Cafodd setliad dros dro 2018/19 ar gyfer Llywodraeth Leol ei gyhoeddi'n ddiweddar.  Mae hyn yn golygu bod pob awdurdod lleol yng Nghymru wedi cael rhyw syniad o'r arian y byddan nhw'n debygol o'i gael yn y flwyddyn ariannol nesaf. Wrth fwrw golwg dros Gyllideb Lywodraeth Cymru, mae'n ymddangos bod Cynghorau Cymru eto yn wynebu 0.5% yn llai o arian ar gyfer y flwyddyn nesaf, ac 1.5% yn llai ar ben hynny yn 2019/20. Yn RhCT, bydd ein cyllid ni'n gostwng 0.2%.

O ystyried bod cyllid Cymru wedi gostwng 7% mewn gwirionedd ers 2010, sydd cyfwerth â £1.2 biliwn, mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud ei gorau glas i liniaru'r effaith ar wasanaethau'r Cyngor, ac mae Rhondda Cynon Taf wedi cael setliad teg a rhesymol, o dan yr amgylchiadau. Mae effaith y mesurau cyni yn golygu bod rhaid inni o hyd ysgwyddo'r pwysau sydd ar ein gwasanaethau, er gwaethaf gostyngiad gwirioneddol yn ein cyllid flwyddyn ar ôl blwyddyn. Oherwydd y toriadau ar draws gwledydd Prydain gan Lywodraeth San Steffan, mae Llywodraeth Cymru mewn sefyllfa amhosibl.  Mae'r llywodraeth yn y Bae, fel mae pob sefydliad arall yn y sector cyhoeddus, yn wynebu'r gwaith amhleserus o fantoli cyllideb sy'n parhau i grebachu ar draws yr holl feysydd o gyfrifoldeb sydd wedi'u dirprwyo i Gymru, gan gynnwys iechyd, addysg a datblygu'r economi.

Rydyn ni wedi bod yn gyson yn y ffordd rydyn ni'n mynd ati i reoli'r gostyngiadau yn ein cyllid sydd wedi dod i RCT.  Felly, er gwaethaf yr heriau rydyn ni'n eu hwynebu, bu modd inni greu cyfleoedd i fuddsoddi ac ail-lunio'r ffordd rydyn ni'n cynnal gwasanaethau.  Fe fyddwn ni'n parhau i wneud hynny dros gyfnod y Cyngor yma.  Ond fe ddown i ryw bwynt, fodd bynnag, pan na fydd yr opsiynau a chyfleoedd ar gael mwyach, a fyddai dim modd osgoi'r penderfyniadau anodd hynny.

Ond, mae gan y Canghellor y cyfle i fynd i'r afael â'r mater yma pan fydd e'n cyflwyno Cyllideb Llywodraeth San Steffan tua diwedd mis Tachwedd. Mae'r polisi o gyni yn peri effaith ddinistriol ar y sector cyhoeddus ledled y DU. Serch hynny, mae cyfle gan Lywodraeth San Steffan ar 22 Tachwedd i newid cyfeiriad ac i sicrhau bydd modd i bob haen yn y sector cyhoeddus ddechrau symud yn ei blaen.  Yng nghyfarfod y Cyngor ar 18 Hydref, roeddwn i wedi llwyddo cyflwyno Cynnig i'r Cyngor yn galw ar y Canghellor i ddefnyddio Cyllid Tachwedd i ymbellháu oddi wrth fesurau cyni, ac i roi i'n gwasanaethau cyhoeddus gyllid mawr ei angen. Fy ngobaith yw bod galwadau parhaus o du'r cyhoedd, gwleidyddion, undebau llafur ac economegwyr yn cael eu clywed.

Dyma un o'r rhesymau roeddwn i wedi cefnogi Cynnig diweddar yng nghyfarfod y Cyngor i ddod â'r cyfnod o rewi cyflogau i ben.  A ninnau'r cyflogwr lleol mwyaf, mae gwaith y mae'n staff ni'n ei wneud yn cael ei werthfawrogi heb os nac onibai, ac mae parhau â'r cyfyngiad o 1% gan Lywodaeth San Steffan yn 2010 yn cael effaith ddofn ar deuluoedd ar draws RhCT, gyda chwymp termau real mewn cyflogau yn tybio bod oddeutu 21%.  Y realiti galed yw bod codi'r cyfyngiad ar gyflogau yn cwympo ar ysgwyddau Llywodraeth San Steffan, ac mae hyn wedi'i gadarnhau eto trwy'r setliad Cyllideb diweddaraf.  Byddai torri o Gyllideb graidd Cymru yn cael effaith drychinebus ar gynnal gwasanaethau rheng-flaen allweddol, gyda £60 miliwn yn dod o gyllideb iechyd.  

Byddwch chi wedi clywed nifer o'm cyd-Arweinwyr o bob plaid yn cyfeirio at yr angen, o bosibl, am gynyddu treth y Cyngor i liniaru'r toriadau posibl yn y cyllid rydyn ni wedi bod yn eu disgwyl yn rhan o'r setliad yr wythnos yma.

Fel Cyngor, rydyn ni'n cydnabod yr effaith y gall cynnydd mewn Treth y Cyngor ei chael ar drigolion, felly byddwn ni'n ceisio cadw unrhyw gynnydd i'r lleiaf posibl.  Y llynedd, roedd cynnydd mewn Treth y Cyngor yn Rhondda Cynon Taf yr ail leiaf erioed yn olynol yn lleol, yn ogystal â bod yr ail leiaf yng Nghymru.

Yn erbyn cefndir o gyni a llai o gyllid, mae i Dreth y Cyngor ran i'w chwarae yn y strategaeth ehangach i bennu cyllideb fantoledig, ond nid dyma'r peth cyntaf rydyn ni'n ei ystyried wrth wynebu'r her enfawr yma. Nawr bod syniad gyda ni o'n cyllid trwy setliad dros dro Llywodraeth Leol, fe allwn ni gychwyn arni unwaith eto i ymgynghori'n helaeth â'r cyhoedd ynglŷn â chynnydd Treth y Cyngor i'w gynnwys yn rhan o'n dull ehangach o fynd ati mewn perthynas â Strategaeth Gyllideb 2018/19.

Er gwaetha'r angen i fynd i'r afael yn barhaus â chyllid llai a'r pwysau cynyddol ar ein gwasanaethau, byddwn ni'n parhau i fuddsoddi mewn meysydd o flaenoriaeth, yn arbennig lle bydd y buddsoddiad, dros y tymor hwy, yn gwneud cynnal ein gwasanaethau allweddol yn fwy cynaliadwy.  Dyw'r ffordd rydyn ni'n darparu llawer o'n gwasanaethau ddim wedi newid ers o leiaf degawd, ond mae anghenion trigolion, hwythau, wedi newid yn sylweddol yn ystod y cyfnod yma.  Bydd gwerthuso sut rydyn ni'n gwneud pethau yn hanfodol, nid oherwydd yr heriau ariannol yn unig, ond achos bod anghenion a disgwyliadau trigolion yn newid yn ogystal.

Wedi ei bostio ar 24/10/17