Skip to main content

Hysbysiad Preifatrwydd Canolfan Hyfforddi Hen Felin

Sut rydyn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth bersonol yng Nghanolfan Hyfforddi Hen Felin 

Mae'r Cyngor yn darparu gwasanaethau ar gyfer cymunedau lleol a'r bobl sy'n byw ynddyn nhw. Mae cynnal y gwaith yma yn golygu bod rhaid i ni gasglu a defnyddio gwybodaeth am y bobl rydyn ni'n darparu gwasanaethau ar eu cyfer nhw a chadw cofnod o'r gwasanaethau yma. O ganlyniad i gasglu a defnyddio gwybodaeth bersonol am unigolion, mae rhaid i ni sicrhau eu bod nhw'n gwybod beth yw ein bwriad o ran defnyddio a rhannu eu gwybodaeth.

Yn yr hysbysiad preifatrwydd yma, rydyn ni wedi crynhoi rhai o'r ffyrdd allweddol rydyn ni'n defnyddio eich gwybodaeth bersonol yn y ganolfan hyfforddi. Dylech chi ddarllen yr wybodaeth yma a hefyd hysbysiad preifatrwydd corfforaethol y Cyngor.

1.    Pwy ydyn ni, beth ydyn ni'n ei wneud 

Mae Hyfforddiant Hen Felin yn darparu addysg yn seiliedig ar waith i bobl yn Rhondda Cynon Taf sydd dros 16 oed ac wedi gadael yr ysgol. 

 

Fel arfer rydyn ni'n darparu'r cymwysterau lefel 2 a 3 canlynol: 

  • Y Blynyddoedd Cynnar
  • Cynorthwyydd Addysgu
  • Iechyd a Gofal Cymdeithasol
  • Gwneud Gwaith Cynhyrchu

O bryd i'w gilydd, mae'r ganolfan hefyd yn darparu cyrsiau eraill fel cymorth cyntaf, hylendid bwyd a gwaith codi a chario, er mwyn gwella cyfleoedd cyflogaeth y dysgwyr.

 

Mae'r ganolfan hefyd yn darparu addysg i ddysgwyr 18 oed neu'n hŷn ar ffurf prentisiaethau mewn Gofal, Blynyddoedd Cynnar a Chymorth Addysgu fel is-ganolfan ar gyfer ACT sy'n gwmni hyfforddi yng Nghaerdydd.

 

Yn yr hysbysiad yma, rydyn ni'n cyfeirio at y bobl rydyn ni'n darparu hyfforddiant ar eu cyfer fel 'dysgwyr' ond mae'r term yma hefyd yn cynnwys hyfforddeion a phrentisiaid.

2.    Pa fath o wybodaeth bersonol ydyn ni'n ei chadw ac am bwy?  

Mae'r mathau o wybodaeth rydyn ni'n eu casglu a'u defnyddio yn ymwneud â'r dysgwr e.e. prentisiaid a bydd fel arfer yn cynnwys

  • Manylion cyswllt, gan gynnwys enw, cyfeiriad, rhif ffôn ac ati
  • Dyddiad geni a rhyw
  • Statws anghenion dysgu ychwanegol, angen / anhawster dysgu ychwanegol
  • Cyrhaeddiad addysgol
  • Asesiad a chynnydd ar y cwrs sy'n cael ei ddilyn
  • Presenoldeb ar y cwrs
  • Gwybodaeth iechyd
  • Manylion cyflogaeth

Rydyn ni'n cadw gwybodaeth am ddysgwyr y gorffennol a'r presennol sy wedi derbyn gwasanaethau wrthyn ni.

 

Weithiau rydyn ni hefyd yn cadw manylion cyswllt mewn argyfwng ar gyfer rhiant, cynhaliwr neu berthynas agosaf y dysgwyr, gan gynnwys:

  • Enw, cyfeiriad, rhif ffôn cartref a gwaith, perthynas â'r dysgwr

Byddwn ni hefyd yn cadw gwybodaeth am gyflogwyr prentisiaid. Mae modd i hyn gynnwys gwybodaeth bersonol: 

  • Manylion cyswllt y cyflogwr gan gynnwys enw, cyfeiriad, cyfeiriad e-bost
  • Gwybodaeth am y busnes gan gynnwys nifer y gweithwyr, trosiant ac ati

3.    O ble mae'r gwasanaeth yn cael fy ngwybodaeth?  

Bydd yr wybodaeth uchod yn cael ei darparu gan: 

  • Dysgwyr yn uniongyrchol
  • Rhieni/gwarcheidwaid 
  • Ysgolion
  • Cyflogwyr
  • ACT (y rhiant-gwmni ar gyfer prentisiaethau)

4.    Beth fyddwn ni'n ei wneud gyda'ch gwybodaeth bersonol?  

Byddwn ni'n defnyddio'r wybodaeth bersonol yma ar gyfer y rhesymau canlynol:

  • Rhoi cyngor ac arweiniad i'r dysgwr wrth iddyn nhw fynd drwy'r cwrs
  • Cynnig am gymwysterau allanol a'u dyfarnu
  • Cysylltu â'r dysgwr yn achos absenoldeb heb ei esbonio neu absenoldebau hir
  • Cysylltu â'r rhiant / gofalwr / cyswllt mewn argyfwng os oes angen
  • Dod o hyd i gyllid
  • Cysylltu â'r awdurdodau perthnasol neu'r gwasanaethau brys dan amgylchiadau lles neu   ddiogelu

5.    Beth ydy'r sail gyfreithiol o ran defnyddio'r wybodaeth yma?  

Mae deddf Diogelu Data yn dweud ein bod ni'n gallu defnyddio a rhannu gwybodaeth bersonol dim ond lle mae gyda ni reswm priodol a chyfreithlon dros wneud hynny.

 

Ein sail gyfreithiol ar gyfer prosesu'r wybodaeth yma yw:

  • Cyflawni dyletswyddau swyddogol y Cyngor a bodloni ein rhwymedigaethau cyfreithiol o dan y deddfau canlynol:
  • Deddf Addysg 1996 a 2002
  • Fframwaith cynllunio ac ariannu ôl-16 2013
  • Deddf Hawliau Cyflogaeth 1996 
  • Manyleb Safonau Prentisiaeth i Gymru 2013
  • Deddf Prentisiaethau, Sgiliau, Plant a Dysgu 2009

6.    Ydy'r gwasanaeth yn rhannu fy ngwybodaeth bersonol gydag unrhyw sefydliad arall?  

Er mwyn i'r Gwasanaeth gyflawni ei ddyletswyddau a darparu'r gwasanaethau perthnasol i'r dysgwr, rydyn ni fel arfer yn rhannu eich gwybodaeth gyda'r canlynol:

  • Ysgolion - rhoi gwybod i'r ysgol am gais hyfforddi llwyddiannus a phresenoldeb yn ymwneud â phrotocolau diogelu
  • ACT (y rhiant-gwmni ar gyfer prentisiaethau)
  • Sefydliadau cymhwyster prentisiaeth (e.e. EDEXCEL ac ACW)
  • Cyflogwr y prentis
  • Llywodraeth Cymru

7.    Am faint o amser fydd y gwasanaeth yn cadw fy ngwybodaeth?  

Byddwn ni'n cadw eich gwybodaeth bersonol am 6 blynedd. I'r rhai sydd dan 18 oed, bydd y cyfnod o 6 mlynedd yn dechrau pan fyddant yn cael eu pen-blwydd yn 18 oed.

8.    Eich gwybodaeth, eich hawliau 

Mae'r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) yn rhoi hawliau pwysig i chi, gan gynnwys yr hawl i gael gweld yr wybodaeth bersonol mae'r gwasanaethau yn ei chadw amdanoch chi.

 

Edrychwch ar fanylion pellach am eich hawliau gwybodaeth a sut i'w defnyddio nhw.

9.    Cysylltu â ni  

Os oes gyda chi unrhyw bryderon neu os ydych chi eisiau rhagor o wybodaeth am sut mae'r gwasanaeth yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol, cysylltwch â ni gan ddefnyddio un o'r dulliau isod:  

 

E-bost : Martyn.Silezin@rctcbc.gov.uk  

 

Ffôn : 01443 744240

 

Trwy lythyr : Adran 14-19 Oed, Tŷ   Trevithick, Abercynon, Aberpennar, CF45 4UQ