Amser: 12:00 - 13:00
Dewch i gefnogi achlysur bach Y Gwarchodlu Cymreig gydag aelodau teulu Sarsiant Bye ac aelodau'r Cyngor.
Bydd yr achlysur yn cael ei gynnal ger carreg goffa Sarsiant Robert Bye GF ym Mharc Coffa Ynysangharad. Bydd hyn yn dathlu 100 mlynedd ers ei ymdrechion yng Nghamlas Yser, Gwlad Belg (31 Gorffennaf 1917) yn ystod Trydedd Frwydr Ypres. Dyfarnwyd ei fod yn haeddu'r Groes Fictoria oherwydd ei ddewrder yn y frwydr yma.
Am ragor o wybodaeth e-bostiwch INFHQ-FTGDS-WG-OfficeMgr@mod.uk neu ffoniwch 0207 414 3291.