Skip to main content

Hysbysiad Preifatrwydd ar gyfer Cynnal a Chadw offer sy'n cael ei ddarparu gan Gwmni Vision Products

Sut rydyn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth bersonol ar gyfer Cynnal a Chadw offer sy'n cael ei ddarparu gan Gwmni Vision Products.

Mae'r Cyngor yn darparu gwasanaethau ar gyfer cymunedau lleol a'r bobl sy'n byw ynddyn nhw.  Mae cynnal y gwaith yma'n golygu bod rhaid i ni gasglu a defnyddio gwybodaeth am y bobl rydyn ni'n darparu gwasanaethau ar eu cyfer nhw a chadw cofnod o'r gwasanaethau yma. O ganlyniad i gasglu a defnyddio gwybodaeth bersonol am unigolion, mae rhaid i ni sicrhau eu bod nhw'n gwybod beth yw ein bwriad o ran defnyddio a rhannu eu gwybodaeth. 

Yn yr hysbysiad preifatrwydd yma, rydyn ni'n crynhoi rhai o'r prif ffyrdd rydyn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth bersonol wrth wasanaethu / cynnal cymhorthion neu offer sy'n cael eu darparu gan Gwmni Vision Products i ddefnyddwyr y gwasanaeth. Dylech chi ddarllen yr wybodaeth yma yn ogystal â hysbysiad preifatrwydd corfforaethol y Cyngor.

1. Pwy ydyn ni, beth rydyn ni'n ei wneud.

Mae Cwmni Vision Products ynfusnes sy'n derbyn cymorth ac yn rhan o Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf. Mae'r gwasanaeth yn darparu cymhorthion ac offer syml a chymhleth, fel sgwteri symudedd a gwelyau arbennig, i ddefnyddwyr gwasanaeth ag anableddau / anghenion penodol.

Mae gyda ni ddyletswydd i gynnal a chadw'r cymhorthion a'r offer rydyn ni'n eu darparu ar gyfer defnyddwyr y gwasanaeth - sydd wedi'u hatgyfeirio aton ni gan Weithwyr Proffesiynol, er enghraifft Gweithwyr Cymdeithasol, Ffisiotherapyddion, Gweithwyr Iechyd Proffesiynol - bob blwyddyn neu bob dwy flynedd er mwyn sicrhau ei fod yn dal i fod yn addas at ddibenion yr unigolyn, a gweld os oes angen unrhyw atgyweiriadau ar ddarn o offer neu'i amnewid.

Rydyn ni'n darparu'r gwasanaeth yma ar gyfer cwsmeriaid sy'n byw yn ardal Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg, h.y. Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful a Phen-y-bont ar Ogwr.

2. Pa fath o wybodaeth bersonol rydyn ni'n ei chadw ac am bwy?

Rydyn ni'n cadw gwybodaeth am ddefnyddwyr gwasanaeth y gorffennol a'r presennol sydd wedi derbyn cymhorthion ac offer gennym ni.

Y math o wybodaeth sydd gyda ni yw gwybodaeth ar gyfer trefnu gwasanaethu a chynnal a chadw'r offer wedi'i ddarparu gennym yn flaenorol. Mae modd i'r wybodaeth hynny gynnwys, ond nid yw'n gyfyngedig i:

  • Manylion cyswllt defnyddwyr y gwasanaeth, gan gynnwys enw, cyfeiriad, rhif ffôn a chyfeiriad e-bost.
  • Gwybodaeth feddygol defnyddwyr y gwasanaeth a gwybodaeth am eu hanghenion gofal a chymorth.
  • Manylion cyswllt ar gyfer cynhalwyr, teulu neu ffrindiau sy'n ymwneud â gofal defnyddwyr y gwasanaeth ac sy'n gallu cymryd y camau angenrheidiol pe na bai'r cwsmer yn gallu gwneud hynny, er enghraifft, bod ar gael i beiriannydd ddod i wasanaethu/atgyweirio'r offer ac ati.
  • Gwybodaeth am y cymhorthion a'r offer sydd wedi'u cyflenwi. 

Efallai y bydd peth o'r wybodaeth bersonol rydyn ni'n ei chasglu neu yn ei derbyn am ddefnyddwyr y gwasanaeth a'u cynhalwyr yn ddata 'categori arbennig' sensitif.  Mae categorïau arbennig o ddata yn cynnwys gwybodaeth am iechyd corfforol a meddyliol, cyfeiriadedd rhywiol, tarddiad hiliol neu ethnig, cyfeiriadedd rhywiol, data biometreg a data arall. Mae'n bosibl bod y math yma o wybodaeth yn cael ei chasglu er mwyn darparu gwasanaethau diogel ac addas ar gyfer eu hanghenion i ddefnyddwyr y gwasanaeth a'u cynhalwyr.

Efallai y byddwn ni hefyd yn prosesu gwybodaeth bersonol am gynhalwyr defnyddwyr y gwasanaeth er mwyn eu helpu i ddefnyddio unrhyw gymhorthion ac offer yn ddiogel ac yn briodol. Os yw defnyddwyr y gwasanaeth yn rhannu gwybodaeth am eu cynhalwyr mewn gohebiaeth ysgrifenedig, electronig neu dros y ffôn, mae'n bosibl y byddwn ni hefyd yn cofnodi'r wybodaeth yma ar ein systemau.

3. O ble mae'r gwasanaeth yn cael fy ngwybodaeth?

Yn wreiddiol, cafodd yr wybodaeth sydd gyda ni ei darparu gan y Gweithiwr Proffesiynol perthnasol a gynhaliodd yr asesiad a nodi anghenion y cleient.

Mae enghreifftiau o'r Gweithwyr Proffesiynol sy'n cyfeirio'ch manylion aton ni yn cynnwys, ond nid yw'n gyfyngedig i:

  • Gweithiwr Cymdeithasol
  • Meddygon Teulu
  • Ffisiotherapyddion
  • Therapyddion galwedigaethol

4. Beth fyddwn ni'n ei wneud gyda'ch gwybodaeth bersonol?

Bob yn ail flwyddyn neu'n flynyddol, yn dibynnu ar y math o offer sydd wedi'i gyflenwi, byddwn ni'n cysylltu â chi i drefnu amser cyfleus i ymweld â'ch cartref i wasanaethu a chynnal cymhorthion a/neu offer gafodd eu darparu i chi.

Yn dilyn unrhyw waith cynnal a chadw, byddwn ni'n diweddaru ein systemau gyda manylion am yr ymweliad, h.y. nodi a oedd yr offer yn ddiffygiol ac angen unrhyw atgyweiriadau, neu nodi a oedd angen i ni newid yr offer.

5. Beth yw'r sail gyfreithiol o ran defnyddio'r wybodaeth yma?

Mae gyda ni rwymedigaeth gyfreithiol o dan Ddeddfwriaeth Iechyd a Diogelwch (yn benodol Rheoliadau Gweithrediadau Codi ac Offer Codi 1998 (LOLER) a Rheoliadau Darparu a Defnyddio Offer Gwaith 1998 (PUWER)) i wasanaethu a chynnal yr offer rydyn ni wedi'i ddarparu i ddefnyddwyr y gwasanaeth.

Rydyn ni hefyd yn prosesu gwybodaeth bersonol yn unol â'n gofynion cytundebol gyda'r sefydliad Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar gyfer gwasanaethu a chynnal a chadw offer sy'n cael ei ddarparu i ddefnyddwyr y gwasanaeth.

6. Ydy'r gwasanaeth yn rhannu fy ngwybodaeth bersonol ag unrhyw sefydliad arall?

Efallai y byddwn ni'n gofyn ar adegau i gwmni trydydd parti ymgymryd â gwaith cynnal a chadw offer ar ein rhan. Pan fydd hyn yn digwydd, bydd yr wybodaeth y byddwn ni'n ei rhannu gyda'r cwmni yn cynnwys, ond mae'n bosibl na fydd yn gyfyngedig i:

  • Enw'r cwsmer / cynrychiolydd
  • Cyfeiriad y cwsmer
  • Manylion cyswllt y cwsmer / cynrychiolydd
  • Math o offer sydd angen ei wasanaethu.

Rydyn ni hefyd yn adrodd yn ôl i'r sefydliad iechyd a gofal cymdeithasol perthnasol i'w diweddaru ar y gwaith gafodd ei wneud ar ran defnyddiwr y gwasanaeth.

7. Am faint o amser bydd fy ngwybodaeth yn cael ei chadw?

Ar hyn o bryd, rydyn ni'n cadw cofnodion am 7 mlynedd.

8. Eich gwybodaeth, eich hawliau

Mae'r Rheoliadau Cyffredinol ar Ddiogelu Data yn rhoi hawliau pwysig i chi, gan gynnwys yr hawl i gael gweld yr wybodaeth bersonol mae'r gwasanaethau yn ei chadw amdanoch chi.

Cliciwch yma am ragor o wybodaeth am eich hawliau gwybodaeth a sut i'w defnyddio nhw. 

9. Cysylltu â ni

Os oes gyda chi unrhyw bryderon neu os ydych chi eisiau rhagor o wybodaeth am sut mae'r gwasanaeth yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol, cysylltwch â ni gan ddefnyddio un o'r dulliau isod:

Drwy e-bostio:  VisionProductsBusiness@rctcbc.gov.uk

Drwy ffonio: 01443 229988

Drwy anfon llythyr at:

CWMNI VISION PRODUCTS

Ystad Ddiwydiannol Lôn Coedcae,

Pont-y-clun,

Taf-Elái

CF72 9GP