Skip to main content

Hysbysiad Preifatrwydd - Strategaeth Hamdden

Hysbysiad preifatrwydd mewn perthynas â phrosesu data personol gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf at ddibenion Strategaeth Hamdden.

Cyflwyniad

Bwriad yr hysbysiad preifatrwydd yma yw darparu gwybodaeth am sut y bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (cyfeirir ato fel 'Cyngor Rhondda Cynon Taf', 'y Cyngor', 'Awdurdod Lleol', 'ni') yn defnyddio (neu'n 'prosesu') data personol am unigolion at ddibenion y Strategaeth Hamdden.

Dylech chi ddarllen yr hysbysiad yma yn ogystal â:

Y Rheolwr Data

Y Cyngor yw'r rheolwr data ar gyfer y data personol a gaiff eu prosesu at ddibenion y Strategaeth Hamdden.

Mae'r Cyngor wedi cofrestru â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth fel rheolwr. Ei gyfeirnod yw Z4870100.

Ymholiadau yn ymwneud â'r hysbysiad preifatrwydd yma

Os oes gyda chi unrhyw gwestiynau neu ymholiadau yn ymwneud â’r hysbysiad preifatrwydd yma, cysylltwch â’r Garfan Strategaeth Hamdden.

Drwy e-bostio: ChwaraeonRhCT@rctcbc.gov.uk

Rhif ffôn: 01443 562202

neu anfon llythyr Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, Canolfan Chwaraeon Abercynon, Parc Abercynon, Abercynon, Aberpennar, CF45 4UY.

Pwy ydyn ni a beth rydyn ni'n ei wneud

Mae'r Garfan Strategaeth Hamdden yn darparu amrywiaeth o raglenni gweithgaredd corfforol â chymorth sydd wedi'u cynllunio i alluogi pobl i wneud gweithgaredd corfforol rheolaidd fel rhan o ffordd iach o fyw. Gellir atgyfeirio i'r gwasanaeth gan Weithwyr Iechyd Proffesiynol, Gwasanaethau Cymdeithasol, gweithwyr proffesiynol cymorth cymunedol ac Addysg neu mewn rhai achosion gall pobl atgyfeirio eu hunain.

Mae’r rhaglenni gweithgaredd corfforol rydym yn eu cynnal fel a ganlyn:

  • Cynllun Cenedlaethol Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff (NERS) a Chynllun Cydofal Cymunedol (CJC):
  • Cynllun Cymorth i Gael Mynediad at Hamdden (STARS) a rhaglenni cymorth cymunedol:
  • Chwaraeon RhCT

Data personol pwy ydyn ni'n eu prosesu?

Efallai y byddwn ni'n prosesu data personol mewn perthynas â'r unigolion canlynol i ddarparu ein gwasanaethau i chi:

  • Defnyddwyr Gwasanaeth, megis plant ysgol, cyfranogwyr NERS, gwirfoddolwyr ac ati
  • Cysylltiadau Argyfwng, fel aelodau o'r teulu neu ffrindiau
  • Staff Byrddau Iechyd Lleol fel Meddyg Teulu

Y mathau o ddata personol rydyn ni'n eu prosesu

Efallai y byddwn ni'n prosesu'r categoriau o ddata personol canlynol i ddarparu ein gwasanaethau i chi:

  • Manylion cyswllt, gan gynnwys enw, cyfeiriad, cod post, rhif ffôn a chyfeiriad e-bost.
  • Dynodwyr personol fel dyddiad geni, rhif cyfeirnod y Gwasanaeth Iechyd.
  • Manylion eich Meddyg Teulu, ac enw'r feddygfa
  • Manylion eich Ysgol neu Goleg
  • Rhywedd
  • Gwybodaeth Iechyd, fel eich hanes meddygol
  • Ethnigrwydd

Pam rydyn ni'n prosesu data personol?

Rydyn ni'n prosesu'r data personol i ddarparu ein gwasanaethau i chi. Mae'n bosibl y bydd hyn yn cynnwys, ond heb ei gyfyngu i'r gweithgareddau canlynol:

  • Prosesu atgyfeiriadau a dderbyniwyd mewn perthynas â’r Cynllun Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff, Cynllun Cymorth i Gael Mynediad at Hamdden, Chwaraeon RhCT ac ati
  • Darparu gwybodaeth i'n canolfannau hamdden a'n staff cyflwyno gan roi cyngor ar ba raglen benodol o weithgarwch corfforol sydd ei hangen.
  • Darparu cyfleoedd hyfforddi a chymryd rhan mewn chwaraeon.
  • Trefnu gwyliau, cystadlaethau, gweithgareddau a digwyddiadau gwyliau ysgol.
  • Gwella ein cynnyrch a'n gwasanaethau.
  • Darparu manylion cyswllt brys a gwybodaeth feddygol i staff dosbarthu er mwyn sicrhau Iechyd a Diogelwch priodol
  • Darparu gwybodaeth i atgyfeirwyr ar gyfranogiad a chanlyniadau ar gyfer unigolyn sydd wedi'i gyfeirio at wasanaeth.
  • Darparu data ystadegol dienw i Iechyd Cyhoeddus Cymru, Sefydliadau Ariannu ac ati.

Ein sail gyfreithiol ar gyfer prosesu'r data personol

Yn unol â Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (GDPR), mae ein sail gyfreithlon ar gyfer prosesu'r data personol ar gyfer y Strategaeth Hamdden fel a ganlyn:

  • Tasg Gyhoeddus - Erthygl 6 (e) – prosesu sy'n angenrheidiol ar gyfer cyflawni tasg er budd y cyhoedd neu arfer awdurdod swyddogol sydd wedi'i roi i'r rheolwr.
  • Gofal Iechyd neu Gymdeithasol - Erthygl 9(2)(h) - prosesu sy'n angenrheidiol ar gyfer meddyginiaeth alwedigaethol neu ataliol, i asesu gallu aelod o staff i weithio, diagnosis meddygol, darpariaeth gofal iechyd neu gymdeithasol neu driniaeth neu reolaeth o systemau a gwasanaethau gofal iechyd ar sail Cyfraith Ddomestig neu yn unol â chytundeb â gweithiwr iechyd proffesiynol a'r amodau a threfniadau diogelu sy'n cael eu crybwyll ym mharagraff 3.
  • Budd sylweddol i'r cyhoedd – Erthygl 9 (2) (g) – prosesu sy'n angenrheidiol er budd sylweddol y cyhoedd, ar sail cyfraith Undebol neu aelod-wladwriaeth sy'n gyfraneddol i'r nod, yn parchu hanfod hawliau diogelu data ac yn darparu mesurau addas a phenodol i ddiogelu hawliau sylfaenol a buddion y person y mae'r data amdano.
  • Deddf Diogelu Data 2018, Atodlen 1, Rhan 2, 6  – at ddibenion Statudol a Llywodraeth
  • Atodlen 1, Rhan 1, Paragraff 2, Deddf Diogelu Data 2018 – Dibenion Iechyd neu Ofal Cymdeithasol.

Mae'r ddeddfwriaeth, y rheoliadau a'r canllawiau sylfaenol sy'n ategu hyn yn cynnwys, ond heb eu cyfyngu i; 

Gan bwy neu o ble rydyn ni'n casglu data personol?

Mae'n bosibl y byddwn ni'n derbyn y data personol gan unigolion neu sefydliadau yn y categorïau canlynol:

  • Yn uniongyrchol oddi wrth ddefnyddwyr gwasanaeth trwy ffurflenni cais, ffurflenni cyfeirio a gwefan y Cyngor
  • Yn uniongyrchol oddi wrth ymddiried 3ydd partïon, megis Bwrdd Iechyd Lleol, Addysg, Gwasanaethau Cymdeithasol ac ati

Gyda phwy rydyn ni'n rhannu data personol?

Mae’n bosibl y byddwn ni'n rhannu'r data personol â’r sefydliadau canlynol:

Dim ond y lleiafswm o wybodaeth bersonol sydd ei hangen mewn perthynas â'r diben fydd yn cael ei rhannu.

Pwy

Diben

Canolfannau Hamdden

 

Trefnu'r rhaglenni ymarfer/gweithgaredd angenrheidiol

Iechyd Cyhoeddus Cymru

 

Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff

Bwrdd Iechyd Lleol Cwm Taf Morgannwg

Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff

Ysgol yn RhCT:

Gweinyddu gweithgareddau'r ysgol

Clybiau Chwaraeon Cymunedol RhCT

Trefnu cyfleoedd lleoli gwirfoddolwyr

Proseswyr Data

Mae prosesydd data yn gwmni neu sefydliad sy'n prosesu data personol ar ein rhan.  Mae ein proseswyr data yn gweithredu ar ein cyfarwyddyd ni yn unig. Does dim hawl ganddyn nhw i wneud unrhyw beth â’r data personol ac eithrio ein bod ni'n eu cyfarwyddo i wneud hynny. Fyddan nhw ddim yn rhannu'r data personol ag unrhyw sefydliad ar wahân i ni nac yn eu defnyddio at eu dibenion eu hunain.  Byddan nhw'n ei ddal yn ddiogel ac yn ei gadw am y cyfnod rydyn ni wedi'u cyfarwyddo i wneud hynny.

Dyma'r categori o broseswyr data rydyn ni'n eu defnyddio at y dibenion:

Darparwyr Systemau TG, ayyb

Am ba mor hir y byddwn ni'n cadw'r data personol?

Rydyn ni'n cadw'r data personol sydd wedi'u cynnwys yn rhan o gofnodion Gofal y Strydoedd am:

Faint o amser

Rheswm

NERS – 8 mlynedd

 

Gofynion busnes

Ffurflenni Cyfranogiad – 2 flynedd

 

Gofynion busnes

Ceisiadau Gwirfoddolwyr Chwaraeon RhCT – 2 Flynedd

Gofynion busnes

Er mwyn dilyn egwyddor storio data Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol, mae'r cofnodion yn cael eu hadolygu'n rheolaidd.  Dydy'r holl ddata personol ddim yn cael eu cadw. Dim ond data personol sy'n berthnasol i'r cofnod sy'n cael ei gadw am y cyfnod cadw cyfan. Os nad oes gwerth hirdymor neu dystiolaethol i'r wybodaeth, caiff ei dinistrio yn ôl y drefn arferol. 

Eich hawliau yn ymwneud â diogelu data

Mae'r Rheoliadau Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) yn rhoi hawliau pwysig i unigolion, gan gynnwys yr hawl i gael gweld data personol mae'r Cyngor yn eu cadw amdanoch chi.

Cliciwch yma am ragor o wybodaeth am eich hawliau o ran gwybodaeth a sut i'w harfer nhw. 

Eich hawl i wneud cwyn i'r Cyngor ynghylch diogelu data

Mae'r hawl gyda chi i gwyno i'r Cyngor os ydych chi o'r farn ein bod ni ddim wedi trin eich data personol yn gyfrifol nac yn unol ag arfer da. 

Mae modd i chi wneud hyn drwy gysylltu â'r Strategaeth Hamdden yn uniongyrchol drwy un o'r dulliau cyfathrebu canlynol. Mae modd datrys y rhan fwyaf o bryderon yn gymharol gyflym trwy alwad ffôn syml neu e-bost.

Drwy e-bostio: chwaraeonRhCT@rctcbc.gov.uk

Rhif ffôn: 01443 562202

neu anfon llythyr Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, Canolfan Chwaraeon Abercynon, Parc Abercynon, Abercynon, Aberpennar, CF45 4UY.

Fel arall, mae modd i chi wneud cwyn ffurfiol trwy Gynllun Adborth Cwsmeriaid y Cyngor gan ddefnyddio'r ddolen ganlynol (Gwneud sylw, canmoliaeth neu gŵyn ar-lein) neu e-bostiwch Swyddog Diogelu Data'r Cyngor: rheoli.gwybodaeth@rctcbc.gov.uk.

Eich hawl i wneud cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth ynghylch diogelu data

Mae modd i chi hefyd gwyno i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth os ydych chi'n anfodlon â sut rydyn ni wedi defnyddio'ch data. Serch hynny, rydyn ni'n eich annog chi i gysylltu â ni yn gyntaf a rhoi cyfle i ni ymchwilio i'ch pryder a chywiro pethau.

Mae modd cysylltu â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth fel a ganlyn:           

  • Cyfeiriad: Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth, Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Swydd Gaer, SK9 5AF
  • Rhif y Llinell Gymorth: 0303 123 1113
  • Gwefan: https://www.ico.org.uk