Skip to main content

Teledu Cylch Cyfyng Mewn Sefydliadau Ledled Rhondda Cynon Taf

Sut rydyn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth bersonol at ddibenion teledu cylch cyfyng mewn sefydliadau ledled Rhondda Cynon Taf.  

Mae'r Cyngor yn darparu gwasanaethau ar gyfer cymunedau lleol a'r bobl sy'n byw ynddyn nhw.  Mae cynnal y gwaith yma'n golygu bod rhaid i ni gasglu a defnyddio gwybodaeth am y bobl rydyn ni'n darparu gwasanaethau ar eu cyfer nhw a chadw cofnod o'r gwasanaethau yma. O ganlyniad i gasglu a defnyddio gwybodaeth bersonol am unigolion, mae rhaid i ni sicrhau eu bod nhw'n gwybod beth yw ein bwriad o ran defnyddio a rhannu eu gwybodaeth. 

Rydyn ni wedi crynhoi yn yr hysbysiad preifatrwydd yma rai o'r ffyrdd allweddol mae sefydliadau ledled Rhondda Cynon Taf yn defnyddio gwybodaeth bersonol at ddibenion teledu cylch cyfyng. Dylech chi ddarllen yr wybodaeth yma yn ogystal â hysbysiad preifatrwydd corfforaethol y Cyngor.

1. Pwy ydyn ni, beth rydyn ni'n ei wneud.

Drwy gydol Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, mae nifer o sefydliadau wedi gosod teledu cylch cyfyng y tu mewn a/neu'r tu allan i'w hadeiladau/safleoedd, sy'n cael ei reoli gan Swyddog Cyngor Cyfrifol y safleoedd hynny. 

Sylwch dyw hyn ddim yn cynnwys lleoedd cyhoeddus, megis canol trefi, er enghraifft. Mae'r Hysbysiad Preifatrwydd yma'n ymwneud â sefydliadau/safleoedd annibynnol y Cyngor sy'n gweithredu eu systemau teledu cylch cyfyng eu hunain yn annibynnol. Mae esiamplau'n cynnwys, ond dydyn nhw ddim yn gyfyngedig i:

  • Canolfannau Hamdden
  • Llyfrgelloedd
  • Canolfannau Cymuned
  • Canolfannau Oriau Dydd
  • Parciau
  • Mynwentydd
  • Caeau 3G

2.  Pa fath o wybodaeth bersonol rydyn ni'n ei chadw ac am bwy?

Os oes teledu cylch cyfyng wedi'u gosod yn adeiladau'r Cyngor, bydd yn dal delweddau o unrhyw un sydd yn yr adeilad neu o'i gwmpas, er enghraifft:

  • Aelodau o'r cyhoedd;   
  • Defnyddwyr y Gwasanaeth;
  • Aelodau Staff;
  • Ymwelwyr;
  • Cerbydau.

Mae arwyddion amlwg ar bob safle sy'n gweithredu teledu cylch cyfyng i hysbysu unrhyw un sy'n ymweld â'r sefydliad bod teledu cylch cyfyng yn cael ei ddefnyddio.


3. Beth fyddwn ni'n ei wneud gyda'ch gwybodaeth bersonol? 

Bydd y Swyddog Cyfrifol ar bob un o safleoedd y Cyngor ond yn cyrchu fideo'r teledu cylch cyfyng os bydd rheswm dilys dros wneud hynny, er enghraifft os bydd damwain, digwyddiad neu drosedd.

Fydd neb heblaw'r Swyddog Cyfrifol neu aelod arall o staff sydd wedi'i awdurdodi i wneud hynny yn cyrchu lluniau'r teledu cylch cyfyng.

4. Beth yw'r sail gyfreithiol o ran defnyddio'r wybodaeth yma?

Mae'r rhesymau dros osod teledu cylch cyfyng mewn gwahanol adeiladau ledled Rhondda Cynon Taf yn rhan o'n Tasg Gyhoeddus a/neu Fudd Cyfreithlon yn cynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i):

  • Sicrhau Iechyd a Diogelwch staff ac aelodau o'r cyhoedd
  • Atal neu ganfod trosedd
  • Cynorthwyo gydag achos cyfreithiol
  • Gweithredu fel ffordd o atal troseddau
  • Diogelu eiddo'r cyngor

5. Ydy'r gwasanaeth yn rhannu fy ngwybodaeth bersonol ag unrhyw sefydliad arall?

Dim ond mewn amgylchiadau penodol iawn y bydd lluniau'r teledu cylch cyfyng yn cael eu rhannu. Mae esiamplau'n cynnwys, ond dydyn nhw ddim yn gyfyngedig i:

  • Pan fydd cais yn dod oddi wrth yr Heddlu yn rhan o ymchwiliad i drosedd;
  • Pan fydd unigolyn yn gwneud cais gwrthrych am wybodaeth i weld lluniau ohono/ohoni'i hun. Fodd bynnag, dim ond pan fydd amodau llym wedi'u bodloni y bydd lluniau'n cael eu rhyddhau;
  • Pan fydd cwmni yswiriant wedi gofyn am y ffilm yn rhan o ymchwiliad yswiriant;
  • Lle mae ymchwiliad mewnol dilys yn parhau

6. Am faint o amser bydd fy ngwybodaeth yn cael ei chadw?

Ar gyfartaledd, mae lluniau teledu cylch cyfyng yn cael eu cadw am 31 diwrnod, ond mae modd i hyn amrywio yn dibynnu ar y safle a'r dechnoleg teledu cylch cyfyng sy'n cael ei defnyddio.

7. Eich gwybodaeth, eich hawliau

Mae'r Rheoliadau Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) yn rhoi hawliau pwysig i chi, gan gynnwys yr hawl i gael gweld yr wybodaeth bersonol mae'r gwasanaethau yn ei chadw amdanoch chi.

Cliciwch yma am ragor o wybodaeth am eich hawliau gwybodaeth a sut i'w defnyddio nhw. 

8. Cysylltu â ni

Os oes gyda chi unrhyw bryderon neu os hoffech wybod rhagor am sut mae safleoedd penodol y Cyngor yn defnyddio'ch gwybodaeth bersonol at ddibenion teledu cylch cyfyng, cysylltwch â'r safle dan sylw naill ai dros y ffôn, dros e-bost neu yn ysgrifenedig.