Skip to main content

Hysbysiad Preifatrwydd Gwasanaeth Divert 18-25

Sut mae Cynllun Divert 18-25 Cwm Taf yn defnyddio'ch gwybodaeth bersonol.

Mae'r Cyngor yn darparu gwasanaethau i gymunedau lleol a'r bobl sy'n byw ynddyn nhw. Mae cynnal y gwaith yma yn golygu bod rhaid i ni gasglu a defnyddio gwybodaeth am y bobl rydyn ni'n darparu gwasanaethau ar eu cyfer nhw a chadw cofnod o'r gwasanaethau yma. O ganlyniad i gasglu a defnyddio gwybodaeth bersonol am unigolion, mae rhaid i ni sicrhau eu bod nhw'n gwybod beth yw ein bwriad o ran defnyddio a rhannu eu gwybodaeth. 

Rydyn ni wedi crynhoi yn yr hysbysiad preifatrwydd yma rai o'r ffyrdd allweddol rydyn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth bersonol at ddibenion caffael. Dylech chi ddarllen yr wybodaeth yma yn ogystal â hysbysiad preifatrwydd corfforaethol y Cyngor.

1.    Pwy ydyn ni, beth ydyn ni'n ei wneud. 

Mae Carfan Cymunedau Diogel Rhondda Cynon Taf yn rheoli Cynllun Divert 18-25.  Mae'r Cynllun yn gweithio gyda phobl ifainc rhwng 18 a 25 oed yn ardal Cwm Taf sydd wedi cyflawni troseddau lefel isel. Nod y cynllun yma yw dargyfeirio pobl ifainc oddi wrth y System Cyfiawnder Troseddol, ac atal y person ifanc rhag cael cofnod troseddol. Bydd y cynllun yn rhoi cymorth o ran gwneud newid cadarnhaol fel nad ydyn nhw'n dod i gysylltiad â’r system cyfiawnder troseddol. 

2.    Pa fath o wybodaeth bersonol ydyn ni'n ei chadw ac am bwy? 

Rydyn ni'n cadw gwybodaeth bersonol am unigolion sydd wedi cytuno i gymryd rhan yng Nghynllun Divert 18-25. Mae'r wybodaeth rydyn ni'n ei chadw yn cynnwys:  

  • Enw
  • Cyfeiriad   
  • Dyddiad Geni
  • Rhif ffôn   
  • Manylion yr arestiad
  • Unrhyw wybodaeth arall y mae'r unigolyn yn ei datgelu i ni

3.    O ble mae'r gwasanaeth yn cael fy ngwybodaeth? 

Mae’r wybodaeth rydyn ni’n ei chadw yn dod o ffurflen atgyfeirio sy'n cael ei llenwi gan Heddlu De Cymru, ac o’r unigolyn ei hun.

4.    Beth fyddwn ni'n ei wneud gyda'ch gwybodaeth bersonol? 

Byddwn ni'n defnyddio'r wybodaeth yma i’w rhannu â sefydliadau partner a llunio cynllun cymorth addas sy'n bodloni anghenion yr unigolyn. Byddwn ni ond yn rhannu'r wybodaeth os oes gyda ni ganiatâd yr unigolyn ymlaen llaw.  

5.    Beth ydy'r sail gyfreithiol o ran defnyddio'r wybodaeth yma?  

Mae deddf Diogelu Data yn dweud ein bod ni ond yn gallu defnyddio a rhannu gwybodaeth bersonol os oes gyda ni reswm priodol a chyfreithlon dros wneud hynny.

Byddwn ni ond yn prosesu'ch gwybodaeth os ydyn ni wedi derbyn eich caniatâd i wneud hynny.

6.    Ydy'r gwasanaeth yn rhannu fy ngwybodaeth bersonol ag unrhyw sefydliad arall? 

Bydd staff hyfforddedig Divert 18-25 yn cynnal asesiad cyfannol er mwyn nodi unrhyw anghenion penodol sydd gyda chi. Byddwn ni'n creu cynllun cymorth penodol sy'n bodloni'ch anghenion penodol chi. Bydd eich gwybodaeth yn cael ei rhannu gyda sefydliadau partner sydd â'r gallu i fodloni'ch anghenion, e.e. anghenion cyflogaeth, anghenion camdrin sylweddau ac anghenion iechyd. Mae ein   sefydliadau partner yn cynnwys (ond heb eu cyfyngu i):

  •   Heddlu De Cymru
  •   Hwb Diogelu Amlasiantaeth  
  •   Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol  
  •   Cwmni Adsefydlu Cymunedol
  •   y tu allan i oriau'r swyddfa  
  •   Gwasanaeth Iechyd Gwladol
  •   Cymorth i Fenywod  
  •   Canolfan Oasis - Pontypridd
  •   Mind / New Horizons  
  •   Llinell Gymorth Iechyd Meddwl
  •   Y Ganolfan Cyngor ar Faterion Tai  
  •   Trivallis
  •   Canolfan Byd Gwaith  
  •   Cymunedau am Waith
  •   Gwasanaethau Triniaeth ac Addysg Cyffuriau (‘TEDS’)
  •   Drugaid  
  •   Gwasanaethau i bobl sy’n gaeth i gamblo

Byddwn ni ond yn rhannu gwybodaeth os oes gyda ni ganiatâd yr unigolyn ymlaen llaw.

7.    Am faint o amser fydd y gwasanaeth yn cadw fy ngwybodaeth?

Byddwn ni'n cadw'ch gwybodaeth am 12 mis ar ôl i chi gyflawi'r cynllun yma oherwydd bod rhaid i ni fonitro cyfraddau aildroseddu. 

8.    Eich gwybodaeth, eich hawliau

Mae'r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) yn rhoi hawliau pwysig i chi, gan gynnwys yr hawl i gael gweld yr wybodaeth bersonol mae'r gwasanaethau yn ei chadw amdanoch chi.

Edrychwch ar ragor o wybodaeth am eich hawliau gwybodaeth a sut i'w defnyddio nhw.

9.    Cysylltwch â ni

Os oes gyda chi unrhyw bryderon neu os ydych chi eisiau rhagor o wybodaeth am sut mae'r gwasanaeth yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol, cysylltwch â ni gan ddefnyddio un o'r dulliau isod:

E-bost : cymunedaudiogel@rctcbc.gov.uk

Ffôn : 01443 425001

Trwy lythyr : Cymunedau Diogel RhCT, Tŷ Elái, Dwyrain Dinas Isaf, Trewiliam, Tonypandy, CF40 1NY