Skip to main content

Taith Gerdded Mins Peis Flynyddol

 
 
Lleoliad
parcio Canolfan Hamdden Llantrisant
Date(s)
Dydd Sul 17 Rhagfyr 2017
Cyswllt
Contact Alison on 01443 223796
Disgrifiad

Amser: 9.30am

Dewch i ymuno â ni ar gyfer taith gerdded 3.5 milltir sy'n gorffen yn Neuadd Caerlan, Newbridge Road ble bydd modd i chi fwynhau mins peis cartref a gwin poeth. Ar ôl tretio'ch hun, bydd modd i chi gymryd rhan mewn daith gerdded arall 4.5 milltir. Dewch â phecyn bwyd gyda chi os ydych chi am wneud y daith gerdded hirach hefyd! Mae croeso i blant a chŵn da (ar dennyn) ymuno â ni. Yn anffodus, dydy'r daith gerdded ddim yn addas ar gyfer pramiau neu gadeiriau olwyn (sori). Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n gwisgo esgidiau sy'n addas ar gyfer y llwybrau mwdlyd a chôt gwrth-ddŵr rhag ofn! Mae croeso i chi wisgo hetiau Nadoligaidd! Does dim angen cadw lle, dewch yn llu!

Byddwn ni'n cwrdd ym maes parcio Canolfan Hamdden Llantrisant am 9.15am er mwyn dechrau am 9.30am.