Skip to main content

Hysbysiad Preifatrwydd Carfan Datblygu Gofal Plant Cyffredinol

Sut rydyn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth bersonol at ddibenion Datblygu Gofal Plant

Mae'r Cyngor yn darparu gwasanaethau ar gyfer cymunedau lleol a'r bobl sy'n byw ynddyn nhw.  Mae cynnal y gwaith yma'n golygu bod rhaid i ni gasglu a defnyddio gwybodaeth am y bobl rydyn ni'n darparu gwasanaethau ar eu cyfer nhw, a chadw cofnod o'r gwasanaethau yna. Am ein bod ni'n casglu a defnyddio gwybodaeth bersonol am unigolion, rhaid i ni sicrhau eu bod nhw'n gwybod beth yw ein bwriad o ran defnyddio a rhannu eu gwybodaeth. 

Rydyn ni wedi crynhoi yn yr hysbysiad preifatrwydd yma rai o'r ffyrdd allweddol rydyn ni'n defnyddio'ch gwybodaeth bersonol at ddibenion Datblygu Gofal Plant Cyffredinol. Dylech chi ddarllen yr wybodaeth yma yn ogystal â hysbysiad preifatrwydd corfforaethol y Cyngor.

1. Pwy ydyn ni, beth ydyn ni'n ei wneud.

Mae'r garfan Datblygu Gofal Plant Cyffredinol yn goruchwylio datblygiad a chynaliadwyedd yr holl ddarparwyr gofal plant yn RhCT. 

Mae hyn yn cynnwys cynnig achlysuron ymgysylltu, anfon gwybodaeth a allai fod o ddiddordeb i'r sector, megis newidiadau mewn deddfwriaeth, ymgynghoriadau cyhoeddus neu hyrwyddo achlysuron a hyfforddiant gan asiantaethau eraill.  Mae modd i hyn fod trwy e-byst, galwadau ffôn, y cyfryngau cymdeithasol, wyneb yn wyneb neu wybodaeth wedi'i hargraffu ac wedi'u hanfon i'r lleoliad.  Mae'r garfan yn cynnig cymorth ac arweiniad i'w cefnogi i ddarparu eu gwasanaethau neu wella'u harferion busnes.  Mae'r garfan hefyd yn cynnig cyrsiau hyfforddi wedi'u hariannu ac ystod o grantiau i gefnogi'r sector.  Mae'r garfan yn ymgynghori ag amrywiaeth o randdeiliaid bob 5 mlynedd a hynny trwy ymgysylltu wyneb yn wyneb ac arolygon ar-lein, i fesur cyflenwad a galw ym maes gofal plant er mwyn llunio Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant a'r cynllun gweithredu blynyddol cysylltiedig.

Sefydliadau mewnol ac allanol sy'n cynnal achlysuron ymgysylltu a hyfforddi. 

2. Pa fath o wybodaeth bersonol ydyn ni'n ei chadw ac am bwy?

Rydyn ni'n cadw gwybodaeth am ddarparwyr gofal plant, er bod y manylion hyn yn ymwneud â'r busnes, efallai bod y perchennog wedi darparu manylion personol.

Rydym yn cadw gwybodaeth am y staff yn y lleoliadau hynny at ddibenion hyfforddi.  Bydd y mathau o wybodaeth rydyn ni'n eu cadw a'u prosesu fel arfer yn cynnwys:

  • Enw'r lleoliad, cyfeiriad, cyfeiriad e-bost a rhif ffôn
  • Manylion y gwasanaeth a gynigir (h.y. oriau agor)
  • Manylion banc y Lleoliad:

Enw'r aelod o staff, ble maen nhw'n gweithio, cyfeiriad cartref a/neu gyfeiriad e-bost a rhif ffôn

3.  O ble mae'r gwasanaeth yn cael fy ngwybodaeth?

Rydym yn casglu gwybodaeth am leoliadau gofal plant gan Arolygiaeth Gofal Cymru (CIW), gwybodaeth leol ac os bydd lleoliadau yn cysylltu â'r garfan am gymorth.

Yn rhan o'r ymgynghoriad ar gyfer Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant, rydyn ni'n casglu manylion cyswllt os yw'r person sy'n cwblhau'r arolwg yn dewis cynnwys eu manylion cyswllt yn yr ymateb i'r arolwg.

Rydyn ni'n casglu gwybodaeth am staff a lleoliadau o'r ffurflenni cais ar gyfer hyfforddiant.

Ac o ffurflenni cais am gyllid grant.

4. Beth fyddwn ni'n ei wneud gyda'ch gwybodaeth bersonol?

Rydyn ni'n defnyddio'r wybodaeth i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ddarparwyr gofal plant am yr hyn y mae modd i'r garfan ei wneud i gefnogi ei lleoliadau, hyfforddiant, gwybodaeth a chyfleoedd perthnasol. 

Rydyn ni'n rhannu gwybodaeth staff gyda'r darparwr hyfforddiant perthnasol a'r tiwtor cwrs, at ddibenion hyfforddi.  Rydyn ni'n cadw cofnod o ba hyfforddiant y mae'r darparwyr gofal plant yn ei gyflawni, yn ogystal â manylion y staff o'r lleoliadau yma.

Byddwn ni hefyd yn rhannu'ch cais gyda phanel grantiau sy'n cynnwys swyddogion a CBSRhCT a chynrychiolwyr gofal plant o sefydliadau gwahanol, a hynny at ddibenion ceisiadau am gyllid grant (er mwyn prosesu'ch cais yn unol â gofynion cyllid.  Yn achos rhai cynlluniau grant, caiff rhai adnoddau eu darparu i'r lleoliad ac yn yr achos yma, bydd y cyfeiriad yn cael ei rannu â'r cyflenwyr.

Rydyn ni'n defnyddio ymatebion i'r arolwg at ddibenion yr Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant i lywio blaenoriaethau a datblygu gwasanaethau gofal plant.

5. Beth yw'r sail gyfreithiol o ran defnyddio'r wybodaeth yma?

Mae cyfraith Diogelu Data yn dweud ein bod yn cael defnyddio a rhannu gwybodaeth bersonol dim ond lle mae gyda ni resymau priodol a chyfreithlon dros wneud hynny.

Mae eisiau i ni geisio ein gorau glas i wneud yn siŵr bod gwasanaethau gofal plant digonol ar gael ym milltir sgwâr y rhieni hynny sydd naill ai'n gweithio, neu'n mynychu hyfforddiant neu addysg, neu'n ymbaratoi ar gyfer byd gwaith. 

6. Ydy'r gwasanaeth yn rhannu fy ngwybodaeth bersonol ag unrhyw sefydliad arall?

Ydy. Byddwn ni'n rhannu eich data gyda'r canlynol;

  • Darparwr yr Hyfforddiant
  • Adrannau Mewnol y Cyngor megis Flying Start, Teuluoedd Cydnerth, Gwasanaethau Chwarae, Gwasanaeth Derbyn Disgyblion a'r Garfan Darparwyr Addysg Cofrestredig.
  • Llywodraeth Cymru (os yw'n rhan o'r gofynion cyllido)
  • Arolygiaeth Gofal Cymru
  • Sefydliadau Ymbarél Gofal Plant (Cymdeithas Genedlaethol Meithrinfeydd Oriau Dydd, Blynyddoedd Cynnar Cymru, Clybiau Plant Cymru, Mudiad Meithrin)

PACEY Cymru - os ydyn ni'n ariannu yswiriant ac aelodaeth gwarchodwyr plant newydd ar gyfer y flwyddyn gyntaf neu at ddibenion gweminarau wedi'u hariannu a hyfforddiant cyn-gofrestru

7. Am faint o amser fydd y gwasanaeth yn cadw fy ngwybodaeth?

Bydd gwybodaeth gyffredinol am ddarparwyr gofal plant yn cael ei chadw cyhyd â bod y garfan yn ymwybodol eu bod yn masnachu.

Bydd cofnod hyfforddi a gwybodaeth am bresenoldeb yn cael eu cadw am gyfnod o chwe blynedd ar ôl yr achlysur.

Bydd gwybodaeth am gyllid grant yn cael ei chadw yn unol â'r gofynion cyllido. 

8. Eich gwybodaeth, eich hawliau

Mae'r Rheoliadau Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) yn rhoi hawliau pwysig i chi, gan gynnwys yr hawl i gael gweld yr wybodaeth bersonol mae'r gwasanaethau yn ei chadw amdanoch chi

Edrychwch ar ragor o wybodaeth am eich hawliau gwybodaeth a sut i'w defnyddio nhw.

9.  Cysylltu â ni

Os oes unrhyw bryderon gyda chi neu os ydych chi eisiau gwybod rhagor am sut rydyn ni'n trin eich gwybodaeth bersonol, mae modd i chi gysylltu â ni gan ddefnyddio'r dulliau isod:

E-bost: CarfanGofalPlant@rctcbc.gov.uk

Ffoniwch: 01443 570048

Drwy anfon llythyr: Carfan Gofal Plant Cyffredinol, Tŷ Trevithick, Abercynon, RhCT, CF45 4UQ