Skip to main content

Hysbysiad Preifatrwydd Cam-drin yn y Cartref

Hysbysiad Preifatrwydd yn ymwneud â phrosesu data gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf at ddiben y Gwasanaeth Cymorth Cam-drin Domestig (Ymgynghorydd Trais Domestig Annibynnol a Gwasanaeth Cymorth Galw Heibio).

Cyflwyniad

Bwriad yr hysbysiad preifatrwydd yma yw darparu gwybodaeth am sut y bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (cyfeirir ato fel 'Cyngor Rhondda Cynon Taf', 'y Cyngor', 'Awdurdod Lleol', 'ni') yn defnyddio (neu 'brosesu') data personol am unigolion at ddibenion darparu gwasanaethau cam-drin domestig.

Dylech chi ddarllen yr hysbysiad yma yn ogystal â:

  • Hysbysiad preifatrwydd corfforaethol y Cyngor
  • Datganiad Cyfrinachedd Uned Materion Diogelwch Pontypridd

Y Rheolwr Data

Y Cyngor yw'r rheolwr data ar gyfer y data personol a gaiff eu prosesu at ddibenion gwasanaeth cam-drin domestig.

Mae'r Cyngor wedi'i gofrestru gyda Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth fel rheolwr. Ei gyfeirnod yw Z4870100.

Ymholiadau yn ymwneud â'r hysbysiad preifatrwydd yma

Os oes gyda chi unrhyw gwestiynau neu ymholiadau yn ymwneud â'r hysbysiad preifatrwydd yma, cysylltwch ag Uned Materion Diogelwch Pontypridd.

Anfon e-bost: UnedDiogelwchPontypridd@rctcbc.gov.uk

Ffonio: 01443 400791

Neu drwy lythyr i: Cyngor Rhondda Cynon Taf, Uned Materion Diogelwch, Tŷ Ashgrove, Stryd yr Eglwys Uchaf, Pontypridd, CF37 2UF

Pwy ydyn ni a beth rydyn ni'n ei wneud

Mae Ymgynghorydd Trais Domestig Annibynnol a Gwasanaeth Cymorth Galw Heibio y Cyngor yn darparu cyngor, eiriolaeth, cymorth a mesurau diogelu i ddioddefwyr a phlant sy'n cael eu heffeithio gan gam-drin domestig. Mae'r gwasanaeth yn gweithio'n agos gydag asiantaethau priodol eraill i drefnu mesurau diogelu effeithiol ac mae'n cyfrannu at fforymau diogelu amlasiantaeth lleol.

Mae'r gwasanaeth hefyd yn cefnogi gwaith darparu Rhaglen Cyflawnwyr Cam-drin Domestig ar gyfer dynion sy'n troseddu yn y ffordd yma gyda'r nod o newid eu hymddygiad a lleihau ymddygiad camdriniol tuag at ddioddefwyr.

BETH YW CAM-DRIN DOMESTIG?

Mae ymddygiad person ("A") tuag at berson arall ("B") yn gam-drin domestig os yw’r canlynol yn wir;

a) Mae A a B ill dau yn 16 oed neu’n hŷn ac mae cysylltiad personol rhyngddyn nhw,

    a

b) mae'r ymddygiad yn gamdriniol.

 Mae ymddygiad yn "gamdriniol" os yw'n cynnwys unrhyw un o'r canlynol;

a) cam-drin corfforol neu rywiol

b) trais ac ymddygiad bygythiol

c) ymddygiad gorfodol a rheolaeth dros berson

d) cam-drin economaidd / ariannol

e) cam-drin seicolegol, emosiynol neu fath arall

Does dim ots a yw'r cam-drin yn achos unigol neu'n gyfres o ymddygiad camdriniol.

Y mathau o ddata personol rydyn ni'n eu prosesu

Rydyn ni'n cadw gwybodaeth am ddefnyddwyr gwasanaeth sy wedi'u hatgyfeirio aton ni gan yr Heddlu yn dilyn digwyddiad cam-drin yn y cartref, y rheiny sy wedi'u hatgyfeirio gan asiantaethau eraill fel y Gwasanaeth Iechyd, y Gwasanaeth Prawf, y Gwasanaeth Gofal Plant a Gwasanaeth Gofal Cymdeithasol i Oedolion, y Gwasanaeth Tai ac asiantaethau arbenigol eraill.

Mae modd i ddefnyddwyr gwasanaethau hefyd eu hatgyfeirio eu hunain trwy wasanaeth Galw Heibio y Ganolfan neu drwy gysylltu â'r gwasanaeth yn annibynnol.

Y mathau o ddata personol rydyn ni'n eu prosesu

Mae'n bosibl y byddwn ni'n prosesu'r categorïau canlynol o ddata personol:

  • Eich enw
  • Eich dyddiad geni
  • Eich rhif Yswiriant Gwladol
  • Cyfeiriad a rhifau ffôn
  • Manylion unrhyw blant / pobl agored i niwed sy'n gysylltiedig â chi
  • Manylion y person sy'n cyflawni'r gamdriniaeth sy'n gysylltiedig â chi
  • Manylion am y gamdriniaeth ddomestig rydych chi wedi'i dioddef a'r perygl sy'n eich wynebu chi 
  • Gwybodaeth categori arbennig megis tarddiad ethnig, statws priodasol, cenedligrwydd, crefydd, cyfeiriadedd rhywiol
  • Gwybodaeth iechyd megis unrhyw anableddau
  • Eich anghenion cymorth gan gynnwys hanes tai

Pam rydyn ni'n prosesu data personol?

Rydyn ni'n prosesu data personol ar gyfer y gweithgareddau canlynol. Dydy'r rhestr yma ddim yn gynhwysfawr;

  • Byddwn ni'n defnyddio'r wybodaeth er mwyn nodi pa gymorth sydd ei angen arnoch chi a pha lefel o fesurau diogelwch mae modd i ni eich cefnogi i'w defnyddio i'ch cadw'n ddiogel.
  • Os oes pryderon diogelu mawr neu os oes risg mawr mewn perthynas â'r cam-drin yn y cartref, byddwn ni'n rhannu eich gwybodaeth gydag asiantaethau partner eraill i drefnu mesurau diogelu pellach i chi gan gynnwys Cynhadledd Asesu Risg Aml-asiantaeth Cwm Taf.
  • Er mwyn i ni allu rheoli'r gwasanaethau rydyn ni'n eu darparu i chi a gwella'r ffordd rydyn ni'n eu darparu.

Ein sail gyfreithiol ar gyfer prosesu'r data personol

O dan y Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (GDPR), ein sail gyfreithlon ar gyfer prosesu'r data personol a'u darparu i'r Gwasanaeth Cam-drin Domestig yw;

  • Rhwymedigaeth Gyfreithiol (c) – prosesu sy'n angenrheidiol ar gyfer rwymedigaeth gyfreithiol sydd wedi'i roi i'r rheolwr. 
  • Tasg Gyhoeddus – Erthygl 6 (e) – prosesu sy'n angenrheidiol ar gyfer cyflawni tasg er budd y cyhoedd neu arfer awdurdod swyddogol sydd wedi'i roi i'r rheolwr.

Mae'r ddeddfwriaeth sylfaenol, rheoliadau a chanllawiau sy'n ategu hyn yn cynnwys, ond heb ei gyfyngu i:

  • Adran 76 o Ddeddf Troseddau Difrifol 2015
  • Deddf Trais Domestig, Troseddu a Dioddefwyr 2004
  • Deddf Trais yn erbyn Menywod, Cam-drin yn y Cartref, a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015
  • Deddf Cam-drin Ddomestig 2021

Gan bwy neu o ble rydyn ni'n casglu data personol?

Mae'n bosibl y byddwn ni'n derbyn y data personol gan unigolion neu sefydliadau yn y categorïau canlynol:

  • Chi eich hun pan rydych chi'n gwneud cais am fynediad i'r gwasanaeth
  • Atgyfeiriad gan yr heddlu
  • Cynhadledd Amlasiantaeth Asesu Risg (MARAC) Cwm Taf ar gyfer dioddefwyr cam-drin yn y cartref
  • Ein Hasiantaethau Partner sydd, o bosibl, eisoes yn eich cefnogi chi ond sydd angen ein cymorth ni neu pan mae partneriaid yn gwneud atgyfeiriad ar eich rhan

Gyda phwy rydyn ni'n rhannu data personol?

Mae'n bosibl y byddwn ni'n rhannu'r data â'r sefydliadau allweddol canlynol i gefnogi mesurau diogelu effeithiol i chi.

Dim ond y lleiafswm o wybodaeth bersonol sydd ei hangen mewn perthynas â'r diben fydd yn cael ei rannu.

Pwy

Diben

Adrannau'r Cyngor megis Tai, Gwasanaethau Cymdeithasol (Oedolion/Plant)

Eich cefnogi chi wrth i chi ymwneud ag adrannau eraill y Cyngor e.e. gwneud cais am lety

Cyfrannu at brosesau diogelu statudol e.e. Amddiffyn Plant

Asiantaethau'r Llywodraeth megis yr Heddlu, Gwasanaethau Iechyd a'r Gwasanaeth Tân

Eich cefnogi chi i gael mynediad at Wasanaethau Iechyd

Ceisio cymorth ar gyfer cynllunio mesurau diogelu pellach ar eich cyfer chi

Cyfrannu at brosesau diogelu statudol e.e. Amddiffyn Plant

Adran Gwaith a Phensiynau

Eich cefnogi chi i gael mynediad at gymorth ariannol pellach

Cynhadledd Amlasiantaethol ar gyfer Asesu Perygl (MARAC)

Dyma ddibenion MARAC:

  1. Diogelu dioddefwyr (a'u plant)
  2. Rheoli ymddygiad troseddwyr
  3. Diogelu gweithwyr proffesiynol
  4. Meithrin cysylltiadau â phrosesau/asiantaethau diogelu eraill

Asiantaethau Partner megis

Hwb Diogelu Amlasiantaeth (MASH)

Asiantaethau Cymorth Arbenigol eraill megis asiantaethau cam-drin domestig eraill, Gwasanaeth Cymorth Cyffuriau ac Alcohol, Gwasanaeth Iechyd Meddwl Cymunedol. Dydy'r rhestr yma ddim yn gynhwysfawr.

Sefydliadau Elusennol megis Care & Repair, Buttle Trust a rhagor

 

Cyfrifol am gydlynu cyfarfodydd wythnosol MARAC

 

 

Gwneud atgyfeiriadau pellach i gael mynediad at wasanaethau a chymorth ar eich rhan

 

 

 

 

Gwneud atgyfeiriadau pellach i gael mynediad at wasanaethau a chymorth ar eich rhan

Darparu mesurau gwella diogelwch tai yn ôl yr angen

Proseswyr data

Mae proseswr data yn gwmni neu sefydliad sy'n prosesu data personol ar ein rhan. Mae ein proseswyr data yn gweithredu ar ein cyfarwyddyd ni yn unig. Does dim modd iddyn nhw wneud unrhyw beth gyda'r data personol oni bai ein bod ni wedi eu cyfarwyddo nhw i wneud hynny.  Fyddan nhw ddim yn rhannu'r wybodaeth bersonol ag unrhyw sefydliad ar wahân i ni nac yn ei defnyddio at eu dibenion eu hunain. Byddan nhw'n dal y data yn ddiogel ac yn eu cadw am y cyfnod rydyn ni wedi'u cyfarwyddo i wneud hynny.

Dyma'r categorïau o broseswyr data rydyn ni'n eu defnyddio at ddibenion rheoli eich achos:

-       Darparwyr Systemau TG

Am ba mor hir y byddwn ni'n cadw'r data personol?

Rydyn ni'n cadw'r data personol sydd wedi'u cynnwys yn rhan o'n cofnodion cam-drin domestig am:

Faint o amser

Rheswm

6 blynedd ar ôl i'r gwasanaeth ddod i ben

Er mwyn cefnogi proses ddiogelu effeithiol a sicrhau bod data ar gael i'r gwasanaeth gydymffurfio â'i ddyletswyddau mewn perthynas â Dynladdiad Domestig ac adolygiadau arferion wrth weithio gydag oedolion a phlant

Er mwyn dilyn egwyddor storio data Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol, mae'r cofnodion yn cael eu hadolygu'n rheolaidd. Dydy'r holl ddata personol ddim yn cael eu cadw. Dim ond data personol sy'n berthnasol sy'n cael ei gadw am y cyfnod cyfan. 

Eich hawliau yn ymwneud â diogelu data

Mae'r Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) yn rhoi hawliau pwysig i unigolion, gan gynnwys yr hawl i gael gweld data personol mae'r Cyngor yn ei gadw amdanoch chi.

Cliciwch yma am ragor o wybodaeth am eich hawliau o ran gwybodaeth a sut i'w defnyddio nhw. 

Eich hawl i wneud cwyn i'r Cyngor ynghylch diogelu data

Mae'r hawl gyda chi i gwyno i'r Cyngor os ydych chi o'r farn ein bod ni ddim wedi trin eich data personol yn gyfrifol nac yn unol ag arfer da. 

Mae modd i chi wneud hyn drwy gysylltu ag Uned Materion Diogelu Pontypridd yn uniongyrchol drwy un o'r dulliau cyfathrebu canlynol. Mae modd datrys y rhan fwyaf o bryderon yn gymharol gyflym trwy alwad ffôn syml neu e-bost.

  • E-bost: UnedMaterionDiogeluPontypridd
  • Rhif ffôn: 01443 400791
  • Neu drwy lythyr i: Cyngor Rhondda Cynon Taf, Uned Materion Diogelu Pontypridd, Tŷ Ashgrove, Stryd yr Eglwys Uchaf, Pontypridd, CF37 2UF

Fel arall, mae modd i chi wneud cwyn ffurfiol trwy Gynllun Adborth Cwsmeriaid y Cyngor gan ddefnyddio'r ddolen ganlynol (Gwneud sylw, canmoliaeth neu gŵyn ar-lein) neu e-bostiwch Swyddog Diogelu Data'r Cyngor: rheoli.gwybodaeth@rctcbc.gov.uk.

Eich hawl i wneud cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth ynghylch diogelu data

Mae modd i chi hefyd gwyno i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth os ydych chi'n anfodlon â sut rydyn ni wedi defnyddio'ch data. Serch hynny, rydyn ni'n eich annog chi i gysylltu â ni yn gyntaf a rhoi cyfle i ni ymchwilio i'ch pryder a chywiro pethau.

Mae modd cysylltu â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth fel a ganlyn:           

  • Cyfeiriad: Information Commissioner's Office, Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Cheshire, SK9 5AF
  • Rhif y Llinell Gymorth: 0303 123 1113
  • Gwefan: https://www.ico.org.uk