Yn ystod fy nghyfnod i fel Arweinydd y Cyngor, rwyf bob amser wedi ceisio sicrhau, er gwaethaf yr heriau ariannol yr ydym yn eu hwynebu trwy gyfyngder ariannol, ein bod ni'n gallu sicrhau cyfleoedd i fuddsoddi yn ein Bwrdeistref Sirol a gwasanaethau'r Cyngor er mwyn darparu cyfleusterau cyfoes ac i ddarparu'r cyfleoedd gorau i ddatblygu ein cymunedau.

Yr wythnos ddiwethaf, cymeradwyodd y Cabinet gynigion i fuddsoddi £7m yn ychwanegol er mwyn sicrhau ein bod ni'n parhau i gyflawni ein huchelgeisiau ar gyfer y Fwrdeistref Sirol gyfan. Bydd y buddsoddiad yma yn gefn i barhau â'r nifer o ymrwymiadau cyhoeddus ac yn gwarantu y bydd y gwelliannau gweladwy oherwydd rhaglen #buddsoddiadRhCT dros y ddwy flynedd ddiwethaf yn parhau, llunio dyfodol cadarnhaol ar gyfer y Sir rydyn ni i gyd eisiau'i weld. Bydd yr arian hwn yn gweld dau gae 3G ychwanegol yn y Sir, yn amodol ar gytundeb y Cyngor ym mis Tachwedd. Bydd hyn yn rhoi hwb i'n cynlluniau uchelgeisiol i bob preswylydd gael mynediad i gyfleuster o'r fath o fewn radiws o dair milltir. Byddai'r cyfleusterau yma yn cael eu datblygu er mwyn ategu'r 7 arall sydd wedi cael eu cwblhau'n barod a'r 3 arall sydd naill ai'n mynd rhagddo neu sydd yn y cam datblygu yn Abercynon, Garth Olwg, a Glynrhedynog.

Roedd y cynigion hefyd yn argymell dyrannu £3m yn gyfartal ymysg tri phrosiect isadeiledd cludiant allweddol. Mae trigolion wedi bod yn galw am ffordd osgoi Llanharan ers blynyddoedd lawer, a bydd y buddsoddiad o £1M yn ychwanegol yn sicrhau bod y cynllun priffyrdd hanfodol yma'n symud cam yn agosach at ddod yn realiti. Er mwyn cadw at yr ymrwymiadau blaenorol i droi'r A4119 rhwng Tonyrefail a Llantrisant yn ffordd ddeuol, bydd £1M ychwanegol yn cael ei fuddsoddi er mwyn symud yr heol trafnidiaeth hanfodol yma rhwng coridor y Rhondda a'r M4 yn ei blaen. Y prosiect olaf i fuddio o gyllid ychwanegol fyddai cynllun Ffordd Gyswllt ar draws y Cwm yn Aberpennar. Mae'r cynllun yma wedi datblygu'n sylweddol ers i ni ymrwymo i gyflawni'r cynllun manteisiol yma. Yn rhan o'n hymdrech i foderneiddio'n cynnig trafnidiaeth ehangach, yn ogystal â hyn bydd dros £1miliwn arall yn cael ei roi tua at ddatblygu cyfleusterau Parcio a Theithio ychwanegol ar draws RhCT i sicrhau'n bod ni'n manteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd a ddaw i'n rhan trwy brosiect Metro De Cymru.

Mae ailddatblygu safle Cwm Taf, fel ffordd osgoi Llanharan, yn rhywbeth sydd wedi bod yn ddyhead allweddol i Bontypridd ers nifer o flynyddoedd. Yn dilyn ein penderfyniad i gymryd y llyw ar y prosiect enfawr, trwy sicrhau daliadaeth lawn y safle, rydym wedi gallu symud ymlaen trwy sicrhau caniatâd cynllunio. Cyn hir, bydd y datblygiad yn gweithredu fel cartref Trafnidiaeth Cymru a darparwr Metro De Cymru. Bydd y gwaith adeiladu yn cychwyn yn y Flwyddyn Newydd a bydd y Cabinet yn ystyried yr achos busnes manwl i ariannu'r ailddatblygiad yn fuan. Rydyn ni'n hyderus y gall y cynnig yma ddarparu'r hwb economaidd mawr i Bontypridd y mae pawb yn awyddus i'w weld.  A'r pwynt hollbwysig yw bod y model arfaethedig yn nodi y bydd y datblygiad gwerth bron i £50m yn ariannu ei hun. Mae hyn yn dangos yn glir bod ein buddsoddiad strategol a thargededig yn gweithio.

"Mae rhaglen #buddsoddiadRhCT yn sicrhau, er gwaethaf yr heriau ariannol rydyn ni'n eu hwynebu, fod modd creu cyfleoedd, trwy dargedu buddsoddiadau, i gynnal gwelliannau hanfodol ar gyfer y Fwrdeistref Sirol, er gwaetha'r cyllid refeniw llai rydyn ni'n ei gael. "Mae'r cynnig buddsoddi yn ymwneud â ni yn parhau i symud RhCT yn ei flaen, trwy ddiogelu seilwaith allweddol ar gyfer y dyfodol, gwella'n cysylltiadau trafnidiaeth a datblygu ffyrdd newydd o gynnal gwasanaethau.

Wedi ei bostio ar 10/11/2017