Skip to main content

Hysbysiad preifatrwydd Iaith Gynnar

Sut ydyn ni'n defnyddio eich gwybodaeth bersonol at ddibenion y Garfan Rhianta (Iaith Gynnar)?

Mae'r Cyngor yn darparu gwasanaethau ar gyfer cymunedau lleol a'r bobl sy'n byw ynddyn nhw.  Mae cynnal y gwaith yma'n golygu bod rhaid i ni gasglu a defnyddio gwybodaeth am y bobl rydyn ni'n darparu gwasanaethau ar eu cyfer nhw a chadw cofnod o'r gwasanaethau yma. O ganlyniad i gasglu a defnyddio gwybodaeth bersonol am unigolion, rhaid i ni sicrhau eu bod nhw'n gwybod beth yw ein bwriad o ran defnyddio a rhannu eu gwybodaeth.

Rydyn ni wedi crynhoi yn yr hysbysiad preifatrwydd yma rai o'r ffyrdd allweddol rydyn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth bersonol at ddibenion y Garfan Rhianta (Iaith Gynnar). Dylech chi ddarllen yr wybodaeth yma yn ogystal â hysbysiad preifatrwydd corfforaethol y Cyngo

1. Pwy ydyn ni, beth rydyn ni'n ei wneud.

Mae'r Garfan Iaith Gynnar a Chyfathrebu (Siarad a Chwarae) yn cynnig cefnogaeth i rieni ddatblygu lleferydd iaith a sgiliau cyfathrebu eu plentyn. 

Mae'r garfan yn cynnal asesiad WellComm pan fydd eich plentyn yn 21 mis oed.  Mae Pecyn Cymorth WellComm yn fodd hwyl i fesur gallu llafar eich plentyn ac yn cynnig ffyrdd o gefnogi unrhyw anghenion datblygiadol sy efallai ganddo. 

Mae cefnogaeth yn cael ei chynnig mewn gwaith â grwpiau, yn ogystal â sesiynau un wrth un yn y cartref, sy'n cynnig ystod eang o weithgareddau hwyl, gan gynnwys profiadau creadigol a synhwyraidd, straeon a chanu hwiangerddi. 

2. Pa fath o wybodaeth bersonol rydyn ni'n ei chadw ac am bwy?

Rydyn ni'n cadw gwybodaeth amdanoch chi, y rhieni, a'r plentyn neu blant rydyn ni'n eu cefnogi.

Bydd y mathau o wybodaeth rydyn ni'n eu cadw a'u prosesu fel arfer yn cynnwys:

Gwybodaeth am y plentyn/plant

  • Enwau

  • Dyddiad geni

  • Cyfeiriad

  • Dewis Iaith

Gwybodaeth gan yr Ymwelydd Iechyd

  • Gwybodaeth am iechyd

  • Deinameg y teulu

Gwybodaeth am y rhieni 

  • Enwau

  • Cyfeiriad

  • Dewis laith

  • Statws perthynas y rhieni

  • Hanes teuluol/domestig

  • Rhif ffon

  • Lechyd

  • Gwybodaeth am y teulu estynedig (perthynas ac enwau)

3. O ble mae'r gwasanaeth yn cael fy ngwybodaeth?

Gan eich bod chi'n byw mewn ardal â lleoliad Dechrau'n Deg, bydd eich plentyn wedi'i nodi i dderbyn asesiad iaith gynnar. Dylai eich Ymwelydd Iechyd wedi dweud wrthych chi bod y Garfan Siarad a Chwarae'n bwriadu asesu eich plentyn pan fydd yn 21 mis oes. 

Os gwnaethoch chi ddewis defnyddio'r gwasanaeth yma, bydd eich Ymwelydd Iechyd yn rhoi eich enw, eich cyfeiriad â'ch rhif ffôn i'r garfan fydd yn eich ffonio chi er mwyn trefnu ymweliad. Efallai y byddwn ni'n derbyn eich gwybodaeth chi o'r gwasanaethau/unigolion canlynol;

  • Gwasanaeth Teuluoedd Cydnerth

  • Ymwelwyr Iechyd

  • Gweithwyr o leoliad meithrin

4. Beth fyddwn ni’n ei wneud gyda’ch gwybodaeth bersonal?

Byddwn ni'n defnyddio eich gwybodaeth bersonol i gysylltu â chi yn eich cartref ac er mwyn cynnal asesiad. 

Os nad oes modd i ni ymweld â'ch cartref, efallai y byddwn ni'n gofyn i chi am dystiolaeth o ddatblygiad eich plentyn ar ffurf fideo neu ffotograffau.  Efallai bydd yr wybodaeth yma'n cael ei hanfon i ddyfais gwaith eich gweithiwr cymorth, er enghraifft ffôn symudol. Mae pob dyfais symudol wedi'i hamgryptio a bydd pob darn o dystiolaeth yn cael ei ddileu unwaith y bydd yn cael ei weld.

Bwddwn ni hefyd yn defnyddio’r wybodaeth yn rhan o’r asesiad datblygu cynllun sy’n gweddu at eich anghenion chi a’ch plentyn ac sy’n cynnig y cymorth sydd ei angen yn barhaus.

5. Beth yw’r sail gyfreithiol o ran defynddio’r wybodaeth yma?

Mae cyfraith Diogelu Data yn dweud ein bod yn cael defnyddio a rhannu gwybodaeth bersonol lle mae gyda ni resymau priodol a chyfreithlon dros wneud hynny yn unig.

Mae gan y Cyngor ddyletswydd cyfreithiol i ddarparu cefnogaeth i rieni yn unol â Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 a chynllun Dechrau'n Deg.

6. Ydy'r gwasanaeth yn rhannu fy ngwybodaeth bersonol ag unrhyw sefydliad arall?

Byddwn ni'n rhannu eich gwybodaeth chi â sefydliadau perthnasol sydd mewn cyswllt â chi a'ch teulu, er enghraifft;

Ymwelwyr Iechyd, gan gynnig yr wybodaeth ddiweddaraf iddyn nhw am ganlyniad eich asesiad.

Y lleoliad Gofal Plant lle mae eich plentyn yn ei fynychu a chopi o'i sgôr WellComm a'i gynllun cefnogi, fel bod modd iddyn nhw barhau i'ch cefnogi chi yn ogystal ag anghenion eich plentyn.

Bydd yr ysgol mae eich plentyn yn ei mynychu hefyd yn derbyn copi o sgôr WellComm a chynllun cefnogi eich plentyn chi, er mwyn sicrhau bod modd iddi gefnogi eich plentyn chi mewn modd parhaol

7. Am ba mor hi gaiff ngwybodaeth ei chadw?

Bydd eich gwybodaeth yn cael ei chadw yn unol â deddfwriaeth ac ni fydd yn cael ei chadw am gyfnod yn hirach na'r angen neu'r rheswm y caiff ei chasglu'n wreiddiol. 

8. Eich gwybodaeth, eich hawliau

Mae'r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) yn rhoi hawliau pwysig i chi, gan gynnwys yr hawl i gael gweld yr wybodaeth bersonol mae'r gwasanaethau yn ei chadw amdanoch chi.

Cliciwch yma am ragor o wybodaeth am eich hawliau o ran gwybodaeth a sut i'w defnyddio nhw. 

9. Cysylltu a ni

Os oes gyda chi unrhyw bryderon neu os ydych chi eisiau rhagor o wybodaeth am sut mae'r gwasanaeth yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol, cysylltwch â ni gan ddefnyddio un o'r dulliau isod:

Drwy e-bostio: SiaradaChwarae@rctcbc.gov.uk

Drwy ffonio: 01685 652541

Drwy anfon llythyr at: Siarad a Chwarae, Canolfan Aman, Stryd Godreaman, Aberdâr, CF44 6DF