Skip to main content

Hysbysiad Preifatrwydd y Gwasanaeth Mynychu'r Ysgol a Lles

Sut rydyn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth bersonol yn y Gwasanaeth Mynychu'r Ysgol a Lles 

Mae'r Cyngor yn darparu gwasanaethau ar gyfer cymunedau lleol a'r bobl sy'n byw ynddyn nhw. Mae cynnal y gwaith yma yn golygu bod rhaid i ni gasglu a defnyddio gwybodaeth am y bobl rydyn ni'n darparu gwasanaethau ar eu cyfer nhw a chadw cofnod o'r gwasanaethau yma. O ganlyniad i gasglu a defnyddio gwybodaeth bersonol am unigolion, mae rhaid i ni sicrhau eu bod nhw'n gwybod beth yw ein bwriad o ran defnyddio a rhannu eu gwybodaeth.

Yn yr hysbysiad preifatrwydd yma, rydyn ni wedi crynhoi rhai o'r ffyrdd allweddol rydyn ni'n defnyddio eich gwybodaeth bersonol yn y Gwasanaeth Mynychu'r Ysgol a Lles. Dylech chi ddarllen yr wybodaeth yma a hefyd hysbysiad preifatrwydd corfforaethol y Cyngor

1. Pwy ydyn ni, beth ydyn ni'n ei wneud.

Mae Gwasanaeth Mynychu'r Ysgol a Lles y Cyngor yn cefnogi plant, pobl ifanc a'u teuluoedd sy'n dioddef problemau neu anawsterau sy'n effeithio ar allu'r plentyn i fynychu'r ysgol neu gymryd rhan mewn   dysgu.

Ein nod yw sicrhau bod modd i bob plentyn a pherson ifanc gyrraedd eu llawn botensial a'u bod nhw'n: 

  •   Iach
  •   Aros yn ddiogel
  •   Mwynhau bywyd a llwyddo
  •   Gwneud cyfraniad cadarnhaol
  •   Cyflawni llesiant economaidd

Rydyn ni'n gweithio'n agos gyda gwasanaethau eraill y Cyngor a sefydliadau partner er mwyn darparu'r cymorth yma - mae rhagor o wybodaeth am y sefydliadau yma isod.

Wrth ddarparu'r gwasanaeth yma, rydyn ni'n dilyn arweiniad Fframwaith Presenoldeb ar gyfer Cymru Gyfan i sicrhau ein bod ni fel Cyngor yn cyflawni ein rhwymedigaeth cyfreithiol.

Mae modd i chi ddysgu rhagor am ein gwasanaeth trwy glicio ar y ddolen yma.

2.  Pa fath o wybodaeth bersonol ydyn ni'n ei chadw ac am bwy?

Rydyn ni'n cadw gwybodaeth am blant a phobl ifanc sy wedi'u hatgyfeirio at y Gwasanaeth yn y gorffennol neu'r presennol am gymorth, arweiniad neu gyngor arbenigol.

Fel arfer bydd y math o wybodaeth y byddwn ni'n ei chasglu a'i defnyddio i ddarparu ein gwasanaethau cymorth yn cynnwys: 

  •   Gwybodaeth am yr unigolyn sy'n cael ei atgyfeirio (e.e. disgybl):
  •   Manylion yswllt, gan gynnwys enw, cyfeiriad, rhif ffôn
  •   Rheswm dros atgyfeirio
  •   Cysylltiad blaenorol rhwng y plentyn / person ifanc a'i deulu a'r sefydliad a wnaeth ei   atgyfeirio (e.e. yr ysgol)
  •   Dyddiad geni
  •   Rhyw
  •   Manylion ar gyflawniad y plentyn / person ifanc yn yr ysgol e.e. graddau yn yr ysgol,   canlyniadau arholiadau ac ati.

Mewn rhai amgylchiadau, efallai y bydd angen i ni hefyd gasglu a defnyddio gwybodaeth fwy sensitif am y plentyn neu'r person ifanc yn dibynnu ar yr anawsterau y maen nhw'n eu profi. Mae modd i hyn gynnwys gwybodaeth sy'n ymwneud â: 

  •   Iechyd, lles ac anghenion addysgol arbennig
  •   Statws Plant sy'n Derbyn Gofal (e.e. plant mewn gofal) ac unrhyw materion diogelu sydd efallai'n berthnasol
  •   Ethnigrwydd
  •   Crefydd
  •   Cyfeiriadedd Rhywiol 

Rydyn ni hefyd yn casglu gwybodaeth yn ymwneud â rhieni / cynhalwyr y plentyn neu'r person ifanc ac weithiau aelodau'r teulu. Ar y lleiaf, bydd angen i ni wybod:

  •   Manylion cyswllt (gan gynnwys enw, cyfeiriad, rhif ffôn a chyfeiriad e-bost)
  •   Dyddiad geni (i'w ddefnyddio os yw achos llys wedi cychwyn)
  •   Amgylchedd / sefyllfa deuluol

3. O ble mae'r gwasanaeth yn cael fy ngwybodaeth?

Mae modd i'r wybodaeth bersonol rydyn ni'n ei chasglu amdanoch chi ddod o amrywiaeth o ffynonellau gwahanol fel y rhai sy wedi'u nodi isod:  

  •   Bydd y mwyafrif helaeth o'r wybodaeth rydyn ni'n ei chasglu yn cael ei darparu i ni yn uniongyrchol gan y plentyn / person ifanc a'i riant / cynhaliwr, er enghraifft yn ystod y gwasanaethau cefnogi, ymweliadau cartref, galwadau ffôn a thrwy lythyr. 
  •   Byddwn ni hefyd yn derbyn gwybodaeth gan y sefydliad sy'n gwneud yr atgyfeiriad,   gwasanaethau eraill y Cyngor a sefydliadau partner dibynadwy rydyn ni'n cydweithio'n agos gyda nhw ac sy'n cyfrannu at ddarparu cymorth i'r plentyn neu'r person ifanc. Bydd y sefydliadau yma yn amrywio yn dibynnu ar yr anawsterau y mae'r plentyn / person ifanc yn eu profi a'r gwasanaethau cymorth sydd eu hangen arnyn nhw. 
  •   Mae'r gwasanaeth hefyd yn paratoi ei wybodaeth ei hun fel asesiadau ac adroddiadau   cynnydd ac argymhellion. 

4. Beth fyddwn ni'n ei wneud gyda'ch gwybodaeth bersonol?

Yn y pen draw, byddwn ni'n defnyddio'r wybodaeth yma er mwyn:

  •   Rhoi cyngor a chyfarwyddyd i ysgolion ynghylch yr anawsterau y mae'r plentyn neu'r person   ifanc yn eu profi fel bod modd iddyn nhw roi cefnogaeth yn ei lle i'w cynorthwyo i gyflawni eu llawn botensial
  •   Cynnal cyfarfodydd ar y cyd (sy'n cael eu galw'n gyfarfodydd panel) gyda'n partneriaid i adolygu sefyllfa'r plentyn / person ifanc ac i nodi a chyflwyno'r gefnogaeth orau posib i'r plentyn    
  •   Monitro cynnydd y gefnogaeth sy'n cael ei rhoi i'r plentyn / person ifanc a gwneud argymhellion 
  •   Gweithio gyda gwasanaethau eraill y Cyngor i gasglu'r wybodaeth sydd ei hangen i wneud   asesiad cywir o anghenion y plentyn a threfnu'r gefnogaeth sydd ei hangen arno e.e. gwasanaethau ariannol (Gwasanaeth Prydau Ysgol am Ddim, Gwasanaeth Budd-dal Tai), Gwasanaeth Materion Derbyn Disgyblion, Gwasanaeth Mynediad a Chynhwysiant, Gwasanaethau i Blant ac ati. 
  •   Gweithio gydag awdurdodau lleol eraill os yw plentyn / teulu wedi symud i mewn neu allan o RhCT i'w helpu i ddod o hyd i blentyn  
  •   Gweithio gyda Llys yr Ynadon mewn amgylchiadau lle mae rhaid i ni ddechrau achos llys (nodwch: os bydd hyn yn digwydd, byddwn ni'n sicrhau eich bod yn cael gwybod am bob cam) 
  •   Sicrhau diogelu a lles plant a phobl ifainc sy'n agored i niwed

5.  Beth ydy'r sail gyfreithiol o ran defnyddio'r wybodaeth yma?

Bydd y sail gyfreithiol o ran ein defnydd o'ch gwybodaeth bersonol fel arfer yn un neu ragor o'r canlynol: 

  •   Bodloni ein rhwymedigaethau cyfreithiol o dan: 
  •   Deddf Addysg 1996
  •   Rheoliadau Addysg (Cofrestru Disgyblion) (Cymru) 2010
  •   Deddf Trosedd ac Anhrefn 1998
  •   Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 
  •   Cyflawni tasg er budd y cyhoedd neu wrth arfer awdurdod swyddogol yn rhinwedd ein   swyddogaeth fel corff cyhoeddus.

6. Ydy'r gwasanaeth yn rhannu fy ngwybodaeth bersonol gydag unrhyw sefydliad arall?  

Fel sy wedi'i grybwyll uchod, er mwyn i'r Gwasanaeth ymgymryd â'i ddyletswyddau cyfreithiol ac i ddarparu'r cymorth sydd ei angen ar y plentyn / person ifanc a'i deulu, mae'n ofynnol i ni rannu gwybodaeth gyda nifer o sefydliadau a phartneriaid trydydd parti dibynadwy.

Bydd y partneriaid yma yn amrywio yn dibynnu ar yr anawsterau mae'r plentyn / person ifanc yn eu hwynebu a'r gefnogaeth maen nhw ei hangen, ond fel arfer bydd yn cynnwys: 

  •   Ysgol y plentyn (yn y gorffennol ac ar hyn o bryd)
  •   Gwasanaethau Iechyd fel y bwrdd iechyd lleol, meddyg, ymwelydd iechyd, ysbyty,   ymgynghorwyr ac ati
  •   Adrannau eraill y Cyngor fel Gwasanaethau i Blant, Gwasanaeth Mynediad a Chynhwysiant,   Gwasanaeth Materion Derbyn Disgyblion, Gwasanaeth Prydau Ysgol am Ddim, yr Adran Budd-daliadau Tai, y Gwasanaeth ar FaterionTai, Gwasanaeth Troseddwyr Ifanc ac ati
  •   Cynghorau eraill sy'n ymwneud â'r plentyn neu ei deulu, neu sydd wedi ymwneud â'r   plentyn a'i deulu yn y gorffennol (e.e. lle mae'r plentyn wedi symud)
  •   Llys yr Ynadon
  •   Asiantaethau gorfodi'r gyfraith fel yr Heddlu (os oes pryderon diogelu)
  •   Asiantaethau'r sector gwirfoddol sy'n ymwneud â darparu cefnogaeth i'r plentyn / person   ifanc e.e.

Yn y mwyafrif helaeth o achosion, fydd dim angen eich caniatâd arnom i rannu'r wybodaeth gyda'r sefydliadau yma gan fod gyda ni rwymedigaeth gyfreithiol i wneud hynny. Serch hynny, lle mae angen caniatâd, byddwn ni'n sicrhau bod y plentyn / person ifanc a'i deulu yn cael gwybod ac yn cael dewis clir am y defnydd o'u gwybodaeth.

7. Am faint o amser fydd y gwasanaeth yn cadw fy ngwybodaeth?

Byddwn ni'n cadw eich gwybodaeth bersonol am hyd at 7 mlynedd.

8. Eich gwybodaeth, eich hawliau

Mae'r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) yn rhoi hawliau pwysig i chi, gan gynnwys yr hawl i gael gweld yr wybodaeth bersonol mae'r gwasanaethau yn ei chadw amdanoch chi.

Edrychwch ar ragor o wybodaeth am eich hawliau gwybodaeth a sut i'w defnyddio nhw.

9. Cysylltwch â ni

Os oes gyda chi unrhyw bryderon neu os ydych chi eisiau rhagor o wybodaeth am sut mae'r gwasanaeth yn defnyddio eich gwybodaeth bersonol, cysylltwch â ni gan ddefnyddio un o'r dulliau isod:  

E-bost: Presenoldeballes@rctcbc.gov.uk

Ffôn: 01443 744298

Trwy lythyr: Gwasanaeth Mynychu'r Ysgol a Lles, Tŷ Trevithick, Abercynon, Aberpennar , CF45 4UQ