Ar ddiwedd yr wythnos diwethaf, es i i ymweld â Ffordd Mynydd y Maerdy er mwyn gweld cynnydd y gwaith peirianneg sylweddol ond hanfodol i wella safle'r tirlithriad a ddigwyddodd yn 2015 ar ochr Aberdâr y ffordd. Rydyn ni wedi sicrhau bod cynnydd parhaus wedi bod trwy gydol y prosiect cymhleth drwy weithio'n agos gyda'r contractwr er mwyn cwblhau'r gwaith yn ystod mis Medi. Fel y nodon ni cyn i'r gwaith ddechrau, roedden ni'n bwriadu cwblhau'r gwaith ym mis Medi, ac erbyn hyn rhagwelir y bydd y gwaith yn dod i ben erbyn 27 Medi.

Rydyn ni wedi manteisio ar y ffaith bod rhaid inni gau'r ffordd ac wedi ymgymryd â gwelliannau ychwanegol er mwyn paratoi'r ffordd ar gyfer y dyfodol a gwella ansawdd y llwybr. Roedd y gwaith ychwanegol yn cynnwys gosod wyneb newydd dros 6km, trwsio ac amnewid y waliau cynnal, a gwella'r system ddraenio.

Yr wythnos yma, bydd y Cabinet yn ystyried cyfleoedd i ddatblygu sawl ardal strategol ar gyfer twf economaidd a chreu swyddi ledled Rhondda Cynon Taf. Mae'r cynlluniau'n nodi sut mae pennu prosiectau tai, cludiant a seilwaith allweddol yn cynnig y potensial i ddatgloi cyfleoedd datblygu mewn lleoliadau allweddol ledled y Sir. Bwriad y dull yma yw sicrhau ein bod ni mewn sefyllfa da i fanteisio ar y cyfleoedd datblygu economaidd sydd ar gael i RCT drwy fentrau megis y Fargen Ddinesig a Thasglu'r Cymoedd. Mae'r pum ardal sydd wedi'u nodi yn cynnwys Porth Cynon, ardal ehangach Pontypridd a Threfforest, Tref Pontypridd, coridor yr A4119 Rhondda, a Llanilid ar yr M4.

Bydd trafodaethau'r wythnos yma yn dod â chyfanswm arbedion uwch reolwyr i £2.7 miliwn ers 2015. Roedd yr adroddiad cyfrinachol yn cynnig gostyngiad o £750,000 pellach i gostau uwch reolwyr trwy ailstrwythuro am bedwerydd tro a lleihau swyddi a swyddogaethau'r Prif Swyddogion. Bydd hefyd yn gweld cyflwyno'r ymrwymiad a gafodd ei wneud yn ystod etholiadau Llywodraeth Leol mis Mai.

Ymrwymiad cyhoeddus arall a drafododd y Cabinet yr wythnos yma oedd cyflwyno peilot grant cynnal canol y dref. Bydd y cynllun yn cael ei dreialu yn Nhonypandy ac Aberpennar er mwyn helpu i lywio cyflwyniad y cynllun pan gaiff ei gyflwyno mewn canol trefi eraill ar draws y Fwrdeistref Sirol yn y dyfodol. Bydd yn darparu cymorth ariannol i fasnachwyr a landlordiaid i ymgymryd â gwaith gwella i wedd eiddo yng nghanol y dref, gan gynyddu apêl esthetig blaen siopau a chreu canol trefi mwy bywiog.  Rydyn ni eisoes wedi cyflwyno sawl mesur i gynyddu nifer yr ymwelwyr i ganol trefi a rhoi hwb i'n heconomi leol, gan gynnwys ein menter boblogaidd ar gyfer parcio ceir yn rhatach neu am ddim yng nghanol y dref yn ogystal â gwelliannau gweledol i'n strydoedd drwy'r rhaglen #buddsoddiadRhCT

Yn olaf, diolch i'r holl drigolion a roddodd o'u hamser allan o'u diwrnod ar ddiwrnod glawog a dangos eu cefnogaeth i'r Gwarchodlu Cymreig, a oedd yn arfer eu hawl i orymdeithio fel rhai sydd wedi derbyn Rhyddfraint y Fwrdeistref Sirol ddydd Iau diwethaf. Mae'n fraint bob tro i allu mynychu'r achlysuron yma, ac roedd y gefnogaeth gan drigolion RhCT yn amlwg ac roedd y milwyr a oedd yn gorymdeithio drwy'r dref yn ei werthfawrogi'n fawr.

Wedi ei bostio ar 21/09/17