Skip to main content

Hysbysiad Preifatrwydd y Gwasanaeth Gofal Preswyl (Oedolion)

Sut rydyn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth bersonol i ddarparu gwasanaethau gofal preswyl i chi.

Mae'r Cyngor yn darparu gwasanaethau ar gyfer cymunedau lleol a'r bobl sy'n byw ynddyn nhw. Mae cynnal y gwaith yma yn golygu bod rhaid i ni gasglu a defnyddio gwybodaeth am y bobl rydyn ni'n darparu gwasanaethau iddyn nhw a chadw cofnod o'r gwasanaethau yma. O ganlyniad i gasglu a defnyddio gwybodaeth bersonol am unigolion, mae rhaid i ni sicrhau eu bod nhw'n gwybod beth yw ein bwriad o ran defnyddio a rhannu eu gwybodaeth. 

Yn yr hysbysiad preifatrwydd yma, rydyn ni wedi crynhoi rhai o'r ffyrdd allweddol rydyn ni'n defnyddio eich gwybodaeth bersonol i ddarparu gwasanaethau gofal preswyl i chi. Dylech chi ddarllen yr wybodaeth yma a hefyd hysbysiad preifatrwydd corfforaethol y Cyngor a hysbysiad preifatrwydd y Gwasanaethau Cymuned a Gwasanaethau i Blant

1. Pwy ydyn ni, beth ydyn ni'n ei wneud.

Mae'r Gwasanaethau Gofal Preswyl yn darparu llety a chymorth i oedolion sydd efallai'n ei chael hi'n anodd edrych ar ôl eu hunain gartref, efallai oherwydd salwch diweddar, neu oherwydd eu bod yn mynd yn fwy gwan.

Mae'r Cyngor yn rhedeg y cartrefi gofal canlynol yn RhCT: 

  • Cartref Preswyl Bronllwyn
  • Canolfan Adnoddau Cae Glas
  • Canolfan Adnoddau Cwrt Clydach
  • Cartref Preswyl Dan y Mynydd
  • Canolfan Adnoddau Ferndale House
  • Cartref Preswyl Parc Newydd
  • Canolfan Adnoddau Tegfan
  • Tŷ Pentre
  • Cartref Preswyl Garth Olwg
  • Cartref Preswyl Ystrad Fechan
  • Cartref Preswyl Troed-y-rhiw

2. Pa fath o wybodaeth bersonol ydyn ni'n ei chadw ac am bwy?  

Rydyn ni'n cadw gwybodaeth am breswylwyr y gorffennol a'r presennol. 

Bydd y math o wybodaeth y byddwn ni'n ei chasglu a'i defnyddio i ddarparu gwasanaethau gofal preswyl yn amrywio yn dibynnu ar eich anghenion unigol fel sy wedi'u nodi yn eich cynllun gofal a chymorth. Fel arfer, bydd yn cynnwys:

  • Enw, dyddiad geni ac ati 
  • Manylion o ble rydych chi wedi symud e.e. cyfeiriad blaenorol neu ysbyty.
  • Manylion eich perthynas agosaf a'i manylion cyswllt.
  • Gwybodaeth am eich anghenion a sut mae modd i ni eu bodloni gan gynnwys anghenion personol, corfforol ac emosiynol.
  • Gwybodaeth benodol am eich anghenion iechyd.
  • Gwybodaeth ddietegol.
  • Gwybodaeth am eich hil, tarddiad ethnig, crefydd, ac ati fel bod modd i ni fodloni unrhyw anghenion penodol sydd gyda chi.
  • Eich diddordebau.
  • Gwybodaeth am y gweithgareddau a'r cyfleoedd rydych chi wedi eu derbyn cefnogaeth i gymryd rhan ynddyn nhw.
  • Gwybodaeth am sut mae'r gwasanaeth wedi bodloni'ch anghenion chi
  • Gwybodaeth ariannol fel bod modd i ni cyflwyno anfoneb i chi ar gyfer eich arhosiad gyda ni ac adennill unrhyw arian sy'n ddyledus. 

3. O ble mae'r gwasanaeth yn cael fy ngwybodaeth?

Yn gyffredinol, byddwn ni'n derbyn gwybodaeth gan:

  • Chi a'ch teulu, er enghraifft pan fyddwch chi'n symud i mewn gyda ni neu wrth ddelio â'ch anghenion dyddiol.
  • Byddwn ni'n llunio ein gwybodaeth ein hunain amdanoch chi trwy eich arsylwi wrth i ni weithio gyda chi a darparu gofal i chi. Er enghraifft, mae'n ofynnol i ni gadw cofnodion o ba mor dda rydych chi'n ei wneud a phryd rydyn ni'n rhoi meddyginiaeth i chi ac ati. 
  • Byddwn ni'n derbyn gwybodaeth gan ystod o weithwyr proffesiynol iechyd a gofal cymdeithasol sy'n eich cefnogi chi ac sy'n ymwneud â'ch gofal. Efallai bydd hyn yn cynnwys:
    • Rheolwr Gofal
    • Meddyg Teulu
    • Ymgynghorydd Ysbyty
    • Nyrs Ardal 
  • Os ydych chi'n cymryd rhan mewn gweithgaredd hamdden, er enghraifft gwibdaith, efallai byddwn ni hefyd yn derbyn gwybodaeth gan y cwmni a drefnodd yr achlysur a'ch gwahoddwr (os oes angen) am eich profiad ar y daith.

4. Beth fyddwn ni'n ei wneud gyda'ch gwybodaeth bersonol?

Byddwn ni'n defnyddio'r wybodaeth uchod:

Pan fydd lle yn y cartref o'ch dewis ar gael er mwyn:

  • Asesu a oes modd i ni fodloni'ch anghenion. 
  • Rhoi cyngor a gwybodaeth i chi ac ateb unrhyw bryderon sydd gyda chi. 
  • Rheoli trefniadau i chi symud i'r cartref fel bod hyn yn digwydd mewn modd mor esmwyth â phosibl.

Unwaith y byddwch chi wedi symud i mewn i: 

  • Eich cefnogi gyda'ch gofal personol e.e. symudedd, gwisgo, ymolchi, bwyta. 
  • Monitro eich iechyd cyffredinol tra'ch bod yn y cartref a chadw cofnod o unrhyw broblemau iechyd sydd gyda chi. 
  • Eich cefnogi gyda'ch anghenion meddygol - rhoi meddyginiaeth, cysylltu â'ch meddyg teulu, meddygfa, fferyllydd, nyrs ardal er enghraifft, a threfnu presgripsiynau ac apwyntiadau meddygol. 
  • Adolygu eich lleoliad i sicrhau ei fod yn parhau i fodloni'ch anghenion. 
  • Rhoi gwybod i'ch perthynas agosaf am eich cynnydd a chysylltu â nhw i drafod unrhyw bryderon. 
  • Delio ag unrhyw argyfyngau meddygol, er enghraifft trwy alw'r gwasanaethau brys a rhoi eich hanes meddygol iddyn nhw. 
  • Bodloni a monitro eich anghenion dietegol ac unrhyw ofynion alergedd. 
  • Trefnu apwyntiadau ar eich rhan fel apwyntiad triniaeth traed, prawf llygaid ac ati. 
  • Trefnu gweithgareddau cymdeithasol efallai y byddwch chi eisiau cymryd rhan ynddyn nhw fel hobïau a diddordebau, gwibdeithiau ac ati ar eich rhan. 
  • Eich helpu chi i drafod eich arian os ydych chi'n gofyn i ni.

5. Beth ydy'r sail gyfreithiol o ran defnyddio'r wybodaeth yma?  

Mae deddf Diogelu Data yn dweud ein bod ni'n gallu defnyddio a rhannu gwybodaeth bersonol yn unig lle mae gyda ni reswm priodol a chyfreithlon dros wneud hynny. 

Ein sail gyfreithiol bennaf ar gyfer prosesu gwybodaeth bersonol er mwyn darparu gwasanaethau gofal preswyl i chi yw: 

  • Cyflawni ein rhwymedigaethau cyfreithiol a statudol o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles (Cymru) 2014.
  • Cyflawni ein rhwymedigaethau cyfreithiol a statudol o dan Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016.
  • Cyflawni ein rhwymedigaethau cytundebol. Pan fyddwch chi'n symud i mewn gyda ni, byddwch chi'n ymrwymo i gontract gyda ni.  Er mwyn i ni gyflawni ein rhwymedigaethau o dan y contract yma, bydd angen i ni brosesu eich gwybodaeth bersonol. 

Yn ychwanegol at yr uchod, efallai byddwn ni hefyd yn dibynnu ar resymau cyfreithlon eraill yn amodol ar eich anghenion penodol neu unrhyw ofynion a fydd efallai'n codi yn ystod eich arhosiad gyda ni. Er enghraifft, os bydd argyfwng meddygol lle nad ydych chi'n gallu, yn gorfforol neu'n feddyliol, gwneud penderfyniadau am eich triniaeth, efallai byddwn ni'n gwneud hyn ar eich rhan.

Dewch o hyd i ragor o wybodaeth am resymau cyfreithlon eraill y cawn ni ddibynnu arnyn nhw a phryd byddan nhw efallai'n berthnasol yn yr hysbysiad preifatrwydd Gwasanaethau Cymuned a Gwasanaethau i Blant

6. Ydy'r gwasanaeth yn rhannu fy ngwybodaeth bersonol gydag unrhyw sefydliad arall?

Er mwyn darparu gwasanaethau gofal preswyl i chi ac i fodloni'ch anghenion personol fel sy wedi'u nodi yn eich cynllun gofal a chymorth, efallai byddwn ni'n rhannu eich gwybodaeth gydag ystod o sefydliadau a gweithwyr proffesiynol sy'n rhan o'ch gofal. Mae modd i hyn gynnwys:

Gwasanaethau eraill y Cyngor fel:

  • Gweithwyr Cymdeithasol
  • Y Garfan Adolygu
  • Yr Adran Gyllid - er enghraifft, fel bod modd i ni adennill cost eich arhosiad gyda ni
  • Y Garfan Cwynion - yn achos unrhyw bryderon

Gwasanaethau iechyd a gweithwyr iechyd proffesiynol er enghraifft:

  • Meddyg Teulu
  • Nyrs Ardal
  • Ymgynghorydd Ysbyty
  • Deintydd
  • Ciropodydd (arbenigwr traed)
  • Optegydd

Sefydliadau eraill fel:

  • Age Connect neu Age Concern
  • Gwasanaethau Eiriolaeth
  • Gwasanaethau Trafnidiaeth Hygyrch
  • Cymdeithas Alzheimer Cwm Taf
  • Awdurdodau Lleol - os ydych chi eisiau symud i ardal arall.

7.    Am faint o amser fyddwch chi'n cadw fy ngwybodaeth?

Yn gyffredinol, byddwn ni'n cadw eich gwybodaeth am eich anghenion gofal cymdeithasol am 7 mlynedd ar ôl i'r cyfnod rydych chi'n aros gyda ni ddod i ben. 

8.    Eich gwybodaeth, eich hawliau

Mae'r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) yn rhoi hawliau pwysig i chi, gan gynnwys yr hawl i gael mynediad i'r wybodaeth bersonol mae'r gwasanaethau yn ei chadw amdanoch chi. 

Edrychwch ar fanylion pellach am eich hawliau gwybodaeth a sut i'w defnyddio nhw

9.    Cysylltwch â ni  

Os oes gyda chi unrhyw bryderon neu os ydych chi eisiau rhagor o wybodaeth am sut mae'r gwasanaeth yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol, cysylltwch â ni gan ddefnyddio un o'r dulliau isod: 

Cartref Gofal Preswyl Bronllwyn

Ffordd Colwyn,

Y Gelli

Y Pentre

CF41 7NW

Ffôn: 01443   435873

E-bost:cartrefpreswylbronllwyn@rhondda-cynon-taf.gov.uk

Cartref Gofal Preswyl Cae Glas

Heol Caerdydd  

Y Ddraenen   Wen

Pontypridd

CF37 5AH

Ffôn: 01443 841234

E-bost: cartrefpreswylecaeglas@rhondda-cynon-taf.gov.uk

Cartref Gofal Preswyl Cwrt Clydach

Heol Brithweunydd

Trealaw

Tonypandy

CF40 2UD

Ffôn: 01443 433283

E-bost:cartrefpreswylcwrtclydach@rhondda-cynon-taf.gov.uk

Cartref Gofal Preswyl Dan-Y-Mynydd

Rhodfa Bronwydd

Y Porth

CF39 9AQ

01443 685944

E-bost:cartrefpreswyldanymynydd@rhondda-cynon-taf.gov.uk

 

Cartref Gofal Preswyl Ferndale House

Heol yr Orsaf

Glynrhedynog

CF43 4ND

Ffôn: 01443 730614

 E-bost:cartrefpreswylferndalehouse@rhondda-cynon-taf.gov.uk

 

Cartref Gofal Preswyl Garth Olwg

Y Brif Ffordd

Pentre'r Eglwys

Pontypridd

CF38 1BT

Ffôn: 01443   203466

 E-bost:cartrefpreswylgartholwg@rhondda-cynon-taf.gov.uk

Cartref Gofal Preswyl Parc Newydd

Green Park

Tonysguboriau

CF72 8RB

Ffôn: 01443 237848

E-bost:cartrefpreswylparcnewydd@rhondda-cynon-taf.gov.uk

Cartref Gofal Preswyl Troed-y-rhiw

Ffordd Troed-y-rhiw

Aberpennar

CF45 4LD

Ffôn: 01685   473520

E-bost:cartrefpreswyltroedyrhiw@rhondda-cynon-taf.gov.uk

Cartref Gofal Preswyl   Tegfan

Stryd Llewelyn

Aberdâr

CF44 8HU

Ffôn: 01685 878485

Cartref Gofal Preswyl Ystrad Fechan

Heol yr Orsaf

Treorci

CF42 6HN

Ffôn: 01443 773300

E-bost:cartrefpreswylystradfechan@rhondda-cynon-taf.gov.uk

Tŷ Pentre

Ffordd y Pentre

Y Pentre

CF41 7DJ

Ffôn: 01443 441929

 

Carfan Gwella Gwasanaeth a   Chwynion

Tŷ Elái

Dwyrain Dinas Isaf

Trewiliam

CF40 1NY

Ffôn: 01443 425003

E-bost:gwrando.cwynion@rhondda-cynon-taf.gov.uk