Skip to main content

Hysbysiad Preifatrwydd - Gosod Cyllideb Ysgolion y Gwasanaeth Cymorth i Lywodraethwyr

Sut rydyn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth bersonol o fewn y Gwasanaeth Cymorth i Lywodraethwyr at ddibenion gosod cyllideb ysgolion 

Mae'r Cyngor yn darparu gwasanaethau ar gyfer cymunedau lleol a'r bobl sy'n byw ynddyn nhw. Mae cynnal y gwaith yma yn golygu bod rhaid i ni gasglu a defnyddio gwybodaeth am y bobl rydyn ni'n darparu gwasanaethau ar eu cyfer nhw a chadw cofnod o'r gwasanaethau yma. O ganlyniad i gasglu a defnyddio gwybodaeth bersonol am unigolion, mae rhaid i ni sicrhau eu bod nhw'n gwybod beth yw ein bwriad o ran defnyddio a rhannu eu gwybodaeth. 

Yn yr hysbysiad preifatrwydd yma, rydyn ni wedi crynhoi rhai o'r ffyrdd allweddol rydyn ni'n defnyddio eich gwybodaeth bersonol yn y Gwasanaeth Cymorth i Lywodraethwyr. Dylech chi ddarllen yr wybodaeth yma yn ogystal â hysbysiad preifatrwydd corfforaethol y Cyngor  

1. Pwy ydyn ni, beth ydyn ni'n ei wneud

Mae Gwasanaeth Cymorth i Lywodraethwyr y Cyngor yn rhoi cyngor a chefnogaeth i Benaethiaid a Llywodraethwyr Ysgolion Cynradd ac Ysgolion Arbennig wrth fynd at ddrafftio'r gyllideb flynyddol. Mae'r   gwasanaeth yn gwneud hyn trwy:  

  • Gweithio gyda'r Pennaeth i ddarparu cefnogaeth a chyngor ar bob agwedd ar baratoi cychwynnol a drafftio'r gyllideb ac ar fonitro a blaengynllunio ariannol.

  • Cynorthwyo'r Pennaeth i gyflwyno adroddiadau ariannol a dosbarthu gwybodaeth i gyrff llywodraethu / pwyllgorau cyllid.

  • Trefnu dosbarthu adroddiadau ariannol i gyrff llywodraethu / pwyllgorau cyllid.

Mae'r Gwasanaeth Cymorth i Lywodraethwyr yn gweithio mewn partneriaeth ag eraill i sicrhau llywodraethu effeithiol yn ysgolion Rhondda Cynon Taf

 

2. Pa fath o wybodaeth bersonol ydyn ni'n ei chadw ac am bwy?

Mae'r wybodaeth bersonol rydyn ni'n ei phrosesu at ddibenion gosod a monitro cyllidebau yn ymwneud ag athrawon a staff sy'n gweithio mewn ysgol (yn y gorffennol a'r presennol). Fel arfer bydd hyn yn cynnwys:  

  •   Enw'r aelod staff

  •   Enw'r ysgol

  •   Teitl swydd ac ati

  •   Rhif staff

  •   Cyflog

3. O ble mae'r gwasanaeth yn cael fy ngwybodaeth?

Mae'r wybodaeth uchod y dod o'r Ysgol a'r adrannau canlynol yng Nghyngor RhCT canlynol: 

  •   yr Adran Gyllid

  •   yr Adran Adnoddau Dynol

  •   y Gyflogres

4. Beth fyddwn ni'n ei wneud gyda'ch gwybodaeth bersonol?

Byddwn ni'n defnyddio'r wybodaeth bersonol yma i gefnogi'r Pennaeth i ddrafftio cyllideb flynyddol yr ysgol.

 

5. Beth ydy'r sail gyfreithiol o ran defnyddio'r wybodaeth yma?

Mae deddf Diogelu Data yn dweud ein bod ni'n gallu defnyddio a rhannu gwybodaeth bersonol dim ond lle mae gyda ni reswm priodol a chyfreithlon dros wneud hynny.

 

Ein sail gyfreithiol ar gyfer prosesu gwybodaeth bersonol i ddarparu cymorth, cyngor a chwynion i gorff   llywodraethu ysgolion yw: 

  •   Deddf Addysg 2002.

  •   Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2005.

  •   Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Newid Categori) (Cymru) 2015.

  •   Adran 84 Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998.

6. Ydy'r gwasanaeth yn rhannu fy ngwybodaeth bersonol gydag unrhyw sefydliad arall?

Er mwyn i'r Gwasanaeth ymgymryd â'i ddyletswyddau i ddarparu cefnogaeth, mae rhaid i ni rannu gwybodaeth gyda'r canlynol:

 

Gwasanaethau eraill y Cyngor

  •   Adran Gyllid RhCT

  •   Pwyllgorau'r Cyngor (nodwch: fydd yr wybodaeth sy'n cael ei chynnwys yn yr adroddiad sy'n cael ei gyflwyno i'r Pwyllgor ddim yn cynnwys gwybodaeth sy'n ei gwneud hi'n bosib i'ch adnabod yn bersonol)

Sefydliadau eraill:

 

  •   Penaethiaid

  •   Cyrff Llywodraethu Ysgolion

7. Am faint o amser fydd y gwasanaeth yn cadw fy ngwybodaeth?

Byddwn ni'n cadw gwybodaeth gosod cyllideb am 7 mlynedd.

 

8. Eich gwybodaeth, eich hawliau

Mae'r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) yn rhoi hawliau pwysig i chi, gan gynnwys yr hawl i gael gweld yr wybodaeth bersonol mae'r gwasanaethau yn ei chadw amdanoch chi.

 

Edrychwch ar fanylion pellach am eich hawliau gwybodaeth a sut i'w defnyddio nhw

 

9. Cysylltu â ni

Os oes gyda chi unrhyw bryderon neu os ydych chi eisiau rhagor o wybodaeth am sut mae'r gwasanaeth yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol, cysylltwch â ni gan ddefnyddio un o'r dulliau isod:  

 

E-bost: CymorthiLywodraethwyr@rhondda-cynon-taf.gov.uk

 

Ffôn: 01443 744000

 

Trwy lythyr: Gwasanaeth Cymorth i Lywodraethwyr, Tŷ Trevithick, Abercynon, Aberpennar, CF45 4UQ