Skip to main content

Hysbysiad Preifatrwydd Parciau a Chefn Gwlad

Sut rydyn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth bersonol at ddibenion y Gwasanaeth Parciau a Chefn Gwlad

Mae'r Cyngor yn darparu gwasanaethau ar gyfer cymunedau lleol a'r bobl sy'n byw ynddyn nhw.  Mae cynnal y gwaith yma yn golygu bod rhaid i ni gasglu a defnyddio gwybodaeth am y bobl rydyn ni'n darparu gwasanaethau ar eu cyfer nhw a chadw cofnod o'r gwasanaethau yma. O ganlyniad i gasglu a defnyddio gwybodaeth bersonol am unigolion, mae rhaid i ni sicrhau eu bod nhw'n gwybod beth yw ein bwriad o ran defnyddio a rhannu eu gwybodaeth. 

Rydyn ni wedi crynhoi yn yr hysbysiad preifatrwydd yma rai o'r ffyrdd allweddol rydyn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth bersonol at ddibenion y Gwasanaeth Parciau a Chefn Gwlad. Dylech chi ddarllen yr wybodaeth yma a hefyd hysbysiad preifatrwydd corfforaethol y Cyngor.

1. Pwy ydyn ni a'r hyn rydyn ni'n ei wneud.

Prif waith yr adran Parciau a Chefn Gwlad yw cynnal mannau cyhoeddus a'r cyfleusterau cysylltiedig yn y Fwrdeistref Sirol. Mae'r adran hefyd yn gyfrifol am gydlynu defnydd clybiau chwaraeon o'r cyfleusterau chwaraeon awyr agored. Mae hyn yn cynnwys trefnu achlysuron a gweithgareddau sy'n cael eu cynnal yn ein parciau mwy.
 
Yn ogystal â hynny, rydyn ni'n cynnal y rhwydwaith hawliau tramwy cyhoeddus ac yn cyflawni swyddogaethau gorfodi mewn perthynas â Gorchmynion Diogelu Mannau Cyhoeddus mewn parciau a mannau chwarae. Rydyn ni hefyd yn gyfrifol am reoli nifer o randiroedd sy'n eiddo i'r Cyngor.
 
2. Pa fath o wybodaeth bersonol ydyn ni'n ei chadw ac am bwy?

Byddwn ni'n cadw gwybodaeth cyswllt defnyddwyr y gwasanaeth.
 
Rydyn ni'n cadw gwybodaeth am oedolion sy'n breswylwyr ac sydd ddim yn breswylwyr yn y Fwrdeistref Sirol.

Bydd y mathau o wybodaeth rydyn ni'n eu cadw a'u prosesu fel arfer yn cynnwys:

  • Cais am Gadw Lle er mwyn defnyddio cyfleuster
  • Enw, cyfeiriad a chod post (Cartref)
  • Rhif ffôn symudol a rhif ffôn y cartref
  • Cyfeiriad e-bost

3. O ble mae'r gwasanaeth yn cael fy ngwybodaeth?

  • Gwybodaeth sy'n cael ei darparu yn uniongyrchol gan yr unigolyn ar ffurflenni cais
  • Gwybodaeth sy'n cael ei darparu gan aelodau'r cyhoedd mewn perthynas â chŵyn neu bryder.

4. Beth fyddwn ni'n ei wneud gyda'ch gwybodaeth bersonol?

Bydd yr wybodaeth yn cael ei defnyddio er mwyn trefnu cadw lle ar gyfer cyfleusterneu er mwyn cysylltu â'r unigolyn mewn perthynas â chŵyn neu bryder neu idrefnu achlysur mewn park.

Rydyn ni hefyd yn cadw gwybodaeth ynglŷn ârhandiroedd er mwyn cyfathrebu â'r person sy'n berchen ar y rhandir.
 
5. Beth ydy'r sail gyfreithiol o ran defnyddio'r wybodaeth yma?

Mae gyda ni ddyletswydd cyfreithiol i gydymffurfio â:

  • Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014
  • Deddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd
  • Deddf Diogelu'r Amgylchedd
  • Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy

Rydyn ni'n prosesu gwybodaeth bersonol ar gyfer prosesu archebion neu er mwyn ymateb i gwynion yn rhan o'n Tasgau Cyhoedus.
 
6. Ydy'r gwasanaeth yn rhannu fy ngwybodaeth bersonol gydag unrhyw sefydliad arall?

Er mwyn i'r Gwasanaeth ymgymryd â'i ddyletswyddau mewn perthynas â swyddogaethau Gwasanaethau Parciau a Chefn Gwlad, mae rhaid i ni rannu gwybodaeth gyda'r canlynol:

Adrannau eraill y Cyngor:

  • Gofal y Strydoedd - er mwyn gweinyddu hysbysiadau cosb benodedig a glanhau
  • Marchnata - mewn perthynas ag achlysuron
  • Iechyd yr Amgylchedd - mewn perthynas ag achlysuron
  • Cynllunio mewn Argyfwng - mewn perthynas ag achlysuronSefydliadau eraill:
    • Gwasanaethau brys e.e. Heddlu, Ambiwlans, y Gwasanaeth Tân - mewn perthynas ag achlysuron
    • Cymdeithasau Rhandiroedd - er mwyn cael mynediada i restrau aros perthnasol

7. Am faint o amser fydd y gwasanaeth yn cadw fy ngwybodaeth?

Byddwn ni ond yn cadw eich gwybodaeth bersonol am gyhyd ag sydd ei hangen er mwyn gweinyddu’r archeb a darparu anfoneb ddilynol neu adborth ynglŷn ag achlysur.
 
Mae’n bosibl y bydd angen i ni gadw’r wybodaeth am gyfnod hirach os yw mater atebolrwydd yswiriant mewn perthynas â phlant yn codi. Mae modd i hyn fod o’r cyfnod lle caiff y cais ei gofrestru hyd nes bod y plentyn yn troi’n 21 oed.
 
Os oes achos cyfreithiol sy’n ymwneud â Hawliau Tramwy Cyhoeddus, bydd yr wybodaeth yn cael ei chadw am gyhyd ag sydd ei hangen er mwyn datrys yr achos.
 
Am ragor o wybodaeth, gweler Polisi ac Amserlen Cadw Gwybodaeth a Chael Gwared ar Wybodaeth y Cyngor.

8. Eich gwybodaeth, eich hawliau

Mae'r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) yn rhoi hawliau pwysig i chi, gan gynnwys yr hawl i gael gweld yr wybodaeth bersonol mae'r gwasanaethau yn ei chadw amdanoch chi.
 
Edrychwch ar fanylion pellach am eich hawliau gwybodaeth a sut i'w defnyddio nhw
 
9. Cysylltu â ni 

Os oes gyda chi unrhyw bryderon neu os ydych chi eisiau rhagor o wybodaeth am sut mae'r   gwasanaeth yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol, cysylltwch â ni gan ddefnyddio un o'r dulliau isod:

  • E-bost Parciaucefngwlad@rctcbc.gov.uk
  • Ffôn: 01443 494746
  • Trwy lythyr: Rheolwr Gwasanaeth Parciau a Chefn Gwlad, Uned 7C, Parc Busnes Hepworth, Coedcae Lane, Pont-y-clun CF72 9FQ