Skip to main content

Hysbysiad Preifatrwydd Rhaglen Dechrau'n Deg RhCT

Hysbysiad preifatrwydd mewn perthynas â phrosesu data personol gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf at ddibenion Dechrau'n Deg

 

Cyflwyniad

Bwriad yr hysbysiad preifatrwydd yma yw darparu gwybodaeth am sut y bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (cyfeirir ato fel 'Cyngor Rhondda Cynon Taf', 'y Cyngor', 'Awdurdod Lleol', 'ni') yn defnyddio (neu’n 'prosesu') data personol am unigolion at ddibenion Dechrau'n Deg.

Dylech chi ddarllen yr hysbysiad yma yn ogystal â:

Y Rheolwr Data

At ddibenion Dechrau'n Deg, mae'r Cyngor yn rheolwr ar y cyd â Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.

Mae'r Cyngor wedi'i gofrestru â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth fel rheolwr. Ei gyfeirnod yw Z4870100.

Mae'r Bwrdd Iechyd wedi’i gofrestru â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth. Ei gyfeirnod yw Z1882043.

Ymholiadau yn ymwneud â'r hysbysiad preifatrwydd yma

Os oes gyda chi unrhyw gwestiynau neu ymholiadau yn ymwneud â'r hysbysiad preifatrwydd yma, cysylltwch â'r Gwasanaeth Llesiant a Chydnerthedd y Gymuned:

Drwy e-bostio: GGRLlChG@rctcbc.gov.uk

Ffonio: 01443 281435

Neu drwy lythyr i: Y Garfan Rheoli Gwybodaeth, Cynllunio a Thrawsnewid Gwasanaethau CWRS, Cyngor RhCT, Tŷ Catrin, Ystad Ddiwydiannol Hen Lofa'r Maritime, Pontypridd, CF37 1NY

Pwy ydyn ni a beth rydyn ni'n ei wneud

Yn Rhondda Cynon Taf, mae Dechrau'n Deg yn cael ei ddarparu yn rhan integredig o'r rhaglen CWTCH. Diben Cwtch yw darparu cymorth wedi'i gydlynu i deuluoedd sydd â phlant sy'n iau na 5 oed. Fel arfer, mae cymhwysedd Dechrau'n Deg yn cael ei bennu ar gymhwysedd daearyddol ar sail cod post y teuluoedd. Fodd bynnag, yn Rhondda Cynon Taf, rydyn ni'n defnyddio model hybrid ar sail cymhwysedd daearyddol ac anghenion y teulu/plentyn. Rhaglen yw Dechrau'n Deg sy'n cael ei chyllido gan Lywodraeth Cymru ac sy'n cael ei darparu gan y Cyngor a Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg.

Bydd gan deuluoedd yr hawl i gofrestru â gwasanaeth CWTCH, sy'n caniatáu i'r Cyngor a'r Bwrdd Iechyd gynnig pecyn cymorth wedi'i gydlynu i deuluoedd ar draws yr Awdurdod. Mae hyn yn cynnwys gofal plant rhan amser wedi'i ariannu o'r tymor yn dilyn pen-blwydd y plentyn yn 2 mlwydd oes am 12.5 awr yr wythnos am 39 wythnos o'r flwyddyn, gwasanaeth ymwelwyr iechyd gwell, mynediad at raglen rianta a chymorth lleferydd, iaith a chyfathrebu.

Y mathau o ddata personol rydyn ni'n eu prosesu

Mae’n bosibl y byddwn ni'n prosesu data personol sy’n ymwneud â’r unigolion canlynol i ddarparu Dechrau'n Deg;

  • Defnyddwyr Gwasanaeth Dechrau'n Deg - Plant a rhieni/gwarcheidwaid

Y mathau o ddata personol rydyn ni'n eu prosesu

Mae'n bosibl y byddwn ni'n prosesu'r categorïau canlynol o ddata personol i ddarparu Dechrau'n Deg:

  • Manylion personol - Enw, dyddiad geni, rhif GIG
  • Manylion cyswllt – Cyfeiriad, cod post, rhif ffôn, cyfeiriad e-bost
  • Data iechyd
  • Hil
  • Tras Ethnig
  • Rhywedd

Pam rydyn ni'n prosesu data personol

Rydyn ni'n prosesu data personol er mwyn darparu Dechrau'n Deg. Mae'n bosibl y bydd hyn yn cynnwys ond heb ei gyfyngu i'r gweithgareddau canlynol:

  • I ddeall a fyddech chi neu eich teulu yn elwa o unrhyw un o'n gwasanaethau eraill.
  • I fonitro eich cynnydd chi/cynnydd eich plentyn o bryd i'w gilydd a byddwn ni'n cofnodi'r deilliannau.
  • I gofnodi presenoldeb yn y lleoliad gofal plant a sesiynau cymorth eraill.
  • I fodloni anghenion adrodd Llywodraeth Cymru.

Ein sail gyfreithiol ar gyfer prosesu'r data personol

O dan y Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (GDPR), ein sail gyfreithlon ar gyfer prosesu'r data personol i ddarparu Dechrau'n Deg yw;

  • Tasg Gyhoeddus – Erthygl 6 (e) – prosesu sy'n angenrheidiol ar gyfer cyflawni tasg er budd y cyhoedd neu arfer awdurdod swyddogol sydd wedi'i roi i'r rheolwr

Gan bwy neu o ble rydyn ni'n casglu data personol?

Mae'n bosibl y byddwn ni'n derbyn y data personol gan unigolion neu sefydliadau yn y categorïau canlynol:

  • Ffurflen CWTCH
  • Asesiadau, cofrestru presenoldeb, lleoliadau gofal plant, rhianta/gweithwyr neu'r Garfan Iaith a Lleferydd
  • Gwasanaethau i Blant
  • Seicolegydd Addysg
  • Meddyg Teulu
  • Bwrdd Iechyd
  • Gweithwyr Iechyd Meddwl Cymunedol
  • Darparwyr wedi'u comisiynu

Gyda phwy rydyn ni'n rhannu data personol?

Mae’n bosibl y byddwn ni'n rhannu'r data personol â’r sefydliadau i ddarparu Dechrau'n Deg.

Dim ond y lleiafswm o wybodaeth bersonol sydd ei hangen mewn perthynas â'r diben fydd yn cael ei rhannu.

Pwy

Diben

Lleoliad ysgol

Er mwyn rhoi gwybod i'r ysgol am anghenion eich plentyn er mwyn sicrhau bod y broses bontio yn llyfn

Llywodraeth Cymru

At ddibenion presenoldeb a deilliannau'r rhaglen

Lleoliad gofal plant

Er mwyn sicrhau bod modd i'r lleoliad gefnogi eich plentyn yn y ffordd orau posibl

Carfan Rhianta

Er mwyn trefnu a chynnal sesiynau cymorth i rieni

Y Garfan Siarad a Chwarae

Er mwyn trefnu a darparu cymorth

Adrannau eraill y Cyngor

Er mwyn darparu gwasanaeth llawn i ganiatáu mynediad llawn i gefnogi gwasanaeth

Y Bwrdd Iechyd Lleol

Er mwyn darparu gwasanaeth llawn i ganiatáu mynediad llawn i gefnogi gwasanaeth

Proseswyr Data

Mae proseswr data yn gwmni neu sefydliad sy'n prosesu data personol ar ein rhan. Mae ein proseswyr data yn gweithredu ar ein cyfarwyddyd ni yn unig. Does dim modd iddyn nhw wneud unrhyw beth gyda'r data personol oni bai ein bod ni wedi eu cyfarwyddo nhw i wneud hynny.  Fyddan nhw ddim yn rhannu'r wybodaeth bersonol ag unrhyw sefydliad ar wahân i ni nac yn ei defnyddio at eu dibenion eu hunain. Byddan nhw'n dal y data yn ddiogel ac yn eu cadw am y cyfnod rydyn ni wedi'u cyfarwyddo i wneud hynny.

Dyma'r categorïau o broseswyr data rydyn ni'n eu defnyddio at ddibenion Dechrau'n Deg:

-        Darparwyr Systemau TG, ayyb

Am ba mor hir y byddwn ni'n cadw'r data personol?

Rydyn ni'n cadw'r data personol sydd wedi'u cynnwys yn rhan o'n cofnodion Dechrau'n Deg am:

Faint o amser

Rheswm

10 mlynedd ar ôl i'r cymorth data ddod i ben, bydd y data yn cael eu gwneud yn anhysbys 7 myned ar ôl trosglwyddo ffeil y plentyn i'r Gwasanaeth Nyrsio Ysgolion

Gofynion telerau ac amodau grant Llywodraeth Cymru a gofynion adrodd Grŵp Cydlynu Cymuned (CCG)

Er mwyn dilyn egwyddor storio data Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol, mae'r cofnodion yn cael eu hadolygu'n rheolaidd. Dydy'r holl ddata personol ddim yn cael eu cadw. Dim ond data personol sy'n berthnasol i'r cofnod sy'n cael eu cadw am y cyfnod cadw cyfan (e.e. dogfennau sy'n cynnwys asesiadau, penderfyniadau, deilliannau ac ati). Caiff unrhyw wybodaeth sy'n amherthnasol yn y tymor hir neu sy'n amherthnasol yn dystiolaethol ei dinistrio yn y cwrs busnes arferol. 

Eich hawliau yn ymwneud â diogelu data

Mae'r Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) yn rhoi hawliau pwysig i unigolion, gan gynnwys yr hawl i gael gweld data personol mae'r Cyngor yn eu cadw amdanoch chi.

Cliciwch yma am ragor o wybodaeth am eich hawliau o ran gwybodaeth a sut i'w defnyddio nhw. 

Eich hawl i wneud cwyn i'r Cyngor ynghylch diogelu data

Mae'r hawl gyda chi i gwyno i'r Cyngor os ydych chi o'r farn ein bod ni ddim wedi trin eich data personol yn gyfrifol nac yn unol ag arfer da. 

Mae modd gwneud hyn trwy gysylltu â'r Gwasanaeth Llesiant a Chydnerthedd y Gymuned.

E-bostio: GGRLlChG@rctcbc.gov.uk

Ffonio: 01443 281435 

Neu drwy lythyr i: Y Garfan Rheoli Gwybodaeth, Cynllunio a Thrawsnewid Gwasanaethau CWRS, Cyngor RhCT, Tŷ Catrin, Ystad Ddiwydiannol Hen Lofa'r Maritime, Pontypridd, CF37 1NY

Fel arall, mae modd i chi wneud cwyn ffurfiol trwy Gynllun Adborth Cwsmeriaid y Cyngor gan ddefnyddio'r ddolen ganlynol (Gwneud sylw, canmoliaeth neu gŵyn ar-lein) neu e-bostiwch Swyddog Diogelu Data'r Cyngor: rheoli.gwybodaeth@rctcbc.gov.uk.

Eich hawl i wneud cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth ynghylch diogelu data

Mae modd i chi hefyd gwyno i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth os ydych chi'n anfodlon â sut rydyn ni wedi defnyddio'ch data. Serch hynny, rydyn ni'n eich annog chi i gysylltu â ni yn gyntaf a rhoi cyfle i ni ymchwilio i'ch pryder a chywiro pethau.

Mae modd cysylltu â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth fel a ganlyn:           

  • Cyfeiriad: Information Commissioner's Office, Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Cheshire, SK9 5AF
  • Rhif y Llinell Gymorth: 0303 123 1113
  • Gwefan: https://www.ico.org.uk