Skip to main content

Hysbysiad Preifatrwydd Gwasanaethau Cymuned a gwasanaethau i blant

Sut mae'r Gwasanaethau Cymuned a Gwasanaethau i Blant yn defnyddio'ch gwybodaeth bersonol.

Mae'r Cyngor yn darparu gwasanaethau ar gyfer cymunedau lleol a'r bobl sy'n byw ynddyn nhw. Mae cynnal y gwaith yma yn golygu bod rhaid i ni gasglu a defnyddio gwybodaeth am y bobl rydyn ni'n darparu gwasanaethau ar eu cyfer nhw a chadw cofnod o'r gwasanaethau yma. O ganlyniad i gasglu a defnyddio gwybodaeth bersonol am unigolion, mae rhaid i ni sicrhau eu bod nhw'n gwybod beth yw ein bwriad o ran defnyddio a rhannu eu gwybodaeth.

Yn yr hysbysiad preifatrwydd yma, rydyn ni wedi crynhoi rhai o'r ffyrdd allweddol rydyn ni'n defnyddio eich gwybodaeth bersonol yn y Gwasanaeth Cymuned a Gwasanaethau i Blant. Dylech chi ddarllen yr wybodaeth yma yn ogystal â hysbysiad preifatrwydd corfforaethol y Cyngor

1. Pwy ydyn ni, beth ydyn ni’n ei wneud.

Mae'r Gwasanaethau Cymuned a Gwasanaethau i Blant yn darparu ystod eang o wasanaethau gofal cymdeithasol hanfodol ar gyfer oedolion, plant, pobl ifanc a theuluoedd. Ein nod yw sicrhau bod pobl yn parhau i fod yn ddiogel, yn iach, yn fywiog, yn annibynnol a'u diogelu rhag tlodi.

Dyma enghreifftiau o'r gwasanaethau rydyn ni'n eu darparu: 

Gwasanaeth

Beth ydyn   ni'n ei wneud

Gwasanaethau Ymyrraeth Gynnar

Mae'r Gwasanaethau Ymyrraeth Gynnar yn darparu cefnogaeth i leihau risg ac atal anghenion plant, pobl ifanc a theuluoedd rhag gwaethygu i bwynt lle mae angen ymyrraeth statudol.

Gwasanaethau   Ymyrraeth Ddwys

Mae'r Gwasanaethau Ymyrraeth Ddwys yn gweithio gyda theuluoedd sydd ag anghenion cymhleth neu sy wedi'u hen sefydlu ac felly'n anodd eu newid. Mae modd iddyn nhw drefnu a chydlynu mynediad i asiantaethau sydd â phrofiad o weithio gyda theuluoedd sydd ag anghenion cymhleth. Bydd cefnogaeth gan yr asiantaethau yma yn adeiladu ar adnoddau pobl a chryfderau a galluoedd y teulu a'r gymuned y maent yn byw ynddi.

Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd

Mae'r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd yn cynnig gwasanaeth gwybodaeth a chyfeirio am ddim i bob rhiant, cynhaliwr a gwarcheidwad yn Rhondda Cynon Taf.

Teuluoedd yn Gyntaf

Mae modd i wasanaeth Teuluoedd yn Gyntaf weithio gyda theuluoedd a'u plant i'w helpu i ddelio â materion cyn iddyn nhw droi'n broblem neu'n waeth, yn argyfwng. Maen nhw'n gweithio gyda theuluoedd i edrych ar yr hyn sy'n gweithio a pha gymorth sydd ei angen i leihau tlodi plant a sicrhau bod modd i'r teulu'n ffynnu. Mae'r gwasanaeth yn ceisio atal neu oedi'r angen am ymyrraeth gan wasanaethau statudol trwy gynnig gwasanaeth ymyrraeth gynnar neu drwy geisio atal y sefyllfa.

Dechrau'n Deg

Mae'r Rhaglen Dechrau'n Deg yn cynnig cymorth i deuluoedd yn ystod blynyddoedd cynnar bywyd plentyn. Mae'r rhaglen yn cael ei chyflwyno mewn ardaloedd penodol yn Rhondda Cynon Taf ac mae'n cynnig rhagor o gymorth gan ymwelwyr iechyd, cymorth iaith gynnar, cymorth i rieni a gofal plant am ddim mewn lleoliad cofrestredig.

Cymorth i blant anabl a'u   teuluoedd

Mae'r Garfan Plant Anabl yn gweithio i gefnogi teuluoedd â phlant sy'n byw ag anableddau a salwch cronig. Mae'r gwasanaeth yn rhoi plant yn gyntaf ac mae'n canolbwyntio ar annog a chynorthwyo plant i gael mynediad i'r un gwasanaethau a chyfleoedd ag unrhyw blentyn arall.

Gwasanaethau   Diogelu a Chefnogi i Blant a Phobl Ifanc.

Nod y gwasanaeth yw amddiffyn unrhyw blentyn neu berson ifanc sy'n cael ei niweidio neu sydd mewn perygl o gael ei niweidio. Os bydd yn dod i'r amlwg bod plentyn yn cael ei gam-drin neu mewn perygl o niwed sylweddol, bydd gweithwyr proffesiynol yn gweithio gyda'r teulu i sicrhau bod y plentyn yn cael ei ddiogelu.

Gwasanaeth Maethu a   Mabwysiadu

         

Mae'r Gwasanaeth Maethu a'i Gynhalwyr Maeth yn rhan o garfan ymroddedig o weithwyr proffesiynol sy'n cefnogi dros 600 o blant a phobl ifanc sy'n derbyn gofal yn Rhondda Cynon Taf. Maen nhw'n arparu cartrefi diogel, cefnogol a gofalgar ar gyfer plant a phobl ifainc lle does dim modd iddyn nhw fyw gyda'u teuluoedd biolegol am amrywiaeth o resymau.

Mae'r Gwasanaeth Mabwysiadu yn cynnig ystod o wasanaethau a chymorth i rieni sy'n mabwysiadu gan gynnwys gwybodaeth a chyngor i ddarpar fabwysiadwyr, paratoi, hyfforddiant cyn-gymeradwyo ac   asesiadau amserol, dod o hyd i leoliadau, cefnogaeth cyn ac ar ôl mabwysiadu, cefnogaeth i rieni biolegol a'r rhai sy'n dymuno chwilio am eu perthnasau biolegol a chefnogaeth i berthnasau biolegol sy'n dymuno cysylltu â rhywun sy wedi'i fabwysiadu.

Gwasanaeth   Troseddau Ieuenctid Cwm Taf

Mae Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid yn dod â swyddogion o wasanaethau i blant, y gwasanaeth prawf, y gwasanaeth addysg, y gwasanaeth iechyd, yr heddlu ac asiantaethau eraill a gweithiwr prosiect arbenigol ynghyd. Mae'n gwneud hyn er mwyn goruchwylio pobl ifanc   sydd mewn perygl o droseddu neu'n ymwneud ag ymddygiad

troseddol.

Gwasanaethau Iechyd Meddwl i Blant

a Phobl Ifanc (CAMHS)

Mae Gwasanaethau Iechyd Meddwl i Blant a Phobl Ifanc yn cynnig cymorth ar gyfer pobl ifanc ag anhwylderau emosiynol, seicolegol a seiciatryddol.

Hwb   Diogelu Amlasiantaeth (MASH)

Y Ganolfan Diogelu Amlasiantaeth yw'r pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer   pryderon newydd ynghylch unrhyw oedolyn neu blentyn sy'n agored i niwed. Bydd   cynrychiolwyr o wahanol asiantaethau yn y MASH a sefydliadau allanol yn asesu'r risgiau ac yn rhoi cynlluniau ar waith i ddiogelu unrhyw oedolyn neu blentyn sy'n agored i niwed rhag unrhyw ddrwg neu esgeulustod mae modd iddyn nhw eu hwynebu.

Gwasanaethau   Diogelu a Gwasanaethau Cymorth i Oedolion.

Nod   y gwasanaeth yw amddiffyn unrhyw oedolion sy'n cael eu niweidio neu sydd mewn   perygl o gael eu niweidio. Os bydd yn dod i'r amlwg bod oedolyn yn cael ei   gam-drin neu mewn perygl o niwed, bydd gweithwyr proffesiynol yn gweithio   gyda'r teulu ac asiantaethau eraill i sicrhau bod pobl yn cael eu diogelu.

Trefniadau   Diogelu rhag Colli Rhyddid (DoLS)

Weithiau, amddifadu person o’i ryddid yw’r dewis gorau er mwyn sicrhau does dim niwed yn dod i'w ran. Mae modd gwneud hyn os nad oes gyda'r person y gallu meddyliol i wneud penderfyniadau am y gofal neu'r driniaeth sydd eu hangen arno ef / arni hi. Mae Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid y Ddeddf Galluedd Meddyliol yn sicrhau na fydd neb yn colli ei ryddid heb reswm da.

Gwasanaethau   Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth

Mae'r Gwasanaethau Gwybodaeth a Chyngor i Oedolion yn cynnig cymorth i bobl am y gofal a'r gefnogaeth sydd ar gael yn yr ardal lle maen nhw'n byw a sut i gael mynediad at y gefnogaeth yma.

Carfanau Gofal a Chefnogaeth Tymor Byr a   Thymor Hir i Oedolion

Mae Carfanau Gofal a Chefnogaeth Tymor Byr a Thymor Hir i Oedolion yn asesu anghenion gofal a chefnogaeth oedolion, a'r cymorth sydd ei angen ar ei gynhaliwr. Mae Carfanau Gofal a Chymorth yn trefnu ac yn cydlynu mynediad i'r gwasanaethau sydd eu hangen ar bobl i fodloni'r anghenion gofal a chymorth sydd wedi dod i'r amlwg.

Gwasanaethau   Mynediad a Galluogi

Mae'r Gwasanaethau Mynediad a Galluogi yn cefnogi pobl i barhau i fyw mor annibynnol â phosib yn eu cartrefi eu hunain. Mae'r gwasanaeth yn cefnogi pobl a allai fod yn ei chael hi'n anodd rheoli eu hanghenion, o ganlyniad i anabledd, salwch neu wendid oherwydd eu bod yn heneiddio.

Gwasanaethau   Atal ac

Ymyrraeth   Gynnar

 

Mae Gwasanaethau Atal ac Ymyrraeth Gynnar yn cynorthwyo pobl i ddychwelyd adref neu aros yn eu cartrefi yn dilyn salwch diweddar, damwain neu gyfnod yn yr ysbyty. Mae'r gwasanaeth yn annog pobl i ddysgu neu ail-ddysgu sgiliau byw bob dydd trwy gynorthwyo, annog a goruchwylio gyda thasgau byw bob dydd.

Gwasanaethau Materion y Synhwyrau

Mae'r Gwasanaethau Materion y Synhwyrau yn cynnig cymorth ac asesiad i bobl o bob oed sy'n ddall, sy'n gweld yn rhannol, sy'n drwm eu clyw neu sy'n ddall ac yn fyddar.

Carfanau   Gofal a Chymorth

Anabledd   Dysgu

 

Mae Gwasanaethau Anabledd Dysgu yn gweithio â gweithwyr iechyd proffesiynol i drefnu cefnogaeth i ofalwyr, seibiant neu gymorth yn y cartref. Mae modd iddyn nhw eich helpu i gynllunio ar gyfer y dyfodol, ymdopi ag ymddygiad anodd, a threfnu cyfleoedd yn ystod y dydd neu fyw â chymorth.

Carfan   Gofal a Chymorth

Anabledd   Dysgu

Mae Carfanau Cynllunio Gofal a Thriniaeth Iechyd Meddwl yn gweithio â gweithwyr iechyd proffesiynol i ddarparu gwasanaethau iechyd eilaidd i bobl dan 65 oed sy'n dioddef o gyflwr iechyd meddwl a'r bobl sy'n gofalu amdanyn nhw.

Gwasanaethau Camddefnyddio Sylweddau

Mae Gwasanaethau Camddefnyddio Sylweddau yn gweithio â gweithwyr proffesiynol ym maes Iechyd i ddarparu gwasanaethau i bobl sy'n camddefnyddio cyffuriau anghyfreithlon, alcohol, sylweddau anweddol (fel aerosolau a glud) a meddyginiaeth ar bresgripsiwn neu feddyginiaeth dros y cownter.

Gwasanaeth   Addasu ac Offer Cymunedol

Mae modd i'r Gwasanaeth Addasu ac Offer Cymunedol argymell newidiadau i gartrefi pobl. Mae modd iddyn nhw asesu eich angen am unrhyw gymhorthion a chyfarpar a allai fod ar gael i wneud tasgau bob dydd yn haws i chi ac unrhyw un sy'n eich cefnogi, e.e. ymolchi a gwisgo.

Cynllun   Cynnal y Cynhalwyr

Mae Cynllun Cynnal y Cynhalwyr Rhondda Cynon Taf yn darparu gwybodaeth a chymorth ar gyfer Cynhalwyr sy'n byw yn RhCT. Mae'r prosiect hefyd yn cydlynu gwasanaeth cwnsela am ddim i gynhalwyr.

Gwasanaeth   Awtistiaeth Integredig Cwm Taf

Mae'r Gwasanaeth Awtistiaeth Integredig yn darparu asesiad a chymorth diagnostig i blant ac oedolion ag awtistiaeth a'u teuluoedd a'u cynhalwyr sy'n byw yn Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful. Maen nhw hefyd yn cynnig cymorth am gydweithio, ymgynghori, hyfforddiant a chynghori i weithwyr proffesiynol eraill.

Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yw'r brif ddeddfwriaeth sy'n ein cefnogi wrth ddarparu ein gwasanaethau. Mae'n rhoi'r bobl sydd angen cyngor, cymorth, gofal a chefnogaeth wrth wraidd yr hyn rydyn ni'n ei wneud.

2.  Pa fath o wybodaeth bersonol ydyn ni'n ei chadw ac am bwy?

Rydyn ni'n cadw gwybodaeth am bobl sydd wedi derbyn gofal a chymorth wrthyn ni yn y gorffennol ac sy'n derbyn y gwasanaethau yma ar hyn o bryd. Rydyn ni'n cyfeirio at y bobl yma fel ein 'defnyddwyr gwasanaeth'. O ystyried yr ystod eang o wasanaethau rydyn ni'n eu darparu, mae modd i'r defnyddwyr yma fod yn oedolion, plant, pobl ifanc a'u teuluoedd.

Bydd y mathau o wybodaeth rydyn ni'n eu dal a'u prosesu am ein defnyddwyr gwasanaeth yn amrywio yn dibynnu ar y gofal a'r gefnogaeth maen nhw'n eu cael wrthyn ni. Fel arfer, bydd hyn yn cynnwys gwybodaeth am eu hanghenion a'u hamgylchiadau personol, yn ogystal ag arsylwadau proffesiynol a barn staff gofal cymdeithasol a gweithwyr proffesiynol eraill sy'n ymwneud â'u gofal. 

Bydd yr wybodaeth rydyn ni'n ei dal yn dibynnu ar eich amgylchiadau personol, y gwasanaethau sy'n cael eu darparu i chi ac a ydych chi'n oedolyn neu'n blentyn. Os ydych chi'n derbyn gofal a chymorth wrthyn ni, mae eich cofnod gofal cymdeithasol yn debygol o gynnwys yr holl wybodaeth ganlynol neu peth o'r wybodaeth ganlynol:

  • Eich manylion personol (enw, cyfeiriad, cyfeiriad blaenorol, dyddiad geni, statws priodasol).
  • Eich nodweddion, fel eich rhyw, ethnigrwydd, anabledd, eich dewis iaith a'ch credoau diwylliannol, ysbrydol a chrefyddol mae'n rhaid eu parchu.
  • Gwybodaeth am aelodau eraill eich cartref.
  • Manylion eich statws cyfreithiol a dogfennau i gefnogi (e.e. dogfennau mewnfudo, pŵer atwrnai ac ati).
  • Enwau a manylion cyswllt perthnasau agos, ffrindiau a / neu gynhalwyr sy'n bwysig i chi ac rydych chi wedi dweud wrthyn ni i gysylltu â nhw os oes angen cymorth arnoch chi neu i gynnig cefnogaeth mewn argyfwng*.
  • Gwybodaeth am eich cartref (math, cynllun, manylion larymau tân, ac ati) ac os yw'n diwallu'ch anghenion chi a'ch teulu.
  • Copi o'ch asesiadau anghenion, cynllun gofal, a chofnod o'r gwasanaethau sy wedi'u trefnu neu eu darparu i chi.
  • Manylion am eich anghenion ym mhob rhan o'ch bywyd (e.e. gofal personol, bwyta, yfed, tasgau ymarferol, lles corfforol ac emosiynol, rhianta).
  • Manylion unrhyw anghenion cyfathrebu (e.e. os oes angen cyfieithydd arnoch chi).
  • Manylion unrhyw risgiau iechyd a diogelwch sy'n gysylltiedig â chwrdd â'ch anghenion gofal a chymorth
  • Eich hanes meddygol a manylion unrhyw ddiagnosis.
  • Manylion am wasanaethau iechyd, gofal cymdeithasol neu wasanaethau eraill rydych chi'n eu cael gan weithwyr proffesiynol eraill e.e. copi o unrhyw adroddiadau neu asesiadau.
  • Manylion unrhyw gymhorthion neu addasiadau.
  • Copïau o lythyrau, negeseuon e-bost ac adroddiadau sy wedi'u hanfon atoch chi neu rydych wedi eu hanfon aton ni.
  • Cynlluniau Gofal a Chymorth sy'n nodi'r gwasanaethau rydych chi'n eu derbyn gan unrhyw unigolion neu ddarparwyr gofal a chymorth.
  • Adroddiadau am unrhyw ddamweiniau neu ddigwyddiadau a allai fod wedi digwydd wrth ddarparu unrhyw wasanaeth rydych chi'n ei dderbyn.
  • Manylion am eich amgylchiadau ariannol.

*Nodwch: "Lle rydych chi wedi rhoi data personol i ni am unigolion eraill, fel aelodau o'r teulu neu unigolion eraill y dylwn ni gysylltu â nhw mewn argyfwng, sicrhewch fod yr unigolion hynny yn effro i'r wybodaeth sy wedi'i chynnwys yn yr hysbysiad yma."

3.    O ble mae'r gwasanaeth yn cael fy ngwybodaeth?

Yn gyffredinol, byddwn ni'n derbyn gwybodaeth amdanoch chi gan y ffynonellau canlynol:

  • Chi - er enghraifft pan fyddwn ni'n cynnal asesiad neu yn gofyn i chi lenwi ffurflen.
  • Teulu, ffrindiau neu gynhalwyr. Er enghraifft, os ydyn nhw'n eich atgyfeirio chi aton ni neu os oes angen i ni weithio gyda nhw i drefnu gwasanaethau gofal a chymorth ychwanegol ar eich rhan.
  • Ein sylwadau a'n profiadau o weithio gyda chi. Er enghraifft, pan fyddwn ni'n asesu eich anghenion a pharatoi'ch cynllun gofal.
    • Gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol eraill sy'n eich cefnogi ac sy'n rhan o'ch gofal. Mae modd i hyn gynnwys
    • Meddyg Teulu
    • Ymgynghorydd Ysbyty
    • Nyrs Ardal
    • Ffisiotherapydd
    • Nyrs Iechyd Meddwl Cymunedol
    • Dietegydd
    • Optegydd

Efallai byddwn ni hefyd yn gofyn am wybodaeth gan asiantaethau a sefydliadau trydydd parti dibynadwy sy'n darparu gwasanaethau i chi. Er enghraifft, darparwyr gofal cartref annibynnol fel Allied, Care Cymru, Hafod Care, Mears, Radis ac ati.

Mae rhagor o wybodaeth am y sefydliadau a'r asiantaethau rydyn ni'n gweithio'n agos â nhw i'w gweld isod. 

4. Beth fyddwn ni'n ei wneud gyda'ch gwybodaeth bersonol?

Byddwn ni'n defnyddio'r wybodaeth rydych chi a phobl eraill wedi ei rhannu gyda ni er mwyn:

  • Gwneud asesiad o'ch anghenion:
  • Prosesu eich atgyfeiriad am ofal a chymorth.
  • Gwneud asesiad o'ch anghenion personol.
  • Nodi'ch anghenion a datblygu eich cynllun gofal a chymorth.
  • Adolygu eich anghenion yn rheolaidd.
  • Trefnu gwasanaethau gofal a chymorth fel sy wedi'u nodi yn eich cynllun gofal a chymorth:
  • Gweithio gyda gwasanaethau eraill y Cyngor a sefydliadau partner i drefnu'r gofal a'r gefnogaeth sydd eu hangen arnoch chi.
  • Comisiynu unrhyw wasanaethau gofal a chymorth trydydd parti sydd eu hangen.
  • Trefnu mynediad i gartref gofal (e.e. yn barhaol neu ar gyfer seibiant) (lle bo angen).
  • Cyfrifo unrhyw gyfraniad y mae'n bosibl y bydd rhaid i chi ei wneud tuag at gost unrhyw wasanaethau rydych chi'n eu derbyn.
  • Adolygu eich cynnydd yn rheolaidd ac adrodd ar ganlyniad unrhyw wasanaethau rydych chi'n eu derbyn.
  •  Cynnal cofrestrau statudol y mae'n ofynnol i ni ei wneud yn ôl y gyfraith er enghraifft y Gofrestr Amddiffyn Plant.
  • Eich diogelu chi neu eraill rhag unrhyw niwed, esgeulustod a chamdriniaeth. Er enghraifft, ymchwilio i unrhyw gam-drin neu niwed honedig sy wedi'u hachosi i unrhyw oedolyn, plentyn neu berson ifanc.
  • Ymchwilio i unrhyw bryder neu gŵyn sy'n dod i'r amlwg.
  • Diogelu'ch 'buddiannau hanfodol' os na fydd gyda chi'r gallu yn gorfforol neu'n feddyliol i gytuno i unrhyw gamau rydyn ni'n credu sydd angen eu cymryd er eich budd chi.

 Byddwn ni hefyd yn defnyddio'r wybodaeth yma i baratoi gwybodaeth reoli ac adroddiadau i'n helpu i wella ein gwasanaethau a sicrhau ein bod yn rhedeg ein gwasanaethau'n iawn. Yn nodweddiadol, bydd yr adroddiadau yma yn cynnwys ffeithiau a ffigurau ac ni fyddan nhw'n cynnwys unrhyw wybodaeth sy'n ei wneud yn bosib i'ch adnabod chi, ond efallai byddwn ni'n defnyddio gwybodaeth bersonol i baratoi'r ffigurau yma. Dyma enghreifftiau o'r ffyrdd y mae modd i ni ddefnyddio gwybodaeth i fonitro a gwella gwasanaethau:

  • Asesu a yw'r gwasanaethau rydyn ni'n eu darparu yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl leol.
  • Deall sut mae anghenion pobl yn newid fel bod modd i ni gynllunio gwasanaethau priodol ar gyfer y dyfodol i fodloni'r anghenion yma.
  • Adrodd ar ein safon o ran darparu gwasanaethau er enghraifft i Lywodraeth Cymru.
  • Ein helpu ni i nodi pa hyfforddiant a datblygiad sydd eu hangen ar ein gweithlu i fodloni'r galw wrth ein defnyddwyr gwasanaeth.
  • Cadw golwg ar wariant a chyllidebau ar lefel leol, ranbarthol a chenedlaethol.
  • Adrodd am weithgareddau i gydymffurfio â gofynion cyllido allanol.
  • Cymryd rhan mewn gweithgareddau meincnodi cenedlaethol a lleol.
  • Monitro ansawdd a chost y gofal a'r cymorth rydyn ni a'n partneriaid yn eu rhoi i chi.
  • Comisiynu gwybodaeth a chyngor a / neu wasanaethau gofal a chymorth.
  • Cyflawni gwaith ymchwil i ddeall sut mae anghenion pobl efallai yn newid ac at ddibenion ystadegol i ddeall a oes cynnydd neu ostyngiad yn nifer y bobl sy'n derbyn y gwasanaethau rydyn ni'n eu cynnig.

 

Rhannu gwybodaeth â Llywodraeth Cymru, Swyddfa Archwilio Cymru ac Arolygiaeth Gofal Cymru

  • Nodwch ein bod ni hefyd yn rhannu rhywfaint o'ch gwybodaeth bersonol â nifer o asiantaethau'r llywodraeth, naill ai fesul achos neu'n flynyddol er mwyn eu helpu gyda chynllunio ac ymchwil i wella gwasanaethau yng Nghymru. 
  • Mae peth o’r wybodaeth rydyn ni'n ei rhannu yn cynnwys eich gwybodaeth bersonol, er enghraifft, eich enw, dyddiad geni, cyfeiriad, rhywedd, grŵp ethnig, statws anabledd a gwybodaeth am eich anghenion a'ch addysg.
  • Bydd gwybodaeth ond yn cael ei hanfon drwy gysylltiad diogel a bydd ond modd cael mynediad at yr wybodaeth mewn lleoliadau diogel sydd wedi’u cymeradwyo. Fydd data ddim yn cael ei rannu trwy gysylltiad e-bost agored safonol na thrwy ddulliau post safonol.  
  • Bydd gwybodaeth ond yn cael ei rhannu mewn modd cyfreithlon o dan Erthygl (6e) fel tasg sy'n cael ei gwneud er budd y cyhoedd ac o dan Erthygl (9j) at ddibenion ystadegol ac ymchwil i gefnogi busnes swyddogol.
  • Bydd y sefydliadau yma'n cadw data cyhyd â'i fod yn parhau i fod yn ddefnyddiol at ddibenion ymchwil.

Bydd y ddolen ganlynol yn mynd â chi at wefan Llywodraeth Cymru a'i Hysbysiad Preifatrwydd. https://gov.wales/statistics-and-research/local-authority-social-services-data-collections/?skip=1&lang=cy

5.  Beth ydy'r sail gyfreithiol o ran defnyddio'r wybodaeth yma?

Mae cyfraith Diogelu Data yn dweud ein bod yn gallu defnyddio a rhannu gwybodaeth bersonol dim ond lle mae gyda ni resymau priodol a chyfreithlon dros wneud hynny.

Ein sail gyfreithiol ar gyfer prosesu gwybodaeth bersonol er mwyn darparu'r gwasanaethau gofal a chymorth sy wedi'u rhestru uchod yw:

  • Cydymffurfio â'n rhwymedigaethau cyfreithiol, er enghraifft, dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a'i chanllawiau statudol cysylltiedig.
  • Cydymffurfio â'n rhwymedigaethau statudol / swyddogaethau swyddogol (tasg gyhoeddus).

Ein sail gyfreithiol ar gyfer gwybodaeth fwy sensitif (h.y. gwybodaeth categori arbennig am hil, tarddiad ethnig, gwleidyddiaeth, crefydd, aelodaeth undeb llafur, geneteg, biometreg, iechyd, bywyd neu duedd rywiol) yw:

  • Cyflawni ein dyletswyddau statudol o dan gyfraith diogelu cymdeithasol.
  • Cefnogi gwaith darparu meddygaeth ataliol neu alwedigaethol, diagnosis meddygol, darparu triniaeth iechyd neu ofal cymdeithasol neu reoli systemau a gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. 

Yn ogystal â'n dyletswyddau statudol, efallai byddwn ni hefyd yn dibynnu ar un neu fwy o'r amodau canlynol fel sail gyfreithiol ar gyfer prosesu eich gwybodaeth bersonol. Mae hyn yn dibynnu ar eich anghenion penodol ac unrhyw amgylchiadau mae modd iddyn nhw godi wrth ddarparu gwasanaethau gofal a chymorth i chi: 

Gwybodaeth Bersonol

  • Pan fydd angen am resymau cytundebol - er enghraifft, os ydych chi'n symud i gartref gofal preswyl parhaol, byddech chi'n ymrwymo i gytundeb gyda ni. Bydd eich gwybodaeth bersonol yn cael ei phrosesu er mwyn cyflawni ein rhwymedigaethau i chi o dan y cytundeb hwnnw.
  • Er mwyn diogelu buddiannau hanfodol person - er enghraifft, mewn argyfwng, os nad oes gyda chi'r gallu yn gorfforol neu'n feddyliol i gytuno ar gamau gweithredu neu driniaeth i'ch diogelu chi neu rywun arall, mae modd i ni wneud hyn ar eich rhan.
  • Pan fydd angen eich caniatâd arnon ni - mewn achosion lle nad oes gyda ni bwerau cyfreithiol neu ddyletswyddau statudol i ddefnyddio'ch gwybodaeth bersonol, mae'n bosibl y bydd angen eich caniatâd arnon ni.

Gwybodaeth Categori Arbennig

  • Er mwyn diogelu buddiannau hanfodol person (fel sy wedi'u disgrifio uchod)
  • At ddibenion cyfreithiol - er enghraifft, lle rydyn ni'n gwneud neu'n amddiffyn hawliad cyfreithiol neu'n gwneud gorchymyn i'r llys (er enghraifft gorchymyn y Llys Gwarchod).
  • At ddibenion iechyd y cyhoedd fel amddiffyn rhag bygythiadau difrifol i iechyd ac ati.

6. Ydy'r gwasanaeth yn rhannu fy ngwybodaeth bersonol ag unrhyw sefydliad arall?

Er mwyn darparu ein gwasanaethau, rydyn ni'n gweithio'n agos iawn gyda nifer o weithwyr proffesiynol a sefydliadau dibynadwy i sicrhau ein bod yn diwallu anghenion unigolion. Mae hyn yn cynnwys sefydliadau fel iechyd, addysg, tai, gwasanaethau ieuenctid, grwpiau sector gwirfoddol a phreifat ac eraill.

Er mwyn darparu'r gwasanaeth gorau posibl i chi a bodloni'ch anghenion personol fel sy wedi'u nodi yn eich cynllun gofal a chymorth, efallai byddwn ni'n rhannu eich gwybodaeth gydag ystod o sefydliadau a gweithwyr proffesiynol sy'n ein helpu i fodloni'ch anghenion. Mae'n hanfodol i ni rannu gwybodaeth yn y modd yma i gyflwyno ein gwasanaethau i chi. Dyma rai enghreifftiau o'r gwasanaethau a'r sefydliadau y mae modd i ni rannu eich gwybodaeth gyda nhw:

Enghreifftiau o Wasanaethau Mewnol y Cyngor:

Gwasanaeth

Enghraifft o   pam y bydd angen i ni weithio gyda'r gwasanaeth yma i gefnogi eich anghenion   neu roi gofal i chi.

Ysgolion a   Gwasanaethau Addysg

 

Sicrhau bod plant yn mynychu'r ysgol a'u bod yn derbyn y gefnogaeth sydd ei hangen arnyn nhw tra eu bod nhw yn yr ysgol.

Gwasanaethau   Tai

 

I wneud cais am grantiau i ariannu unrhyw addasiadau sydd eu hangen i gynyddu annibyniaeth rhywun yn y cartref neu wneud eu cartref yn fwy hygyrch.

 

Gwasanaeth   Budd-dal Tai

 

Sicrhau bod teuluoedd sydd ag incwm isel yn derbyn y budd-daliadau mae gyda nhw hawl iddyn nhw, fel taliadau tai dewisol a gostyngiad Treth y Cyngor ac ati.

 

Gwasanaethau'r   Priffyrdd

Rydyn ni'n cydweithio'n agos â Gwasanaethau'r Priffyrdd i asesu pob cais am fae parcio i bobl anabl.

 

Gwasanaethau   Cyfreithiol

 

Rydyn ni'n gweithio'n agos gyda'r Gwasanaethau Cyfreithiol ar faterion yn ymwneud ag Amddiffyn Plant i baratoi achos i'r llys neu i baratoi cais i'r Llys Gwarchod ar gyfer oedolyn sy ddim gallu gwneud penderfyniadau drosto ef / drosti hi ei hun.

Gwasanaethau   Hamdden

 

Rydyn ni'n gweithio gyda'r Gwasanaethau Hamdden i sicrhau bod gan bobl fynediad at wasanaethau a all gynyddu eu hannibyniaeth a'r nifer o weithgareddau maen nhw'n cymryd rhan ynddyn nhw.

 

Gwasanaeth   Addasu ac Offer Cymunedol (ACE)

Asesu angen person am gymhorthion a chyfarpar a all gynyddu eu hannibyniaeth, er enghraifft yn y cartref. 

Gwasanaeth   Cyllid Cleientiaid

 

Rydyn ni'n gweithio'n agos gyda'r garfan yma i gyfrifo faint y mae'n bosib y bydd rhaid i oedolion ei dalu tuag at gost y gwasanaethau maen nhw'n eu derbyn.

 

Carfan   Gwasanaethau Oriau Dydd

Trefnu mynediad at gyfleoedd yn ystod y dydd sy'n darparu sgiliau a phrofiadau newydd a'r cyfle i gyfarfod â phobl eraill, yn ogystal â darparu seibiant i ofalwyr a'r rhai sy'n mynychu.

 

Carfanau   Gofal Preswyl Oedolion

Rydyn ni'n gweithio gyda Gwasanaethau Gofal Preswyl i ddarparu llety a chymorth i oedolion sy'n ei chael hi'n anodd gofalu amdanyn nhw eu hunain yn y cartref, efallai oherwydd salwch diweddar, neu oherwydd eu bod yn mynd yn fwy gwan.

 

Carfanau   Gofal Preswyl Plant

Rydyn ni'n cydweithio'n agos â'r gwasanaethau yma i sicrhau bod plant sydd ddim yn gallu byw yn eu cartref teuluol yn cael cyfle i fyw mewn lleoliad sy'n ddiogel ac sy'n bodloni eu hanghenion.

 

Carfan   Cwynion

Rydyn ni'n gweithio'n agos gyda'r garfan yma i ymchwilio i unrhyw gŵyn sy'n cael ei gwneud am y gofal a'r gefnogaeth y mae pobl wedi'u derbyn, ac adrodd ar y cwynion yma.

 

Carfanau   Gwifren Achub Bywyd a Theleofal (Telecare)

 

Rydyn ni'n gweithio'n agos gyda'r garfan yma i gefnogi gwaith gosod offer Gwifren Achub Bywyd a Theleofal i wella diogelwch pobl yn y cartref.

Gwasanaethau   Camddefnyddio Sylweddau

Rydyn ni'n gweithio gydag asiantaethau arbenigol y Sector Gwirfoddol a Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf i ddarparu cyngor, arweiniad, triniaeth a chymorth i unigolion sy wedi cael eu heffeithio oherwydd eu bod nhw neu rywun arall wedi camddefnyddio sylweddau. 

Dyma enghreifftiau o sefydliadau allanol, asiantaethau a phartneriaid dibynadwy sy'n ein helpu i reoli'ch anghenion iechyd a gofal cymdeithasol a darparu gwasanaethau i wella eich iechyd a'ch lles:

Sefydliad /   asiantaeth

Enghraifft o   pam y bydd angen i ni weithio gyda'r sefydliad / asiantaeth yma i gefnogi   eich anghenion neu roi gofal i chi.

Meddygon Teulu  

Efallai byddwn ni'n rhannu gwybodaeth ein defnyddwyr gwasanaeth gyda'u meddyg teulu i wneud apwyntiad ar eu rhan.

 

Nyrsys Cymunedol

Efallai byddwn ni'n rhannu gwybodaeth ein defnyddwyr gwasanaeth gyda Nyrsys Cymunedol i adrodd am bryderon iechyd a gofyn iddyn nhw alw i helpu gydag anghenion ein defnyddwyr gwasanaeth.

 

Gwasanaethau Iechyd

Efallai byddwn ni'n rhannu gwybodaeth gyda nifer o wasanaethau iechyd sy'n cefnogi ein defnyddwyr gwasanaeth i'w helpu i reoli unrhyw gyflyrau iechyd sydd gyda nhw.

 

Darparwyr Gofal a Chymorth  

Rydyn ni'n comisiynu cwmnïau i ddarparu gwasanaethau gofal a chymorth i bobl yn eu cartrefi eu hunain. Rydyn ni'n rhannu gwybodaeth am gynllun gofal a chymorth defnyddwyr gwasanaeth gyda'r darparwyr fel bod modd iddyn nhw fodloni anghenion gofal a chymorth pobl.

 

Gwasanaethau Gofal Dydd a Chymorth Cymunedol.

 

Rydyn ni'n gweithio gyda Gwasanaethau Gofal Dydd a Chymorth Cymunedol i sicrhau bod gyda nhw'r wybodaeth sydd ei hangen arnyn nhw i ddarparu gwasanaethau diogel a phriodol sy'n diwallu anghenion gofal a chymorth pobl. 

Gwasanaethau   Preswyl

Rydyn ni'n rhannu gwybodaeth gyda darparwyr Gofal Preswyl preifat wrth ddod o hyd i lety tymor byr a hirdymor i'n defnyddwyr gwasanaeth.

 

Gwasanaethau   Cyngor ar Faterion Tai.

 

Rydyn ni'n gwneud atgyfeiriadau i'w Gwasanaethau Cyngor ar Faterion Tai fel bod modd i'n defnyddwyr gwasanaeth gael cymorth, cyngor a   gwybodaeth i'w helpu i reoli eu hanghenion tai, atal digartrefedd a gwneud dewisiadau gwybodus i wella eu hiechyd a'u lles. 

Landlordiaid

Efallai byddwn ni'n gweithio gyda Landlordiaid i sicrhau eu bod yn deall bod gan eu Tenant anghenion ychwanegol a sicrhau bod y cartref yn ddiogel ac yn addas i fodloni eu hanghenion. 

Gwasanaethau Cyflogaeth

Efallai byddwn ni'n gwneud atgyfeiriadau at wasanaethau cyflogaeth fel Gyrfa Cymru, Canolfan Byd Gwaith ac ati, a gweithio gyda'r sefydliadau yma, fel bod gan ddefnyddwyr gwasanaeth fynediad i gymorth, cyngor a gwybodaeth a chyfleoedd i gael gwaith a hyfforddiant.

 

Gwasanaethau   Cludiant Cymunedol

 

Rydyn ni'n gweithio gyda gwasanaethau cludiant cymunedol fel Travol i sicrhau bod pobl yn cael mynediad at gludiant wedi'i addasu i'w helpu i gysylltu â'r gymuned ehangach mewn modd mor annibynnol â phosib. 

Gwasanaethau   Cam-drin yn y Cartref

 

Rydyn ni'n gweithio gydag arbenigwyr cam-drin yn y cartref fel 'Canolfan Oasis' fel bod modd i bobl gael gafael ar yr wybodaeth a'r cyngor efallai bydd eu hangen arnyn nhw i atal neu leihau'r risg o gam-drin yn y cartref. Efallai bydd gwybodaeth hefyd yn cael ei rhannu gyda'r Gynhadledd Asesu Risg Amlasiantaethol pan fydd pobl wedi cael eu hasesu fel   dioddefwyr cam-drin yn y cartref â risg uchel. 

Gwasanaeth   Estyn Cyngor i Gynhalwyr

Mae'r Cynllun Cynnal y Cynhalwyr yn rhoi cyfle i gynhalwyr siarad â chynghorydd annibynnol sydd wedi'i hyfforddi ac sy'n darparu'r gwasanaeth cwnsela i oedolion yn RhCT sy'n cyflawni rôl cynhaliwr.

Awdurdodau   Lleol eraill

 

Efallai byddwn ni'n gweithio gyda Chynghorau eraill lle mae defnyddiwr gwasanaeth wedi symud o ardal arall neu lle mae defnyddiwr gwasanaeth yn symud i ardal arall. Rydyn ni'n gwneud hyn i sicrhau bod y symud mor esmwyth â phosibl a bod trefniadau gofal ar waith yn y cartref newydd.

Cyngor ar   Bopeth

Efallai  byddwn ni'n gweithio gyda'r sefydliad yma i sicrhau eich bod chi'n cael cyngor annibynnol ar fudd-daliadau lles ac ystod o faterion eraill i'ch helpu i wneud penderfyniadau gwybodus.

Gwasanaethau   Eiriolaeth

Rydyn ni'n gweithio gyda gwasanaethau eiriolaeth i ddarparu llais i blant ac oedolion sydd, efallai oherwydd eu hoedran, anabledd neu amgylchiadau ariannol neu gymdeithasol, angen cymorth i wneud dewisiadau a phenderfyniadau gwybodus. 

Ar gyfer y mwyafrif helaeth o'r gwasanaethau rydyn ni'n eu darparu, nid oes angen eich caniatâd arnon ni i rannu eich gwybodaeth bersonol gyda'r sefydliadau yma. Mae hyn oherwydd bod gyda ni rwymedigaeth gyfreithiol dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 i gydweithio'n agos â gwasanaethau a sefydliadau eraill i roi'r gofal a'r cymorth gorau posib i chi.

Proseswyr data:

 Mae prosesydd data yn gwmni neu sefydliad sy'n darparu gwasanaeth i ni ac yn prosesu data personol ar ein rhan. Dyma'r categorïau o broseswyr data rydyn ni'n eu defnyddio;

  • Darparwyr Systemau TG

 Mae ein proseswyr data yn gweithredu ar ein cyfarwyddyd ni yn unig - does dim modd iddyn nhw wneud unrhyw beth gyda'ch data personol oni bai ein bod ni wedi eu cyfarwyddo i wneud hynny. Fyddan nhw ddim yn rhannu eich gwybodaeth bersonol ag unrhyw sefydliad ar wahân i ni nac yn ei defnyddio at eu dibenion eu hunain. Byddan nhw'n ei ddal yn ddiogel ac yn ei gadw am y cyfnod rydyn ni wedi'u cyfarwyddo i wneud hynny.

 

7. Am faint o amser fyddwch chi'n cadw fy ngwybodaeth?

Bydd hyn yn dibynnu ar y gwasanaethau rydych chi'n ei dderbyn wrthyn ni.

  • Am resymau cyfreithiol, rydyn ni'n cadw Cofnodion Mabwysiadu am 100 mlynedd o'r dyddiad mabwysiadu.
  • Rydyn ni'n cadw cofnodion eraill sy'n ymwneud â gofal plant tan i'r plentyn dan sylw gael ei ben-blwydd yn 75.
  • Er mwyn cefnogi ein sefydliadau mae angen cadw cofnodion sy'n ymwneud ag oedolion ag anghenion gofal a chymorth am o leiaf 7 mlynedd ar ôl i unrhyw gyswllt ag unrhyw wasanaeth gofal cymdeithasol ddod i ben. 
  • Caiff cofnodion sy'n ymwneud ag oedolion ag anghenion iechyd meddwl neu anghenion camddefnyddio sylweddau eu cadw am o leiaf 10 mlynedd ar ôl i unrhyw gyswllt ag unrhyw wasanaeth gofal cymdeithasol ddod i ben.

8.  Eich gwybodaeth, eich hawliau

Mae'r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) yn rhoi hawliau pwysig i chi, gan gynnwys yr hawl i gael gweld yr wybodaeth bersonol mae'r gwasanaethau yn ei chadw amdanoch chi.

Edrychwch ar fanylion pellach am eich hawliau gwybodaeth a sut i'w defnyddio nhw  

9.    Cysylltu â ni

Os oes gyda chi unrhyw bryderon neu os ydych chi eisiau rhagor o wybodaeth am sut mae'r gwasanaeth yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol, cysylltwch â ni gan ddefnyddio un o'r dulliau isod:

E-bost: gwrando.cwynion@rhondda-cynon-taf.gov.uk

Ffôn: 01443 425003

Drwy lythyr: Carfan Gwella Gwasanaeth a Chwynion

       Tŷ Elái

     Dwyrain Dinas Isaf,

     Trewiliam,

     Tonypandy.

     CF40 1NY