Heb os, mae hi wedi bod yn brysur yn Rhondda Cynon Taf dros yr wythnosau diwethaf gyda nifer o gyfarfodydd o'r Cyngor a'r Cabinet yn cael eu cynnal wrth i Aelodau gaboli gwaith paratoi ar gyfer 2019/20. Mae hyn yn cynnwys cymeradwyo manylion y rhaglenni cyfalaf Priffyrdd ac Addysg ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod. 

Unwaith eto, rydyn ni'n bwriadu adeiladu ar y buddsoddiad sylweddol rydyn ni wedi'i glustnodi i'r meysydd yma dros y blynyddoedd diweddar. Bydd Rhaglen Gyfalaf y Priffyrdd gwerth dros £25 miliwn a Rhaglen Addysg gwerth dros £26 miliwn ar gyfer y flwyddyn ariannol yma.  Bydd y dyraniadau buddsoddi yma yn caniatáu i ni barhau i ehangu cwmpas ein rhaglen wella i ragor o strydoedd ac ysgolion ledled Rhondda Cynon Taf. Rydw i'n siwr y bydd trigolion wedi sylwi ar y nifer o enghreifftiau o fuddsoddi yn eu cymunedau ac o'u cwmpas nhw trwy ein rhaglen #buddsoddiadRhCT ehangach.

Yn rhan o'n Rhaglen Priffyrdd gyfan ar gyfer 19/20, bydd dros £15 miliwn yn cael ei wario ar barhau i wella ystod o elfennau ffordd, gan gynnwys gosod wyneb newydd ar ffyrdd cerbydau a llwybrau troed, gwella ein hadeileddau, a chynnal cynlluniau diogelwch ar y ffordd ychwanegol.  O ganlyniad i'n buddsoddiad cyson hyd yn hyn, sy'n rhagori ar ein dyletswydd statudol, mae cyflwr cyffredinol ein ffyrdd wedi gwella'n sylweddol. Mae canran y ffyrdd dosbarthedig mae angen cwblhau gwaith cynnal a chadw arnyn nhw wedi gostwng o 15.7% yn 2010/11 i 4.8% yn unig yn 2018/19. Mae'r ystadegau yma yn well o'u cymharu ag Awdurdodau Lleol eraill yng Nghymru.  O ran cynnal gwaith trwsio priffyrdd, hoffwn i roi diolch i bob aelod o staff y Cyngor a chontractwyr am eu gwaith yn sicrhau i'r twll sylweddol o dan yr A4058 yn Nhrehopcyn gael ei drwsio yn gyflym.  Mewn sefyllfa waeth, gallai lleoliad y twll wedi achosi cyfnod o aflonyddwch sylweddol. Wedi dweud hynny, rydw i'n falch o gadarnhau bod y broblem wedi cael ei datrys a chafodd y ffordd ei hailagor cyn yr adeg brysuraf fore Llun.

Wrth drafod pwnc rhwydwaith priffyrdd, byddwn ni hefyd yn dyrannu cyllid pellach dros y flwyddyn ariannol yma i ddatblygu nifer o brosiectau seilwaith strategol allweddol mae'r Cyngor wedi ymrwymo i'w cyflawni dros y cyfnod yma. Mae hyn yn cynnwys £2.389 miliwn ar gyfer Ffordd Gyswllt ar draws y Cwm yn Aberpennar, £1.633 miliwn ar gyfer Ffordd Osgoi Llanharan a £2.611 miliwn ar gyfer gwaith deuoli'r A4119 rhwng Coed-elái ac Ynysmaerdy.  Dyma brosiectau seilwaith mawr uchelgeisiol fydd yn cael effaith bendant ar ein rhwydwaith priffyrdd, a byddan nhw'n gwneud gwahaniaeth sylweddol i drigolion a chymudwyr yn yr ardaloedd dan sylw.

Rydyn ni hefyd yn dyrannu dros £1.4 miliwn i gynyddu nifer y lleoedd parcio mewn safleoedd Parcio a Theithio ledled y Fwrdeistref Sirol wrth i ni baratoi i weithredu Metro De Cymru erbyn diwedd 2022. Bydd hyn yn gwella cyfleusterau trafnidiaeth gyhoeddus a chynyddu amlder gwasanaethau trafnidiaeth ac, yn ei dro, yn annog rhagor o bobl i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus i gymudo.  Yn dilyn buddsoddiad y flwyddyn ddiwethaf, mae gwaith gwerth dros £1 miliwn, a gafodd ei ariannu gan Lywodraeth Cymru, i greu 310 o leoedd parcio ychwanegol yng nghyfleuster Parcio a Theithio Abercynon wedi dod i ben.  Mae'r cynllun sylweddol yma wedi defnyddio tir nad oedd yn cael ei ddefnyddio, wrth fodloni'r galw presennol a galluogi'r cyfleuster i ymdopi â'r cynnydd disgwyliedig wrth i ddatblygiad y Metro ddod i rym dros y pedair blynedd nesaf.

Yng nghyfarfod y Cyngor yr wythnos ddiwethaf, nodais y byddwn ni'n darparu gwasanaeth di-wifr am ddim yng nghanol saith o'n prif drefi dros y flwyddyn ariannol yma, a hynny yn ogystal â gwella camerâu teledu cylch cyfyng mewn ymdrech bellach i gefnogi ein strydoedd mawr.  Bydd manylion pellach y cynllun yn cael eu cyhoeddi yn fuan, ond rydyn ni'n effro i nifer o faterion mae rhaid i ni eu hystyried wrth gyflawni hyn. Rydw i'n siwr mai dyma gam mae'r Cyngor yn ei gymryd a fydd yn cael ei groesawu gan fasnachwyr a chwsmeriaid.  Rydw i'n falch o gadarnhau y byddwn ni'n cadw at ein trefniadau parcio am ddim/am bris gostyngol yn 2019/20, ac rydyn ni hefyd yn adeiladu ar lwyddiant ein Grant Cynnal Canol Trefi poblogaidd trwy ehangu'r cynllun i ganol tair tref – y Porth, Glynrhedynog ac Aberdâr. Amcan y grant yw gwella blaenau siopau yn y mannau adwerthu.

Wedi ei bostio ar 04/04/19