Skip to main content

Hysbysiad Preifatrwydd Dietau Arbennig y Gwasanaethau Arlwyo

Sut rydyn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth bersonol o fewn y Gwasanaethau Arlwyo ar gyfer darparu dietau arbennig 

Mae'r Cyngor yn darparu gwasanaethau ar gyfer cymunedau lleol a'r bobl sy'n byw ynddyn nhw. Mae cynnal y gwaith yma yn golygu bod rhaid i ni gasglu a defnyddio gwybodaeth am y bobl rydyn ni'n darparu gwasanaethau ar eu cyfer nhw a chadw cofnod o'r gwasanaethau yma. O ganlyniad i gasglu a defnyddio gwybodaeth bersonol am unigolion, mae rhaid i ni sicrhau eu bod nhw'n gwybod beth yw ein bwriad o ran defnyddio a rhannu eu gwybodaeth.

Yn yr hysbysiad preifatrwydd yma, rydyn ni wedi crynhoi rhai o'r ffyrdd allweddol rydyn ni'n defnyddio eich gwybodaeth bersonol yn y Gwasanaethau Arlwyo. Dylech chi ddarllen yr wybodaeth yma yn ogystal â hysbysiad preifatrwydd corfforaethol y Cyngor.

1.    Pwy ydyn ni, beth ydyn ni'n ei wneud.

Nod Gwasanaethau Arlwyo'r Cyngor yw gwella bwyd a maeth yn ein hysgolion i gryfhau iechyd a lles y disgyblion a chodi safonau dysgu a chyrhaeddiad ar gyfer ein disgyblion. Fel rhan o'r gwasanaeth yma rydyn ni'n darparu ar gyfer disgyblion â gofynion dietegol arbennig. Mae'r Gwasanaeth yn cynnwys:  

  • Staff arlwyo ysgolion - sy'n paratoi, coginio a dosbarthu'r prydau bwyd.
  • Gwasanaeth Cefnogi Gweinyddol - sy'n gweithio'n agos gyda charfannau arlwyo ysgolion ac sy'n darparu cymorth gweinyddol ac yn delio ag atgyfeiriadau diet arbennig. Daw atgyfeiriadau yn uniongyrchol gan riant / cynhaliwr y disgybl neu drwy ysgol y disgybl.

2.    Pa fath o wybodaeth bersonol ydyn ni'n ei chadw ac am bwy?  

Bydd y mathau o wybodaeth rydyn ni'n eu cadw a'u prosesu fel arfer yn cynnwys:

  • Enw'r disgybl a'r ysgol
  • Manylion cyswllt y rhiant / cynhaliwr, gan gynnwys enw, cyfeiriad, rhif ffôn a chyfeiriad e-bost
  • Gwybodaeth iechyd fel gofynion dietegol a gwybodaeth alergedd

3.    O ble mae'r gwasanaeth yn cael fy ngwybodaeth?  

Rydyn ni'n cadw gwybodaeth am ddisgyblion sydd wedi'u hatgyfeirio at y Gwasanaeth.

 

Bydd yr wybodaeth uchod yn cael ei darparu gan:

  • Rhieni / cynhalwyr y disgybl 
  • Ysgol y disgybl 
  • Gwybodaeth ddietegol ac alergedd gan weithiwr meddygol proffesiynol

4.    Beth fyddwn ni'n ei wneud gyda'ch gwybodaeth bersonol?  

Byddwn ni'n defnyddio'r wybodaeth bersonol yma ar gyfer y rhesymau canlynol:

  • Darparu pryd bwyd i'r disgybl o'i ddewis ac sy'n bodloni ei ofynion dietegol
  • Sicrhau diogelwch a lles y disgybl

5.    Beth ydy'r sail gyfreithiol o ran defnyddio'r wybodaeth yma?  

Mae deddf Diogelu Data yn dweud ein bod ni'n gallu defnyddio a rhannu gwybodaeth bersonol dim ond lle mae gyda ni reswm priodol a chyfreithlon dros wneud hynny.

 

Ein sail gyfreithiol ar gyfer prosesu gwybodaeth bersonol i ddarparu cymorth, cyngor a chwynion i gorff   llywodraethu ysgol yw:

  • Cyflawni ein dyletswyddau swyddogol fel Cyngor a bodloni ein rhwymedigaethau cyfreithiol o dan Reoliadau Bwyta'n Iach mewn Ysgolion a Gynhelir 2014.

6.    Ydy'r gwasanaeth yn rhannu fy ngwybodaeth bersonol gydag unrhyw sefydliad arall?  

Byddwn ni'n rhannu'r gofynion dietegol arbennig gyda'r ysgol i sicrhau bod y prydau cywir yn cael eu gweini.

7.    Am faint o amser fydd y gwasanaeth yn cadw fy ngwybodaeth?  

Byddwn ni'n cadw gwybodaeth bersonol am flwyddyn ar ôl i'r disgybl adael yr ysgol.   

8.    Eich gwybodaeth, eich hawliau

Mae'r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) yn rhoi hawliau pwysig i chi, gan gynnwys yr hawl i gael gweld yr wybodaeth bersonol mae'r gwasanaethau yn ei chadw amdanoch chi.

 

Cael rhagor o wybodaeth am eich hawliau gwybodaeth a sut mae'u defnyddio nhw.

9.    Cysylltwch â ni  

Os oes gyda chi unrhyw bryderon neu os ydych chi eisiau rhagor o wybodaeth am sut mae'r gwasanaeth yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol, cysylltwch â ni gan ddefnyddio un o'r dulliau isod:  

 

E-bost : gwasanaethauarlwyo@rhondda-cynon-taf.gov.uk

 

Ffôn : 01443 744089

 

Trwy lythyr : Gwasanaethau Arlwyo, Tŷ Trevithick, Abercynon, Aberpennar, CF45 4UQ