Skip to main content

Hysbysiad Preifatrwydd Penodi Llywodraethwyr Ysgol y Gwasanaeth Cymorth i Lywodraethwyr

Sut rydyn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth bersonol yn y Gwasanaeth Cymorth i Lywodraethwyr er mwyn penodi llywodraethwyr ysgolion a darparu hyfforddiant a chymorth iddyn nhw 

Mae'r Cyngor yn darparu gwasanaethau ar gyfer cymunedau lleol a'r bobl sy'n byw ynddyn nhw. Mae cynnal y gwaith yma yn golygu bod rhaid i ni gasglu a defnyddio gwybodaeth am y bobl rydyn ni'n darparu gwasanaethau ar eu cyfer nhw a chadw cofnod o'r gwasanaethau yma. O ganlyniad i gasglu a defnyddio gwybodaeth bersonol am unigolion, mae rhaid i ni sicrhau eu bod nhw'n gwybod beth yw ein bwriad o ran defnyddio a rhannu eu gwybodaeth. 

Yn yr hysbysiad preifatrwydd yma, rydyn ni wedi crynhoi rhai o'r ffyrdd allweddol rydyn ni'n defnyddio eich gwybodaeth bersonol yn y Gwasanaeth Cymorth i Lywodraethwyr. Dylech chi ddarllen yr wybodaeth yma yn ogystal â hysbysiad preifatrwydd corfforaethol y Cyngor

1. Pwy ydyn ni, beth ydyn ni'n ei wneud

Prif nod y Gwasanaeth Cymorth i Lywodraethwyr yw sicrhau bod cyrff llywodraethu yn rhedeg ysgolion yn Rhondda Cynon Taf yn briodol. Rydyn ni'n darparu gwasanaeth siop un stop i gyrff llywodraethu yn   Rhondda Cynon Taf sy'n darparu gwybodaeth, cyngor, arweiniad a hyfforddiant i lywodraethwyr ysgol. Rydyn ni hefyd yn cefnogi'r llywodraethwr gyda'i waith

 

Ein prif rôl yw:   

  • Cynorthwyo cyrff llywodraethu i fodloni gofynion cyfreithiol.  
  • Cefnogi'r cyrff llywodraethu i fod yn barod ar gyfer Arolygiad Estyn.  
  • Cynorthwyo cyrff llywodraethu i roi pwyslais ar wella ysgolion.  
  • Bod yn gymorth i gyrff llywodraethu a'u cefnogi wrth benodi Arweinwyr effeithiol.

Gwasanaethau Ysgolion 2010/11  

  • Rhoi'r  hyfforddiant perthnasol i lywodraethwyr er mwyn iddyn nhw gyflawni eu rolau'n  effeithiol.  
  • Cefnogi llywodraethwyr i herio a chefnogi'r ysgol.  
  • Hybu hunanwerthuso o fewn cyrff llywodraethu. 

2. Pa fath o wybodaeth bersonol ydyn ni'n ei chadw ac am bwy?

Rydyn ni'n cadw gwybodaeth am lywodraethwyr ysgol yn y gorffennol a'r presennol (ymgeiswyr llwyddiannus ac aflwyddiannus).

 

Fel arfer bydd y mathau o wybodaeth sy'n cael eu casglu a'u defnyddio yn cynnwys: 

  •   Manylion cyswllt, gan gynnwys enw, cyfeiriad, rhif ffôn a chyfeiriad e-bost
  •   Dyddiad geni, rhyw
  •   Enw'r ysgol mae'r llywodraethwr (neu ddarpar lywodraethwr) wedi gwneud cais iddi neu wedi'i phenodi iddi
  •   Rhanbarth etholiadol (os yw cais yn cael ei wneud gan aelod etholedig)
  •   Gwybodaeth sy'n berthnasol i'r rôl fel profiad, ymrwymiad, gwybodaeth am y gymuned leol ac ati.
  •   Cofnodion hyfforddi
  •   Aelodaeth o bwyllgor ysgol penodol (e.e. pwyllgor cyllid, pwyllgor disgyblu)

3. O ble mae'r gwasanaeth yn cael fy ngwybodaeth?

 Rydyn ni'n derbyn gwybodaeth yn bennaf:

 

  •   Yn uniongyrchol gan lywodraethwr yr ysgol - er enghraifft ar ffurflen gais wrth fynegi diddordeb mewn bod yn llywodraethwr ysgol neu wrth gadw lle ar gwrs hyfforddi.   
  •   O'r ysgol - wrth i ni gael gwybod am aelodaeth gwahanol bwyllgorau ysgol.

4. Beth fyddwn ni'n ei wneud gyda'ch gwybodaeth bersonol?

Byddwn ni'n defnyddio'r wybodaeth yma er mwyn:

 

Penodi Llywodraethwr Ysgol

  •   Prosesu'r ffurflen gais neu fynegiant o ddiddordeb
  •   Trefnu pleidlais
  •   Prosesu canlyniadau'r bleidlais
  •   Cynnig apwyntiad (os yw'r cais yn llwyddiannus)
  •   Cynnal cofnod o lywodraethwyr ysgolion a'u haelodaeth o bwyllgorau ysgolion 

Hyfforddiant

  •   Nodi anghenion hyfforddiant
  •   Trefnu hyfforddiant
  •   Monitro ac adrodd ar gwblhau'r hyfforddiant 

Cyngor a Chefnogaeth  

  •   Deall eu hanghenion
    •   Cynnig cyngor ac arweiniad 

Adrodd

  •   Paratoi adroddiadau mewnol ac allanol, mae rhai ohonyn nhw'n ofynnol yn ôl y gyfraith.

5. Beth ydy'r sail gyfreithiol o ran defnyddio'r wybodaeth yma?

Mae deddf Diogelu Data yn dweud ein bod ni'n gallu defnyddio a rhannu gwybodaeth bersonol dim ond lle mae gyda ni reswm priodol a chyfreithlon dros wneud hynny.

 

Ein sail gyfreithiol ar gyfer prosesu'r wybodaeth yma at y dibenion uchod yw: 

  •   Cyflawni ei dyletswyddau swyddogol fel Cyngor a bodloni ein rhwymedigaethau cyfreithiol o   dan y ddeddfwriaeth: 
  •   Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2005
  •   Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Newid Categori) (Cymru) 2015

6. Ydy'r gwasanaeth yn rhannu fy ngwybodaeth bersonol gydag unrhyw sefydliad arall?

Er mwyn i'r Gwasanaeth gyflawni'r gwasanaethau uchod, efallai byddwn ni'n rhannu'r wybodaeth yma gyda: 

  •   Ysgolion 
  •   Consortiwm Canolbarth y De - i drefnu hyfforddiant gorfodol i Lywodraethwyr 
  •   Darparwyr hyfforddiant allanol - i ddarparu hyfforddiant i Lywodraethwyr 
  •   Adrannau eraill y Cyngor er mwyn cysylltu â'r Llywodraethwr i drefnu cyfarfod neu i ddatrys ymholiad, er enghraifft:
  •   Carfan Derbyn Disgyblion - lle mae yna gyfarfod ail-ddyrannu dalgylchoedd ysgol 
  •   Y Garfan Mynediad a Chynhwysiant - i drefnu cyfarfod apêl gwahardd disgyblion 
  •   Yr Adran Gyllid - adroddiadau archwilio cyllid ar gyfer pwyllgorau cyllid Ysgol
  •   Adran Ysgolion yr 21ain Ganrif - ar gyfer cyfarfodydd ail-ddyrannu dalgylchoedd ysgol 
  •   Efallai byddwn ni hefyd yn rhannu gwybodaeth gyda'r Adran Adnoddau Dynol i'w helpu i   drefnu gwrandawiad digyblu mewn ysgol, cyfarfodydd y corff llywodraethu, penodi Penaethiaid a Dirprwy Benaethiaid a phwyllgorau statudol ac ati

7. Am faint o amser fydd y gwasanaeth yn cadw fy ngwybodaeth?

Byddwn ni'n cadw eich gwybodaeth bersonol am 7 mlynedd ar ôl i'ch swydd fel Llywodraethwr ddod i ben.

 

8. Eich gwybodaeth, eich hawliau

Mae'r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) yn rhoi hawliau pwysig i chi, gan gynnwys yr hawl i gael  gweld yr wybodaeth bersonol mae'r gwasanaethau yn ei chadw amdanoch chi.

 

Edrychwch ar fanylion pellach am eich  hawliau gwybodaeth a sut i'w defnyddio nhw

 

9. Cysylltu â ni

Os oes gyda chi unrhyw bryderon neu os ydych chi eisiau rhagor o wybodaeth am sut mae'r gwasanaeth yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol, cysylltwch â ni gan ddefnyddio un o'r dulliau isod:  

 

E-bost: CymorthiLywodraethwyr@rhondda-cynon-taf.gov.uk

 

Ffôn: 01443 744000Hysbysiad Preifatrwydd Penodi Llywodraethwyr Ysgol y Gwasanaeth Cymorth i Lywodraethwyr

 

Trwy lythyr: Gwasanaeth Cymorth i Lywodraethwyr, Tŷ Trevithick, Abercynon, Aberpennar, CF45 4UQ