Skip to main content

Hysbysiad Preifatrwydd y Gwasanaeth Iechyd a Lles

Sut rydyn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth bersonol at ddibenion y Gwasanaeth Iechyd a Lles. 

Mae'r Cyngor yn darparu gwasanaethau i gymunedau lleol a'r bobl sy'n byw ynddyn nhw. Mae cynnal y gwaith yma yn golygu bod rhaid i ni gasglu a defnyddio gwybodaeth am y bobl rydyn ni'n darparu gwasanaethau ar eu cyfer nhw a chadw cofnod o'r gwasanaethau yma. O ganlyniad i gasglu a defnyddio gwybodaeth bersonol am unigolion, mae rhaid i ni sicrhau eu bod nhw'n gwybod beth yw ein bwriad o ran defnyddio a rhannu eu gwybodaeth. 

Rydyn ni wedi crynhoi yn yr hysbysiad preifatrwydd yma rai o'r ffyrdd allweddol rydyn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth bersonol at ddibenion gwella iechyd a lles. Dylech chi ddarllen yr wybodaeth yma yn ogystal â hysbysiad preifatrwydd corfforaethol y Cyngor.

1.    Pwy ydyn ni, beth ydyn ni'n ei wneud.

Mae'r Garfan Iechyd a Lles yn ceisio gwella a hyrwyddo iechyd a lles preswylwyr RhCT. 

Rydyn ni'n gwneud hyn trwy weithio ar y cyd â Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf a phartneriaid eraill gan gynnwys y gwasanaeth Cyngor ar Bopeth a Rhoi’r Gorau i Ysmygu er mwyn gwella iechyd ein dinasyddion. 

Rydyn ni hefyd yn gweinyddu'r Grant Pobl Hŷn, a gafodd ei sefydlu ar gyfer sefydliadau/grwpiau cymunedol yn Rhondda Cynon Taf sy'n gweithio gyda phobl sy'n 50 oed a hŷn.

2.    Pa fath o wybodaeth bersonol ydyn ni'n ei chadw ac am bwy?

Rydyn ni'n cadw gwybodaeth am aelodau o'r cyhoedd o amrywiaeth o ffynonellau, gan gynnwys;

  • Unigolion sydd wedi cytuno i ateb arolwg iechyd a lles yn rhan o gynllun ehangach (Ardal Gweithredu Tai ac Iechyd) yn Nhylorstown.
  • Grwpiau a sefydliadau sy'n gwneud cais am Grant Pobl Hŷn.
  • Unigolion sy'n cymryd rhan yn o gynllun Codi Ymwybyddiaeth o Gwympo, lle caiff gwybodaeth sy'n ymwneud ag iechyd a lles ei chasglu cyn ac ar ôl cyflawni'r cynllun er mwyn penderfynu a yw'r unigolyn wedi elwa o'r cynllun.

Bydd y mathau o wybodaeth rydyn ni'n eu cadw a'u prosesu fel arfer yn cynnwys:  

  • Manylion cyswllt, gan gynnwys enw, cyfeiriad, rhifau ffôn a chyfeiriad e-bost.
  • Gwybodaeth adnabod, gan gynnwys dyddiad geni.
  • Gwybodaeth sy'n ymwneud â'ch ffordd o fyw, lles, iechyd ac arian.
  • Manylion y cynllun a gweithgaredd, gan gynnwys cyllid ar gyfer y cynlluniau a gwaith monitro/gwerthuso.
  • Gwybodaeth sy'n ymwneud â sefydliadau partner sy'n gysylltiedig â'r cynlluniau.
  • Gwybodaeth sy'n ymwneud â chost y cynllun.  
  • Gwybodaeth ariannol, gan gynnwys cyfrifon sydd wedi'u harchwilio, manylion cyfrif banc, pwynt cyswllt ar gyfer grwpiau sydd wedi derbyn cyllid grant oddi wrthyn ni.

3.    O ble mae'r gwasanaeth yn cael fy ngwybodaeth?

Rydyn ni'n cael yr holl wybodaeth yma yn uniongyrchol oddi wrthych chi. Dydyn ni ddim yn derbyn yr wybodaeth yma gan drydydd parti.  

4.    Beth fyddwn ni'n ei wneud gyda'ch gwybodaeth bersonol?

Bydd yr wybodaeth rydych chi wedi'i darparu ar gyfer y Cynllun Ardal Gweithredu Tai ac Iechyd yn ein galluogi ni i ddeall materion iechyd a thai sydd efallai gyda chi a'ch cymuned. Yna, bydd modd i ni archwilio sut mae modd i ni eich helpu chi yn y dyfodol. 

Bydd yr wybodaeth sy'n ymwneud â'r Grant Pobl Hŷn yn cael ei defnyddio er mwyn prosesu'r cais a phenderfynu a yw'r cynllun yn gymwys i dderbyn cyllid. 

Bydd yr wybodaeth sy'n ymwneud â'r Cynllun Codi Ymwybyddiaeth o Gwympo yn cael ei defnyddio er mwyn asesu'r manteision tybiedig a ddaw o fynychu'r cynllun. Mae'n bosibl y bydd yr wybodaeth yma'n cael ei rhannu gyda sefydliadau trydydd parti, gan gynnwys sefydliadau addysg uwch, at ddibenion gwerthuso cadarn.

5.    Beth ydy'r sail gyfreithiol o ran defnyddio'r wybodaeth yma?

Mae deddf Diogelu Data yn dweud ein bod ni ond yn gallu defnyddio a rhannu gwybodaeth bersonol os oes gyda ni reswm priodol a chyfreithlon dros wneud hynny.

Mae angen i ni brosesu'ch gwybodaeth bersonol er mwyn cyflawni tasg er budd y cyhoedd neu wrth ymarfer awdurdod swyddogol fel rhan o'n swyddogaeth fel corff cyhoeddus, h.y. er mwyn gwella iechyd a lles preswylwyr RhCT. 

6.    Ydy'r gwasanaeth yn rhannu fy ngwybodaeth bersonol ag unrhyw sefydliad arall? 

Mae'n bosibl y bydd gwybodaeth sy'n ymwneud â'r Cynllun Ardal Gweithredu Tai ac Iechyd yn cael ei rhannu â sefydliadau allanol at ddibenion darparu cyngor a/neu wasanaethau iechyd a lles. Mae hyn yn cynnwys rhannu gwybodaeth gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf, Helpa Fi i Stopio, Canolfan Cyngor ar Bopeth, ac ati. 

Mae'n bosibl y bydd yr wybodaeth sy'n ymwneud â'r Cynllun Codi Ymwybyddiaeth o Gwympo yn cael ei rhannu gyda sefydliadau trydydd parti, gan gynnwys sefydliadau addysg uwch, at ddibenion gwerthuso cadarn. 

Ym mhob achos byddwn ni dim ond yn gwneud hyn i'r graddau rydyn ni o'r farn bod yr wybodaeth yn rhesymol ofynnol ar gyfer y dibenion yma.

7.    Am faint o amser fydd y gwasanaeth yn cadw fy ngwybodaeth?

Byddwn ni dim ond yn cadw eich gwybodaeth bersonol cyhyd ag y bydd arnon ni ei hangen i weinyddu'r gweithgaredd ac i ddelio ag unrhyw gwestiynau neu gwynion rydyn ni'n eu derbyn am hyn.

Byddwn  ni'n gweithredu fel hyn oni bai fod y gyfraith yn ei gwneud hi'n ofynnol i ni gadw’ch gwybodaeth am ragor o amser. 

Caiff dogfennau ar gyfer y Gwasanaeth Iechyd a Lles eu cadw yn unol â'r isod: 

  • Caiff Arolygon Iechyd a Lles sy'n ymwneud â'r Ardal Gweithredu Tai ac Iechyd eu cadw am 7 mlynedd;
  • Caiff ffurflenni cais sy'n ymwneud â'r Grant Pobl Hŷn eu cadw am 7 mlynedd;
  • Caiff holiaduron sy'n ymwneud â'r Cynllun Codi Ymwybyddiaeth o Gwympo eu cadw am 6 blynedd.

8.    Eich gwybodaeth, eich hawliau  

Mae'r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) yn rhoi hawliau pwysig i chi, gan gynnwys yr hawl i gael gweld yr wybodaeth bersonol mae'r gwasanaethau yn ei chadw amdanoch chi. 

Edrychwch ar ragor o wybodaeth am eich hawliau gwybodaeth a sut i'w defnyddio nhw. 


9.    Cysylltwch â ni

Os oes gyda chi unrhyw bryderon neu os ydych chi eisiau rhagor o wybodaeth am sut mae'r gwasanaeth yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol, cysylltwch â ni gan ddefnyddio un o'r dulliau isod: 

  • E-bost : cymorthprosiectauiechydycyhoedd@rctcbc.gov.uk    
  • Ffôn : 01443 425001 
  • Trwy lythyr : Gwasanaeth Diogelwch y Cyhoedd, Adran Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymuned, Tŷ Elái, Dwyrain Dinas Isaf, Trewiliam, CF40 1NY