Skip to main content

Hysbysiad Preifatrwydd Grant Cartrefi Gwag Tasglu'r Cymoedd

Sut rydyn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth bersonol ar gyfer Grantiau Tai Ffyniant a Datblygu sy'n cyflawni dibenion Grant Cartrefi Gwag Tasglu'r Cymoedd

Mae'r Cyngor yn darparu gwasanaethau ar gyfer cymunedau lleol a'r bobl sy'n byw ynddyn nhw.  Mae cynnal y gwaith yma'n golygu bod rhaid i ni gasglu a defnyddio gwybodaeth am y bobl rydyn ni'n darparu gwasanaethau ar eu cyfer nhw a chadw cofnod o'r gwasanaethau yma. Am ein bod ni'n casglu a defnyddio gwybodaeth bersonol am unigolion, rhaid i ni sicrhau eu bod nhw'n gwybod beth yw ein bwriad o ran defnyddio a rhannu eu gwybodaeth. 

Rydyn ni wedi crynhoi yn yr hysbysiad preifatrwydd yma rai o'r ffyrdd allweddol rydyn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth bersonol Grantiau Tai Ffyniant a Datblygu sy'n cyflawni dibenion Grant Cartrefi Gwag Tasglu'r Cymoedd. Dylech chi ddarllen yr wybodaeth yma yn ogystal â hysbysiad preifatrwydd corfforaethol y Cyngor.

1.    Pwy ydyn ni, beth rydyn ni'n ei wneud.

Mae'r Garfan Cartrefi Gwag yn gweithio gydag Awdurdodau Lleol o fewn Tasglu'r Cymoedd i gyflwyno ceisiadau grant cartrefi gwag. 

Mae'r tasglu'n cynnwys Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful, Pen-y-bont ar Ogwr, Abertawe, Torfaen, Blaenau Gwent, Caerffili, Sir Gaerfyrddin, a Chastell-nedd Port Talbot.

Er nad yw'n rhan o'r cynllun o dan Gam 2 y grant, mae data personol trigolion Castell-nedd Port Talbot sy'n mynegi diddordeb yn y grant yn cael ei brosesu.

Mae'r Cynllun yn cynnig grant i ymgeiswyr adfywio cartrefi gwag fel bod modd eu defnyddio eto.  Mae'n cefnogi'r gwaith o adfer cartrefi gwag, helpu i adfywio cymunedau, darparu mwy o ddewis a llety addas i breswylwyr.

2.    Pa fath o wybodaeth bersonol rydyn ni'n ei chadw ac am bwy?

Wrth wneud cais am grant cartrefi gwag byddwn ni'n cadw eich gwybodaeth bersonol i brosesu'r cais. Bydd hyn hefyd yn cynnwys gwybodaeth am unrhyw un sy'n byw yn eich cartref sy'n hŷn na 17 oed.

Mae'r mathau o wybodaeth y byddwn ni'n ei chadw yn cynnwys y canlynol;

  • Enw a chyfeiriad
  • Gwybodaeth gyswllt gan gynnwys rhif ffôn symudol neu rhif ffôn cartref a chyfeiriad e-bost
  • Dyddiad geni
  • Rhif Yswiriant Gwladol
  • Manylion y Cyfrif Banc (ar gyfer talu cymorth grant)
  • Tystiolaeth o berchen yr eiddo (gan gynnwys dogfennau Teitl y Gofrestrfa Tir), cyfrifon busnes a manylion Hunanasesu
  • Manylion am werth yr eiddo a manylion y morgais
  • Gwybodaeth bersonol arall a gyflwynwyd fel tystiolaeth i gefnogi'ch cais am grant
  • Manylion unigolion eraill sy'n gysylltiedig â'ch cais, gall hyn gynnwys eich partner a phobl eraill sy'n byw yn eich cartref
  • Hawl i gael budd-daliadau a gwybodaeth ategol

Efallai byddwn ni'n derbyn / casglu'r wybodaeth ganlynol gan eraill i gefnogi'ch cais:

  • Cadarnhad o Berchenogaeth eich tŷ / eiddo (y tŷ / eiddo rydych chi'n gwneud cais am gymorth grant ar ei gyfer)
  • Cadarnhad o faint o amser rydych chi wedi bod yn y tŷ / eiddo
  • Cadarnhad o'ch hawl i ostyngiad yn Nhreth y Cyngor
  • Cadarnhad eich bod wedi cofrestru i ddweud byddwch chi'n byw yn y tŷ / eiddo
  • Cadarnhad o'ch Rhif Yswiriant Gwladol
  • Tystiolaeth eich bod yn berchen ar y tŷ / yr eiddo, neu yn denant yn y tŷ / yr eiddo
  • Prawf hunaniaeth (er enghraifft, ond heb ei gyfyngu i; pasbort, trwydded yrru, bil cyfleustodau ac ati).

3.    O ble mae'r gwasanaeth yn cael fy ngwybodaeth?

Mae'r gwasanaeth yn cael eich gwybodaeth o nifer o ffynonellau:

  • Chi, yr ymgeisydd, ar ôl i chi gwblhau'r ffurflen gais am grant
  • Ymholiadau dros y ffôn, e-bost, llythyr, neu ymholiad ar-lein
  • Chwiliad Pridiannau Tir Lleol
  • Chwiliadau y Gofrestrfa Tir
  • Meysydd gwasanaeth eraill o fewn y Cyngor e.e. Treth y Cyngor, Budd-daliadau Tai
  • Gwybodaeth a ddarperir gan awdurdodau lleol Tasglu'r Cymoedd h.y. Merthyr Tudful, Pen-y-bont ar Ogwr, Abertawe, Torfaen, Blaenau Gwent, Caerffili, Sir Gaerfyrddin a Chastell-nedd Port Talbot.

4.    Beth fyddwn ni'n ei wneud gyda'ch gwybodaeth bersonol?

Er mwyn prosesu'ch cais am grant ac asesu'ch cymhwysedd i dderbyn y cyllid grant, fe wnawn ni'r canlynol:

  • Rhoi cyngor cyn i chi gyflwyno cais
  • Gwirio gydag adrannau eraill y Cyngor, fel Adran Treth y Cyngor, er mwyn asesu eich cymhwysedd
  • asesu a chymeradwyo a gwneud taliadau sy'n ymwneud â'ch cais am Grant Cyfleusterau Anabl Statudol a Chymorth Grant Dewisol
  • Galluogi asesu ceisiadau am Grantiau Dewisol mae aelodau o'ch cartref/teulu yn eu gwneud
  • I wneud taliad i chi neu'r contractwr o'ch dewis a allai gynnwys, adeiladwr, trydanwr, plymwr, pensaer ac ati mewn perthynas â'ch cais am grant
  • Cyhoeddi gyfarwyddyd i gofrestru Pridiant Cyfreithiol mewn perthynas â'ch dyfarniad grant
  • Casglu gwybodaeth adborth cwsmeriaid mewn perthynas â'r broses ymgeisio ac os hoffech chi gymryd rhan i hyrwyddo'r cynllun (i gynnwys adroddiadau mewnol/allanol a/neu gyfryngau cymdeithasol)

 5.    Beth yw'r sail gyfreithiol o ran defnyddio'r wybodaeth yma?

Gan fod y Garfan Cartrefi Gwag yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i adfer cartrefi gwag, helpu i adfywio cymunedau a darparu rhagor o ddewis a llety addas i breswylwyr byddwn ni'n prosesu eich gwybodaeth yn unol â;

  • Deddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996
  • Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai
  • Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio, Adnewyddu Tai yn y Sector Preifat 2002
  • Polisi Tai Sector Preifat Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf 2014

6.    Ydy'r gwasanaeth yn rhannu fy ngwybodaeth bersonol ag unrhyw sefydliad arall?

Bydd angen gwybodaeth ychwanegol amdanoch chi ar y Garfan Cartrefi Gwag er mwyn prosesu'ch cais am grant, er mwyn i ni wneud hynny byddwn yn rhannu eich gwybodaeth â'r canlynol:

Adrannau eraill y Cyngor: 

  • Treth y Cyngor
  • Adran Budd-daliadau Tai
  • Gwasanaethau Cyfreithiol
  • Cyllid
  • Awdurdodau Lleol Ardal Tasglu'r Cymoedd

Unigolion eraill:

  • Datblygwyr, Adeiladwyr, Penseiri
  • Eich cynrychiolwyr cyfreithiol
  • Eich asiant/cynrychiolydd

7.    Am faint o amser bydd fy ngwybodaeth yn cael ei chadw?

Byddwn ni dim ond yn cadw eich gwybodaeth bersonol cyhyd ag y bydd arnon ni ei hangen i ddarparu'r gwasanaeth perthnasol ac i ddelio ag unrhyw gwestiynau neu gwynion rydyn ni'n eu derbyn am hyn. Byddwn ni'n gwneud hyn am 10 mlynedd. 

8.    Eich gwybodaeth, eich hawliau

Mae'r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) yn rhoi hawliau pwysig i chi, gan gynnwys yr hawl i gael gweld yr wybodaeth bersonol mae'r gwasanaethau yn ei chadw amdanoch chi.

Edrychwch ar ragor o wybodaeth am eich hawliau gwybodaeth a sut i'w defnyddio nhw.

9.    Cysylltwch â ni

Os oes gyda chi unrhyw bryderon neu os ydych chi eisiau rhagor o wybodaeth am sut mae'r gwasanaeth yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol, cysylltwch â ni gan ddefnyddio un o'r dulliau isod:

E-bost: www.rctcbc.gov.uk/grantiaucartrefigwag  www.rctcbc.gov.uk/emptyhomesgrant

Trwy lythyr: Ffyniant a Datblygu, Buddsoddiadau a Grantiau Tai, Tŷ Sardis,Heol Sardis, Pontypridd, CF37 1DU