Hoffwn i longyfarch yr holl ddisgyblion sydd wedi llwyddo yn eu harholiadau Lefel A a TGAU eleni. Mae'n wych gweld bod gwaith caled y disgyblion a'r athrawon wedi talu ar ei ganfed. Rydw i hefyd yn falch bod y disgyblion wedi ennill y graddau roedden nhw eu heisiau a'u bod nhw wedi llwyddo i gael lle yn eu prifysgol dewis cyntaf neu fynediad at y byd gwaith.

Mae addysg yn chwarae rhan bwysig iawn wrth lunio dyfodol y Sir ac mae'n bwysig gwerthfawrogi pobl ifainc. Dyma pam mae'r Cyngor yn gosod pwyslais mawr ar gyfleusterau a chymorth i ysgolion wrth ddewis ein blaenoriaethau.

Dros y blynyddoedd diwethaf rydyn ni wedi gosod pwyslais mawr ar greu cyfleoedd prentisiaeth a chyfleoedd i raddedigion yn yr Awdurdod Lleol. Rydyn ni wedi gwneud hyn er mwyn sicrhau bod cyfleoedd ar gael i genedlaethau'r dyfodol ac er mwyn magu a meithrin doniau lleol. Mae diweithdra ymhlith yr ifanc yn ganlyniad i lymder a pholisïau economaidd presennol. Rydyn ni'n bwriadu gwneud cymaint ag y gallwn ni er mwyn brwydro yn erbyn hyn.  Y Cyngor yw'r cyflogwr mwyaf lleol, a byddwn ni'n parhau i fuddsoddi yn yr ardal a darparu buddion gweladwy i breswylwyr RhCT.

Rydyn ni wedi creu 126 o leoliadau i brentisiaid a graddedigion ers 2012. Mae 33 prentis a 12 swyddog graddedig ar fin dechrau'u gyrfaoedd gyda'r Cyngor yn gynnar ym mis Medi yn rhan o ymrwymiad i ddarparu 150 yn ychwanegol o leoliadau pellach yn ystod y cyfnod nesaf.  Mae'r rhaglenni dwy flynedd yma'n cynnig cyflog i'r bobl ifainc ac maen nhw wedi bod yn hynod o lwyddiannus. Mae'r rhaglenni wedi ennill cymeradwyaeth cenedlaethol am y ffordd mae'r Cyngor yn mynd ati i ddarparu cyfleoedd cyflogaeth i breswylwyr.  Mae'r ffaith bod y mwyafrif o unigolion sydd wedi cyflawni cynlluniau Prentisiaeth neu raglenni i raddedigion wedi ennill swyddi parhaol gyda'r Cyngor yn dyst i lwyddiant y cynlluniau yma.

Yn rhan o ymrwymiad ehangach y Cyngor i gefnogi cyflogaeth leol, byddwn ni'n cynnal Ffair Swyddi lwyddiannus arall yng Nghanolfan Sobell, Aberdâr.  Cafodd yr achlysur diwethaf, a ddenodd 1,200 o bobl, ei gynnal ym Mhontypridd. Rydw i'n gobeithio y bydd yr achlysur yma'n denu cymaint o bobl.  Mae'r achlysur am ddim ac mae croeso i unrhyw un sydd eisiau rhagor o wybodaeth am y llwybrau i waith sydd ar gael o fewn y Cyngor a gyda chwmnïau'r sector preifat.

Mewn ychydig dros 12 mis, bydd disgyblion ar hyd a lled RhCT yn dychwelyd i rai o gyfleusterau addysg gorau yng Nghymru wrth i ysgolion newydd, sy'n rhan o fuddsoddiad sylweddol cynllun Ysgolion yr 21ain Ganrif gwerth £90 miliwn, agor eu drysau. Er bod y daith o greu syniad hyd at wneud penderfyniad yn teimlo'n hir iawn, mae amser yn hedfan ar ôl pennu cyfeiriad. Er enghraifft, ychydig dros ddwy flynedd yn ôl, penderfynodd y Cyngor brynu cyfran fwyafrifol hen safle Dyffryn Taf ym Mhontypridd.  Mae gwaith mawr wedi cael ei wneud er mwyn i'r cynllun symud yn ei flaen ac mae'r Pwyllgor Cynllunio a Datblygu yn ystyried y cais am ganiatâd cynllunio'r wythnos yma.

Wedi ei bostio ar 05/09/2017