Skip to main content

Hysbysiad Preifatrwydd - Atyniadau Ymwelwyr a Gwasanaethau Treftadaeth

Sut rydyn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth bersonol at ddibenion Atyniadau Ymwelwyr a Gwasanaethau Treftadaeth 

Mae'r Cyngor yn darparu gwasanaethau ar gyfer cymunedau lleol a'r bobl sy'n byw ynddyn nhw.  Mae cynnal y gwaith yma yn golygu bod rhaid i ni gasglu a defnyddio gwybodaeth am y bobl rydyn ni'n darparu gwasanaethau ar eu cyfer nhw a chadw cofnod o'r gwasanaethau yma. O ganlyniad i gasglu a defnyddio gwybodaeth bersonol am unigolion, mae rhaid i ni sicrhau eu bod nhw'n gwybod beth yw ein bwriad o ran defnyddio a rhannu eu gwybodaeth. 

Rydyn ni wedi crynhoi yn yr hysbysiad preifatrwydd yma rai o'r ffyrdd allweddol rydyn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth bersonol at ddibenion Atyniadau Ymwelwyr a Gwasanaethau Treftadaeth. Dylech chi ddarllen yr wybodaeth yma yn ogystal â hysbysiad preifatrwydd corfforaethol y Cyngor

1.      Pwy ydyn ni, beth ydyn ni'n ei wneud.

Mae Adran Atyniadau Ymwelwyr a Gwasanaethau Treftadaeth Rhondda Cynon Taf yn gyfrifol am reoli prif atyniadau ymwelwyr RhCT. Mae'r atyniadau yma'n cynnwys Parc Treftadaeth Cwm   Rhondda, Parc Gwledig Cwm Dâr, Lido Pontypridd ac Amgueddfa Cwm Cynon. 

 2.      Pa fath o wybodaeth bersonol ydyn ni'n ei chadw ac am bwy?

Pan rydych chi'n prynu tocynnau ar gyfer achlysur sy'n cael ei gynnal yn un o atyniadau'r Cyngor, e.e. Parc Treftadaeth Cwm Rhondda neu Barc Gwledig Cwm Dâr, bydd angen i ni nodi rhai manylion sylfaenol amdanoch chi er mwyn cadw'r tocyn. Am ragor o wybodaeth ynglŷn â sut rydyn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth bersonol at ddibenion achlysuron a thocynnau, darllenwch Hysbysiad Preifatrwydd 'Achlysuron'.

Pan rydych chi'n trefnu i logi un o'n lleoliadau, bydd angen i ni nodi'ch manylion sylfaenol er mwyn cadarnhau'r archeb a threfnu taliad. Am ragor o wybodaeth ynglŷn â sut rydyn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth wrth i chi logi lleoliad, darllenwch Hysbysiad Preifatrwydd Taliadau (i'r Cyngor).

Os ydych chi'n defnyddio cyfleusterau'r Lido, rydyn ni'n defnyddio system cadw lle Gladstone. Dyma'r un system sy'n cael ei defnyddio gan y Gwasanaeth Hamdden. Pan rydych chi'n ymweld â'r Lido, byddwn ni'n creu cyfrif i chi gan ddefnyddio'r system yma (os nad oes gyda chi gyfrif yn barod). Bydd y cyfrif yma'n nodi'ch manylion sylfaenol, e.e. enw, dyddiad geni, cyfeiriad, rhif ffôn a chyfeiriad e-bost.

Rydyn ni'n cadw cofnod o unrhyw unigolyn sy'n rhoi neu sy'n benthyg eitemau wrth/i amgueddfeydd Cyngor.

O bryd i'w gilydd, mae'n bosibl y byddwn ni'n cysylltu â chi at ddibenion marchnata, neu i hyrwyddo achlysuron yn y dyfodol rydyn ni'n meddwl bydd o ddiddordeb i chi. Am ragor o wybodaeth darllenwch Hysbysiad Preifatrwydd y Gwasanaethau Marchnata a Newyddion.

Mae'n bosibl y byddwn ni hefyd yn gofyn i gwsmeriaid gwblhau arolygon. Mae hyn er mwyn sicrhau ein bod ni'n darparu'r gwasanaeth gorau posibl, neu er mwyn nodi a oes modd gwneud unrhyw welliannau. Am ragor o wybodaeth, darllenwch Hysbysiad Preifatrwydd y Gwasanaeth Ymgynghori. 

 3.      O ble mae'r gwasanaeth yn cael fy ngwybodaeth?  

Mae'r wybodaeth yn cael ei chasglu gennych chi mewn sawl ffordd wahanol, er enghraifft gan ddefnyddio'r wybodaeth sydd wedi'i nodi ar ffurflenni cadw lle, arolygon i gwsmeriaid, systemau talu, benthyciadau a rhoddion y gwasanaethau treftadaeth, ffurflenni damweiniau, cystadlaethau.   

4.      Beth fyddwn ni'n ei wneud gyda'ch gwybodaeth bersonol?

Rydyn ni angen yr wybodaeth yma er mwyn deall eich anghenion a darparu gwasanaeth gwell i chi, yn arbennig ar gyfer y rhesymau canlynol:    

  • Cadw cofnodion mewnol.    
  • Efallai byddwn ni'n defnyddio'r wybodaeth yma i wella ein cynnyrch a'n gwasanaethau.    
  • Mae'n bosibl y byddwn ni'n cysylltu â chi at ddibenion marchnata / gwaith ymchwily farchnad.
  • Mae'n bosibl y byddwn ni'n dadansoddi'ch gwybodaeth er mwyn deall anghenion a dewisiadau ein cwsmeriaid. Mae hyn yn cynnwys o ble mae ein cwsmeriaid yn dod, pa wasanaethau a chynnyrch sydd o ddiddordeb iddyn nhw, beth sy'n cymell yr unigolyn i ddefnyddio'n gwasanaethau ni a pha ddulliau marchnata sy'n eich cyrraedd chi.
  • Os ydych chi wedi dewis ymuno (‘opt in’) â'n system bostio, mae'n bosibl y byddwn ni'n defnyddio'r manylion cyswllt rydych chi wedi'u darparu er mwyn cysylltu â chi o bryd i'w gilydd. Mae hyn at ddibenion ymchwil y farchnad. Mae'n bosib byddwn ni'n cysylltu â chi drwy e-bost, ffôn, ffacs neu bost. 
  • Bydd ein partner Digi Tickets yn prosesu eich tocynnau digidol.

5.      Beth ydy'r sail gyfreithiol o ran defnyddio'r wybodaeth yma?  

Mae deddf Diogelu Data yn dweud ein bod ni'n cael defnyddio a rhannu gwybodaeth bersonol dim ond lle mae gyda ni reswm priodol a chyfreithlon dros wneud hynny.

Gwasanaethau Marchnata a Newyddion - Caniatâd / Tasg Gyhoeddus     

Tocynnau a chadw lle - Cytundeb

Mewn Argyfwng - mae gyda ni rwymdeigaeth gyfreithiol, yn unol â Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith, i brosesu gwybodaeth bersonol mewn perthynas â damwain.

Cofnod Rhoddion Amgueddfeydd - rhwymedigaeth gyfreithiol yn unol â Deddf Llyfrgelloedd ac Amgueddfeydd 1964 a Deddf Llywodraeth Leol 1972.

Cofnod o Wirfoddolwyr - Tasg Gyhoeddus

6.      Ydy'r gwasanaeth yn rhannu fy ngwybodaeth bersonol ag unrhyw sefydliad arall?

Fydd gwybodaeth ddim yn cael ei rhannu gyda gwasanaethau mewnol neu allanol.    

7.      Am faint o amser fydd y gwasanaeth yn cadw fy ngwybodaeth? 

Cewch chi gysylltu â ni i ddileu eich cofnod o'n systemau ar unrhyw adeg, os dydych chi ddim yn defnyddio'n gwasanaethau bellach (gweler isod am ragor o fanylion ynghylch eich hawliau gwybodaeth). 

Os nad ydych chi wedi defnyddio'n gwasanaeth yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, byddwn ni'n cael gwared ar unrhyw gofnodion sydd gyda ni amdanoch chi. Os yw hyn wedi digwydd ac rydych chi'n penderfynu ailddechrau defnyddio'n gwasanaeth, bydd rhaid i chi gyflawni'r broses cadw lle / cofrestru berthnasol ar gyfer y gwasanaeth rydych chi eisiau'i ddefnyddio.  

8.      Eich gwybodaeth, eich hawliau

Mae'r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) yn rhoi hawliau pwysig i chi, gan gynnwys yr hawl i gael gweld yr wybodaeth bersonol mae'r gwasanaethau yn ei chadw amdanoch chi.

Edrychwch ragor o wybodaeth am eich hawliau gwybodaeth a sut i'w defnyddio nhw. 

9.      Cysylltwch â ni 

Os oes gyda chi unrhyw bryderon neu os ydych chi eisiau rhagor o wybodaeth am sut mae'r gwasanaeth yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol, cysylltwch â ni gan ddefnyddio un o'r dulliau isod:

E-bost : lidoponty@rctcbc.gov.uk

Ffôn : 03000040000

Trwy lythyr : Parc Treftadaeth Cwm Rhondda, Hen Lofa Lewis Merthyr, Heol Coed Cae, Trehafod, CF37 2NP