Skip to main content

Hysbysiad Preifatrwydd Ceisio Cartref RhCT

Sut rydyn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth bersonol ar gyfer y gwasanaethau sy'n cael eu darparu gan y Garfan Ceisio Cartref. 

Mae'r Cyngor yn darparu gwasanaethau ar gyfer cymunedau lleol a'r bobl sy'n byw ynddyn nhw. Mae cynnal y gwaith yma yn golygu bod rhaid i ni gasglu a defnyddio gwybodaeth am y bobl rydyn ni'n darparu gwasanaethau iddyn nhw a chadw cofnod o'r gwasanaethau yma. O ganlyniad i gasglu a defnyddio gwybodaeth bersonol am unigolion, mae rhaid i ni sicrhau eu bod nhw'n gwybod beth yw ein bwriad o ran defnyddio a rhannu eu gwybodaeth. 

Rydyn ni wedi crynhoi yn yr hysbysiad preifatrwydd yma rai o'r ffyrdd allweddol rydyn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth bersonol ar gyfer y Garfan Ceisio Cartref. Dylech chi ddarllen yr wybodaeth yma yn ogystal â hysbysiad preifatrwydd corfforaethol y Cyngor

1. Pwy ydyn ni, beth ydyn ni'n ei wneud 

Mae Ceisio Cartref RhCT yn gweinyddu'r Gofrestr Tai Gyffredin yn unol â Chynllun Dyrannu Tai Rhondda Cynon Taf 2018. 

Mae ymgeiswyr sy eisiau cael eu hailgartrefu yn Rhondda Cynon Taf yn gwneud cais i Ceisio Cartref RhCT ac yn derbyn asesiad o'u hanghenion tai yn seiliedig ar eu hamgylchiadau. 

Mae modd cwblhau ceisiadau ar-lein, dros y ffôn neu wyneb yn wyneb yn y Ganolfan Cyngor ar Faterion Tai , Tŷ Sardis, Pontypridd. Bydd carfan Ceisio Cartref RhCT yn gwirio'r manylion sydd wedi'u nodi ar gais pob ymgeisydd i sicrhau bod yr wybodaeth maen nhw wedi'i darparu yn gywir. Bydd Ceisio Cartref RhCT yn cadarnhau band blaenoriaeth yr ymgeiswyr ar ôl gwirio'r wybodaeth yma. *

(*Mae yna 4 band blaenoriaeth A, B, C & D. Mae ymgeiswyr yn cael eu rhoi mewn band yn dilyn asesiad sef Band A lle mae'r asesiad yn dangos bod gyda'r ymgeiswyr anghenion tai brys, Band B lle mae'r asesiad yn dangos bod gyda nhw anghenion tai uchel, Band C lle mae'r asesiad yn dangos bod gyda nhw anghenion tai isel, a Band D lle mae'r asesiad yn dangos does dim anghenion tai gyda nhw.)    

Mae ymgeiswyr yn cael eu rhoi yn y band blaenoriaeth sy'n briodol ar gyfer eu hamgylchiadau. Yn rhan o'r broses fandio bydd carfan Ceisio Cartref RhCT yn casglu unrhyw dystiolaeth sydd ei hangen i sicrhau bod yr wybodaeth yn y cais yn gywir a bod yr ymgeisydd yn cael ei roi yn y band priodol. 

2. Pa fath o wybodaeth bersonol ydyn ni'n ei chadw ac am bwy? 

Rydyn ni'n cadw gwybodaeth am ymgeiswyr sy'n ceisio cael eu hailgartrefu trwy gynllun Ceisio Cartref RhCT.  

Fel arfer bydd y math o wybodaeth byddwn ni'n ei chasglu a'i defnyddio fel rhan o'r cais ar-lein yn cynnwys:

  • Manylion cyswllt, gan gynnwys enw, dyddiad geni, rhifau Yswiriant Gwladol, cyfeiriad, rhif ffôn a chyfeiriad e-bost.
  • Gwybodaeth yn ymwneud â strwythur y teulu, gan gynnwys holl fanylion personol y bobl fydd yn byw yn y tŷ rydych chi'n gwneud cais amdano.
  • Manylion incwm ariannol
  • Unrhyw ddyled sy'n gysylltiedig â'r tenantiaeth
  • Unrhyw ddiagnosis meddygol
  • Unrhyw euogfarnau troseddol
  • Math a maint y llety sydd ei angen (nifer y gwelyau, a oes angen unrhyw addasiadau ac ati)
  • Yr ardaloedd byddai'n well gyda chi fyw ynddyn nhw 

3. O ble mae'r gwasanaeth yn cael fy ngwybodaeth?  

Caiff gwybodaeth bersonol ei chasglu'n uniongyrchol wrth unrhyw un sy'n gwneud y cais i ymuno â chynllun Ceisio Cartref RhCT. 

Er mwyn gwirio ceisiadau, mae gwybodaeth hefyd yn cael ei chasglu oddi wrth adrannau eraill y Cyngor. Mae'r adrannau yma'n cynnwys Adran Treth y Cyngor, y Garfan Therapi Galwedigaethol, yr Adran Gwasanaethau Cymdeithasol, y Garfan Cyngor ar Faterion Tai, yr Adran Budd-dal Tai ac ati.

Mae gwybodaeth hefyd yn cael ei chasglu o ffynonellau allanol ac yn cael ei gwirio gyda nhw. Mae'r ffynonellau allanol yma yn cynnwys Gwasanaethau Iechyd, yr Heddlu, y Gwasanaeth Prawf a Gweithwyr Cefnogi lle bo angen.

4. Beth fyddwn ni'n ei wneud gyda'ch gwybodaeth bersonol?

Mae Carfan Ceisio Cartref RhCT yn defnyddio gwybodaeth bersonol i sicrhau bod ceisiadau cynllun Ceisio Cartref RhCT yn gywir ac yn cael eu prosesu yn ôl ein rhwymedigaethau cyfreithiol a Chynllun Dyrannu Tai y Cyngor. 

5. Beth ydy'r sail gyfreithiol o ran defnyddio'r wybodaeth yma?  

Mae cyfraith Diogelu Data yn dweud ein bod ni'n gallu defnyddio a rhannu gwybodaeth bersonol lle mae gyda ni resymau priodol a chyfreithlon dros wneud hynny yn unig. 

Ein sail gyfreithiol ar gyfer prosesu'r wybodaeth yma er mwyn gweinyddu'r Gofrestr Tai Gyffredin yn gywir yn ôl Polisi Cynllun Dyrannu Tai y Cyngor yw:

  • Cyflawni dyletswyddau swyddogol y Cyngor ac i fodloni ein rhwymedigaethau cyfreithiol o dan y ddeddfwriaeth ganlynol:
  • Deddf Tai 1996
  •  Deddf Digartrefedd 2002
  • Deddf Tai (Cymru) 2014 

6. Ydy'r gwasanaeth yn rhannu fy ngwybodaeth bersonol gydag unrhyw sefydliad arall?

Mae Ceisio Cartref RhCT ond yn rhannu gwybodaeth bersonol gydag adrannau mewnol y Cyngor a sefydliadau partner dibynadwy lle mae budd i'r ddwy ochr wrth gydymffurfio â dyletswydd statudol neu ddyrannu tai fel rhan o broses Ceisio Cartref RhCT. 

Bydd y sefydliadau eraill yn gyfrifol yn uniongyrchol am eu defnydd nhw o'r wybodaeth bersonol rydyn ni'n ei rhannu. Fyddwn ni ond yn rhannu gwybodaeth bersonol os ydyn ni'n ystyried hyn yn angenrheidiol ac yn rhesymol er mwyn cydymffurfio â dyletswyddau statudol neu er mwyn prosesu cais i gynllun Ceisio Cartref RhCT. 

Enghreifftiau o bartneriaid rydyn ni'n rhannu gwybodaeth gyda nhw: 

  • Yr Heddlu
  • Partneriaid ym maes Iechyd
  • Gwasanaethau Prawf 

Gwasanaethau Mewnol y Cyngor: 

  • Adran Treth y Cyngor
  • Adran Budd-dal Tai
  • Gwasanaethau Cymdeithasol
  • Gweithiwr Cymorth
  • Gwasanaethau Cyngor ar Faterion Tai

7. Am faint o amser fydd y gwasanaeth yn cadw fy ngwybodaeth? 

Saith mlynedd o ddyddiad cyflwyno'r cais. 

8. Eich gwybodaeth, eich hawliau 

Mae'r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) yn rhoi hawliau pwysig i chi, gan gynnwys yr hawl i gael mynediad i'r wybodaeth bersonol mae'r gwasanaethau yn ei chadw amdanoch chi. 

Edrychwch ar fanylion pellach am eich hawliau gwybodaeth a sut i'w defnyddio nhw

9. Cysylltwch â ni

Os oes gyda chi unrhyw bryderon neu os ydych chi eisiau rhagor o wybodaeth am sut mae'r gwasanaeth yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol, cysylltwch â ni gan ddefnyddio un o'r dulliau isod:

 E-bost: CeisioCartref@rctcbc.gov.uk  

Ffôn: 01443 425678 

Trwy lythyr: Carfan Ceisio Cartref RhCT, Iechyd a Diogelwch y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymuned, Tŷ Elái, Dwyrain Dinas Isaf, Trewiliam, Rhondda Cynon Taf CF40 1NY