Skip to main content

Hysbysiad Preifatrwydd y Gwasanaeth Diogelwch y Ffyrdd

Sut rydyn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth bersonol at ddibenion Diogelwch y Ffyrdd

Mae'r Cyngor yn darparu gwasanaethau ar gyfer cymunedau lleol a'r bobl sy'n byw ynddyn nhw. Mae cynnal y gwaith yma yn golygu bod rhaid i ni gasglu a defnyddio gwybodaeth am y bobl rydyn ni'n darparu gwasanaethau ar eu cyfer nhw a chadw cofnod o'r gwasanaethau yma. O ganlyniad i gasglu a defnyddio gwybodaeth bersonol am unigolion, mae rhaid i ni sicrhau eu bod nhw'n gwybod beth yw ein bwriad o ran defnyddio a rhannu eu gwybodaeth. 

Rydyn ni wedi crynhoi yn yr hysbysiad preifatrwydd yma rai o'r ffyrdd allweddol rydyn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth bersonol at ddibenion Diogelwch y Ffyrdd. Dylech chi ddarllen yr wybodaeth yma yn ogystal â hysbysiad preifatrwydd corfforaethol y Cyngor.

1. Pwy ydyn ni, beth ydyn ni'n ei wneud. 

Mae Gwasanaeth Diogelwch y Ffyrdd yn darparu ystod amrywiol o wasanaethau rheng flaen a chymorth. Mae'n:  

  • Darparu addysg a hyfforddiant diogelwch y ffyrdd, gan gynnwys:   
    • Pass Plus Cymru   
    • Hyfforddiant i Gerddwyr Ifainc / Kerbcraft   
    • Hyfforddiant Safonau Beicio Cenedlaethol   
    • Cyrsiau ar gyfer gyrwyr hŷn  

2. Pa fath o wybodaeth bersonol ydyn ni'n ei chadw ac am bwy? 

Rydyn ni'n cadw gwybodaeth am ddefnyddwyr y gwasanaeth sy'n cymryd rhan yn y cyrsiau hyfforddi rydyn ni'n eu darparu. Bydd y mathau o wybodaeth rydyn ni'n eu cadw a'u prosesu fel arfer yn   cynnwys:  

  • Manylion cyswllt, gan gynnwys enw, cyfeiriad, rhif ffôn a chyfeiriad e-bost  
  • Rhif eich trwydded yrru (ar gyfer ymgeiswyr  Pass Plus Cymru)  
  • Gwybodaeth adnabod, megis dyddiad geni  
  • Gwybodaeth arall sy'n berthnasol i unrhyw anghenion arbennig defnyddiwr y gwasanaeth e.e. cyflyrau meddygol

3. O ble mae'r gwasanaeth yn cael fy ngwybodaeth?

Rydyn ni'n cael yr wybodaeth yma oddi wrthoch chi yn uniongyrchol. Mae'n bosibl y bydd yr hyfforddwr gyrru yn rhannu gwybodaeth bersonol ymgeiswyr Pass Plus Cymru gyda ni hefyd.

 

4. Beth fyddwn ni'n ei wneud gyda'ch gwybodaeth bersonol? 

Bydd yr wybodaeth yn cael ei rhannu gyda:  

  • Hyfforddwyr gyrru cymeradwy - er mwyn sicrhau bod ymgeiswyr Pass Plus Cymru yn cwblhau elfennau ymarferol y cwrs  
  • Hyfforddwyr gyrru cymeradwy - er mwyn sicrhau bod modd i'r rheiny sy'n cymryd rhan yn y cwrs i bobl hŷn gyflawni'r elfennau ymarferol  
  • Diogelwch Ffyrdd Cymru - i gael eich cynnwys mewn raffl sy'n cael ei chynnal unwaith bob chwarter (Pass Plus Cymru)  
  • Cynorthwyydd Kerbcraft: er mwyn darparu hyfforddiant Kerbcraft / hyfforddiant i gerddwyr Ifainc

5. Beth ydy'r sail gyfreithiol o ran defnyddio'r wybodaeth yma?  

Y sail gyfreithiol o ran ein defnydd o'ch gwybodaeth bersonol fel arfer fydd un neu ragor o'r canlynol: 

      
  • Mae’r unigolyn wedi rhoi caniatâd cyn i'r wybodaeth gael ei phrosesu    
  • Mae angen i ni brosesu'ch gwybodaeth bersonol er mwyn cyflawni contract 

6. Ydy'r gwasanaeth yn rhannu fy ngwybodaeth bersonol ag unrhyw sefydliad arall? 

Bydd gofyn i'r gwasanaeth rannu gwybodaeth gyda'r canlynol er mwyn iddo gyflawni ei dyletswyddau wrth ddarparu addysg a hyfforddiant diogelwch y ffyrdd:  

  • Hyfforddwyr gyrru cymeradwy - er mwyn sicrhau bod ymgeiswyr Pass Plus Cymru yn cwblhau elfennau ymarferol y cwrs  
  • Hyfforddwyr gyrru cymeradwy - er mwyn sicrhau bod modd i'r rheiny sy'n cymryd rhan yn y cwrs i bobl hŷn gyflawni'r elfennau ymarferol  
  • Diogelwch Ffyrdd Cymru - i gael eich cynnwys mewn raffl sy'n cael ei chynnal unwaith bob chwarter (Pass Plus Cymru)

7. Am faint o amser fydd y gwasanaeth yn cadw fy ngwybodaeth? 

Byddwn ni ond yn cadw eich gwybodaeth bersonol cyhyd ag y bydd ei hangen i gyflawni'r dibenion sy'n cael eu disgrifio yn yr hysbysiad yma.

 

8. Eich gwybodaeth, eich hawliau

Mae'r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) yn rhoi hawliau pwysig i chi, gan gynnwys yr hawl i gael gweld yr wybodaeth bersonol mae'r gwasanaethau yn ei chadw amdanoch chi.

 

Edrychwch ar ragor o wybodaeth am eich hawliau gwybodaeth a sut i'w defnyddio nhw.

 

 9. Cysylltwch â ni

Os oes gyda chi unrhyw bryderon neu os ydych chi eisiau rhagor o wybodaeth am sut mae'r gwasanaeth yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol, cysylltwch â ni gan ddefnyddio un o'r dulliau isod:

 

E-bost: diogelwchyffyrdd@rctcbc.gov.uk  

 

Ffôn: 01443 425001

 

Trwy lythyr: Uned Diogelwch y Ffyrdd, Tŷ Sardis, Pontypridd, CF37 1DU