad neu’r darn o dir fod mewn perygl.
  • Cyhoeddi Trosglwyddiadau Asedau llwyddiannus ar dudalen we RhCT Gyda'i Gilydd

Rydyn ni hefyd yn prosesu'r data personol er mwyn llunio adroddiad ar reolaeth ac effaith y grantiau mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf wedi'u derbyn. Mae'n bosibl y bydd hyn yn cynnwys, ond heb ei gyfyngu i'r gweithgareddau canlynol:

  • Prosesu'r atgyfeiriad i'r prosiect sydd wedi'i ddewis
  • Rhoi cefnogaeth, cymorth ac arweiniad
  • Llunio a darparu adroddiadau i'r Swyddfa Cyllid berthnasol i ddangos bod y Prosiect yn cael ei gynnal yn gywir ac yn ôl telerau'r cyllid
  • Gwerthuso prosiectau a ariennir yn allanol yn Rhondda Cynon Taf yn unol â gofynion y cyllid grant.

Ein sail gyfreithiol ar gyfer prosesu'r data personol

O dan y Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (GDPR), ein sail gyfreithlon ar gyfer prosesu'r data personol ar gyfer Trosglwyddo Asedau Cymunedol.

  • Tasg Gyhoeddus – Erthygl 6 (e) – prosesu sy'n angenrheidiol ar gyfer cyflawni tasg er budd y cyhoedd neu arfer awdurdod swyddogol sydd wedi'i roi i'r rheolwr.

Gan bwy neu o ble rydyn ni'n casglu data personol?

Mae'n bosibl y byddwn ni'n derbyn y data personol gan unigolion neu sefydliadau yn y categorïau canlynol:

  • Unigolion sy'n gwneud cais am drosglwyddiad ased cymunedol ar ran sefydliad

Gyda phwy rydyn ni'n rhannu data personol?

Mae’n bosibl y byddwn ni'n rhannu'r data personol â'r sefydliadau allweddol canlynol ar gyfer Trosglwyddo Asedau Cymunedol

Dim ond y lleiafswm o ddata personol sydd eu hangen mewn perthynas â'r diben fydd yn cael eu rhannu.

Pwy

Diben

Adrannau Mewnol y Cyngor

  • Trosglwyddo rheolaeth adeiladau neu'r tir i'ch sefydliad/grŵp
  • Prosesu'r trosglwyddiad rhydd-ddaliadaeth neu brydlesol ar gyfer adeilad, neu dir sy'n eiddo i Gyngor Rhondda Cynon Taf ac yn cael ei reoli ganddo ar hyn o bryd.
  • Cael mynediad at gyllid
  • Cael mynediad at gymorth arbenigol (os oes angen)

Y Cabinet ac Aelodau'r Cabinet

Ceisio cymeradwyaeth i Drosglwyddo Asedau Cymunedol

Asiantaethau Cefnogi'r Sector Gwirfoddol

  • Cyllidwyr
  • Grwpiau Cymunedol 3ydd Parti
  • Mentrau Cymdeithasol
  • Cynghorau Tref a Chymuned

Ar gyfer gweithio ar y cyd ar Drosglwyddiad Ased Cymunedol (pan fyddwch chi wedi rhoi caniatâd i ni wneud hynny)

 

Proseswyr Data

Mae proseswr data yn gwmni neu sefydliad sy'n prosesu data personol ar ein rhan. Mae ein proseswyr data yn gweithredu ar ein cyfarwyddyd ni yn unig. Does dim modd iddyn nhw wneud unrhyw beth gyda'r data personol oni bai ein bod ni wedi eu cyfarwyddo nhw i wneud hynny.  Fyddan nhw ddim yn rhannu'r data personol ag unrhyw sefydliad ar wahân i ni nac yn eu defnyddio at eu dibenion eu hunain. Byddan nhw'n dal y data yn ddiogel ac yn eu cadw am y cyfnod rydyn ni wedi'u cyfarwyddo i wneud hynny.

Dyma'r categorïau o brosesyddion data rydyn ni'n eu defnyddio:

-       Darparwyr Systemau TG, ac ati

Am ba mor hir y byddwn ni'n cadw'r data personol?

Bydd eich gwybodaeth chi'n cael ei chadw cyhyd ag y bo'n ofynnol o dan y gofyniad cyfreithiol i drosglwyddo Ased Cyngor a chydymffurfio â gweithdrefnau ariannol y Cyngor

Eich hawliau yn ymwneud â diogelu data

Mae'r Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) yn rhoi hawliau pwysig i unigolion, gan gynnwys yr hawl i gael gweld data personol mae'r Cyngor yn eu cadw amdanoch chi.

Cliciwch yma am ragor o wybodaeth am eich hawliau o ran gwybodaeth a sut i'w harfer nhw. 

Eich hawl i wneud cwyn i'r Cyngor ynghylch diogelu data

Mae'r hawl gyda chi i gwyno i'r Cyngor os ydych chi o'r farn ein bod ni ddim wedi trin eich data personol yn gyfrifol nac yn unol ag arfer da. 

Mae modd i chi wneud hyn drwy gysylltu â'r Garfan Trosglwyddo Asedau Cymunedol yn uniongyrchol drwy un o'r dulliau cyfathrebu canlynol. Mae modd datrys y rhan fwyaf o bryderon yn gymharol gyflym trwy alwad ffôn syml neu e-bost.

Anfon e-bost: Syd.b.dennis@rctcbc.gov.uk (Rheolwr y Gwasanaeth)

Ffonio: 01443 425368

Neu drwy lythyr i: Tŷ Elái, Dwyrain Dinas Isaf, Trewiliam, Tonypandy, CF40 1NY

Fel arall, mae modd i chi wneud cwyn ffurfiol trwy Gynllun Adborth Cwsmeriaid y Cyngor gan ddefnyddio'r ddolen ganlynol (Gwneud sylw, canmoliaeth neu gŵyn ar-lein) neu e-bostiwch Swyddog Diogelu Data'r Cyngor: rheoli.gwybodaeth@rctcbc.gov.uk.

Eich hawl i wneud cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth ynghylch diogelu data

Mae modd i chi hefyd gwyno i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth os ydych chi'n anfodlon â sut rydyn ni wedi defnyddio'ch data. Serch hynny, rydyn ni'n eich annog chi i gysylltu â ni yn gyntaf a rhoi cyfle i ni ymchwilio i'ch pryder a chywiro pethau.

Mae modd cysylltu â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth fel a ganlyn:           

  • Cyfeiriad: Information Commissioner's Office, Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Cheshire, SK9 5AF
  • Rhif y Llinell Gymorth: 0303 123 1113
  • Gwefan: https://www.ico.org.uk